Annwyl ddarllennydd, diolch am ddod o hyd i mi, rydw i’n gwerthfawrogi’ch amser i ddod yma! Hwn yw fy nghynnig cyntaf ar flogio gyda WordPress. Mi fyddaf yn ‘sgwennu storïau byrrion yma, yn seiliedig ar gymeriadau mewn pentref wledig ffug yng nghefn gwlad Cymru. Storïau ffantasi fydd y rhain o natur erotig hoyw ran amlaf. O erdych o nghwmpas tydw i heb ddod ar draws llawer o waith ffug ysgrifennedig yn y Gymraeg yn ymwneud â ac yn seiliedig ar ddynion hoyw a’u bywyd rhywiol felly dyma fy ymdrech i i ddod a deunydd i Gymry hoyw sydd efallai eisiau darllen rhywbeth sydd yn wahanol, ac yn Gymraeg!