Ia, croeso annwyl ddarllennwr, Cwïar Cymraeg ydy beth ydw i wedi galw fy hun am mai, wel, dyna ydw i. Pam y gair ‘cwïar’ gofynnwch? Wel, dwi’n meddwl bo hi’n hen bryd i ni fel pobl LHDTC+ hawlio meddiant y gair yn ôl  – ac, am reswm hollol wahanol, mi dwi’n hoffi medru defnyddio geiriau sy’n cynnwys didolnodau (umlaut) yn y Gymraeg, rhywsut  i mi mae’r rhain yn gwneud ein hiaith yn fwy Ewropeaidd, be da chi’n feddwl?

A sôn am Gymraeg, maddeuwch i mi am y cam-sillafu sydd i ddod, – ac yn sâff i chi, mi fydd yma lawer iawn o’r rheiny. Mi fydd yma ambell i air efallai  bob hyn a hyn yn Saesneg neu wedi ei fenthyg o’r iaith honno o leiaf, mi gawn ni weld sut yr eith hi ia?

Mwy am y blog rwan ta. Wel, fy mwriad ydy ysgrifennu storïau byrr erotig am fywydau pobl mewn ardal wledig ffug yng Nghymru. Mae’r mwyafrif o’r cymeriadau yma’n Gymraeg eu hiaith ac wedi eu magu, neu o leiaf wedi byw rhan fwyaf o’u bywydau’n yr un ardal. Mae’r rhan helaeth o’r cymeriadau’n rhywle ar yr ochr LHDTC+ o’r sbectrwm rhywioldeb gydag ambell eithriad bob hyn a hyn. Pam erotig medda chitha? Wel, am fy mod i fel dyn hoyw Cymraeg  heb ddod ar draws fawr ddim llenyddiaeth o’r fath yn fy iaith gyntaf. Tydw i ddim yn gwybod pam, efallai mod i heb wedi chwilio’n y lle iawn, efallai nad oes y Cymry Cymraeg, hoyw neu ddim, ddim eisiau darllen ffasiwn beth? Efallai fod ein agweddau ni fel cenedl yn dal i fod yn rhwym i agweddau crefyddol amser grym y capeli’r ganrif ddweuthaf? Efallai ein bod ni’n darllen llenyddiaeth erotig mewn iaith arall, ac yn sgîl hyn yn gwadu ein bod ni angen rhywbeth tebyg yn Gymraeg?  – Neu hwyrach bod ein bywydau rhywiol ni fel Cymry mor amryliw fel nad oes gofyn am ffasiwn lenyddiaeth! Os mai hynny yw’r gwir, mam bach, mae’n raid mod i’n colli allan ta!

Felly, dyma ni, mi ddechreuwn ni. Hwn yw’ch unig rybydd, fel y clywch chi ar y teledu;

 “….mae’r rhaglen hon yn cynnwys iaith grêf a golygfeydd o natur rywiol o’r cychwyn!”  

….dim gymaint o’r ‘golygfeydd’ yma’n amlwg, mi fydd raid i chi ddefnyddio’ch dychymyg i gyfleu’r sefyllfaoedd yn y storïau hyn i’ch pennau chi.

Diolch eto, a mwynhewch!

Gadael sylw