Eisteddodd Cai’n nol yn ei gadair ag edrychodd allan o’r ffenestr. Gwyliodd breswylwyr Porthyfelin yn mynd o gwmpas eu busnes arferol. Edrychodd ymhellach allan tua’r mor a gweld llong gargo anferth yn hwylio heibio ar y gorwel ar ei ffordd o un o borthladdoedd anferth Ewrop i Ddulyn neu Lerpwl, ac yn nes ato o lawer sylwodd ar wylanod ar y traeth yn pigo ar dywod gwlyb y trai. Oedd, roedd bywyd yn mynd yn ei flaen. Roedd Cai wedi eistedd ar yr un gadair wrth yr un bwrdd ag oedd o wedi wneud brin tair diwrnod ynghynt lle y cafodd y sgwrs honno hefo Mari, a bu newid byd ar ei fywyd ers hynny.
Teimlai’n drist uffernol. Roedd o’n gweld ei cholli hi’n ofnadwy ac hefyd ar yr un pryd, teimlai mai ei fai o oedd hyn i gyd ond doedd dim dewis ganddo mond i ddweud wrthi ei deimladau. Roedd o’n gwybod ym mer ei esgyrn ei fod wedi gwneud y peth iawn yn y diwedd, roedd y gath allan o’r cwd bellach, – ac mi roedd yntau allan o’r ‘closet’ fel y dywedant yn Saesneg. Ac wrth feddwl am y dywediad hynny daeth how-wen ar ei wyneb. Hon oedd y wen gyntaf ers dyddiau, gwen fregus iawn, ond, ia, gwen o leiaf, a theilodd ‘rom bach gwell.
“Dyna chdi washi, dau dost – heb grasu gormod fel y gofynnist di, a marmaled, a te. Mwynha.” Gosododd Richard y brecwast ar y bwrdd o flaen Cai gyda gwen, yna, yn lle gadael i Cai ddechrau mwynhau ei fwyd, eisteddodd yn y sedd gyferbyn, – yn union lle eisteddodd Mari’r diwrnod honno pan gafo nhw’r sgwrs. “Yli, Cai, tydy o ddim o ‘musnes i ond, fel y gwyddost ti mae Mari’n ffrind da i mi a mae hi wedi deud wrtha’i beth ddigwyddodd rhyngtho chi…”
Teimlodd Cai’r wen a oedd wedi mentro ar ei wyneb cryn funud ynghynt yn diflannu, a meddyliodd ella’i bod hi wedi bod y rhy gynnar i feddwl trio bod yn hapus eto, a pha hawl oedd ganddo i fod y hapus eniwe? Ond doedd dim raid i Cai boeni, cymeryd eiliad i feddwl sut i strwythuro’i feddyliau oedd Richard..
“….a dwi mond isho deud wrtha ti mod i’n dalld oce? ‘Da ni gyd wedi bod yn y sefyllfa yma, – tydy ‘dŵad allan’ – yn hoyw, ddeu-rywiol neu beth bynnag ddim yn beth hawdd i neb, mae’n cymeryd gyts, a mae o’n bownd o frifo pobl ti’n garu am ychydig. Ond ti’n gwybod be? Os ydy’r bobl yna’n dy garu di fel person, mi ddown nhw rownd, jest dyro amser iddyn nhw. Ond tydy’r ffaith dy fod ti wedi dŵad allan i Mari a dy deulu ddim yn golygu mai dyma fydd ei diwadd hi cofia, -mi fydd gofyn i ti ‘ddŵad allan’ ugeiniau os nad cannoedd o weithiau yn ystod dy oes, ond, mae o yn mynd yn haws coelia di fi. Ella mai chdi ydy ‘stori fawr’ y pentra ‘ma heddiw ond buan iawn fydd pennau bach y lle ‘ma wedi symud ymlaen at y ‘sgandal’ nesa. Jest meddylia – ti ‘di gwneud y rhan anoddaf rŵan do. Rŵan gei di ddechrau meddwl am weddill dy fywyd, meddylai ecseiting fydd hynna’n de! Jest cofia, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun, – hyd yn oed yn y pentra bach ‘ma. ‘Wan, mwynha dy dost cyn iddo fo fynd yn oer.” Meddai Richard wrth roi winc i Cai a gadael y bwrdd a mynd nol at y cowntar at gwsmer a oedd newydd gyrraedd cafi Torri Syched.
Cymerodd Cai damaid o’i dost i guddio’r ffaith ei fod jest a chrio, ag roedd hi’n joban anodd llyncu’r bara cras wrth geulo’r teimladau. Doedd o ddim yn adnabod Richard gymaint a hynny ond gwyddai ei fod yn hoyw. Roedd cyfeillgarwch dieithriaid wedi dangos ei hun i fod yn werthfawr iawn meddyliodd wrth ei hun a gyda hynna cymerodd lowciad o’r te o’i flaen. Trechwyd y dagrau a fygythiodd i ddod i’r wyneb wrth i Cai werthfawrogi geiriau cynnes Richard, a theimlodd y wen yn dychwelyd, – oedd mi oedd o’n iawn, – mi gaiff ddechrau meddwl am weddill ei fywyd rŵan, a mwynhaodd y tost, cyn iddo fynd yn rhy oer.
“Ding-a-ling-a-ling-a-ling” Cyhoeddodd cloch y drws ddyfodiad mwy o gwsmeriaid i’r caffi. “Iawn ‘ogia, be gymerwch chi?” Clywodd Cai Richard yn eu cyfarch wrth y cowntar. Trodd yntau rownd i weld pwy oedd yno, rag ofn ei fod yn ei adnabod. Roedd Cai’n foi cymdeithasol ac yn adnabod ag yn ffrindiau gyda bron i bawb yn y pentref. Tri llanc oedd yno, yn fengach na fo’i hun, mwyaf tebyg, o ran eu hedrychiad eu bod yn y chweched dosbarth yn yr ysgol uwchradd, ond doedd o ddim yn eu hadnabod, felly dychwelodd i yfed ei baned a dilyn y long gargo ar hyd y gorwel.
“Sbïwch pwy sy ‘fama hogia, Cai myn uffar i…” Meddai ‘r talaf o’r tri llanc wrth y cowntar. Trodd Cai ôl rownd i edrych arno, – efallai ei fod o yn ei hadnabod wedi’r cyfan? Oedd y llanc yn ei adnabod o beth bynnag, – ond na, methodd feddwl pwy oedd yr un o’r tri a oedd bellach yn cerdded tuag at ei fwrdd. “Pansan Porthyfelin, ein cwiar mwyaf newydd ni ‘ogia. Hwn ddaru dympio’r slasan ‘na am ei fod o’n lecio cael ei bymio. Yr homo uffar!” Poerodd y llanc ei eiriau cas allan wrth sefyll dros Cai. Edrychodd i fyw llygid Cai gyda casineb pur a malais nad oedd Cai wedi cael eiliad i baratoi at, a na wyddai sut i ymteb i.
“Sglyfath budur, mae ‘na ddigon o homos yn y pentra ‘ma’n barod, – da ni im isho mwy.” Ategodd cyn i un o’i fets gael hyder i ychwanegu “Tisho coc efo dy dost? Ffansio ‘chydig o hyn wyt?” meddai gan gymeryd gafael o’i goc a’i gwd yn ei law yn ei shorts cotwm reit yng ngwyneb Cai. Piffian chwerthin ddaru’r tri llanc dros y caffi gan greu awyrgylch annifyr.
“Iawn hogia, dwi ‘im isho trwbwl iawn, jest gadwch lonnydd i mi plîs, iawn?” Plediodd Cai heb wybod sut i ymateb i’r bwlio. Doedd o erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen a hon oedd y tro cyntaf iddo fod mewn sefyllfa lle roedd yn cae ei fwlio. Os mai hyn oedd Richard wedi ei olygu hefo’i ‘meddwl am weddill dy fywyd’, doedd Cai ddim yn hoffi’r dechrau newydd ‘ecseiting’ yma o leiaf. Dodd o erioed wedi cael ei wrywdod ei gwestiynu na’i fygwth’r blaen, roedd hyn yn rywbeth hollol newydd iddo.
“‘Dwim isho trwbwl’? Pam, be’ ti am neud y cwiar bach, – ti am repio ni? Dyna be tisho neud de, ti isho rhoi dy goc fach homo di’n ein tina’ ni does? Da’ ni’n gwbod be ma homos fel chi’n ei neud. Shyrt-lifftyr. Ffycin afiach!”
“Andi, stopia rwan, ti’n mynd rhy bell sdi.” Meddai’r trydydd llanc, y distawaf o’r tri a oedd yn sylweddoli y gallai hyn fynd tros ben llestri unryw funud a throi’n eu herbyn, ac wrth sylwi fod ei fet yn mwynhau hyn ormod, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud dim arall daeth Richard heibio.
” Ffwcia’i o ma’r bastad bach, ‘da ni im isho bwlis fatha chdi a dy griw’n fama. Does na ddim croeso i homoffôbs fel chi’n y caffi ‘ma, na nunlla’n Porthyfelin, na nunlla o gwbwl, DALLD! Go-on, ffyc off!” Gafaelodd Richard yng ngholer yr Andi yma a’i daflu allan o’r caffi, brasgamodd yr ail lanc allan ar ei ôl fel ryw gi bach ufudd, ond wrth i’r trydydd a’r distawa adael, trodd rownd yn sydyn a sibrydodd wrth Richard a Cai ar yr un pryd “Sori am hyna, dwn im be’ ddoth drosto fo oce?” Caeodd Richard ddrws y caffi a gadawodd ei law ar y dwrn drws nes ei fod yn fodlon fod y criw wedi diflannu lawr stryd.
Eisteddodd gyda Cai a oedd bellach yn ei ddagrau a’i wyneb yn ei ddwylo. “Dwi’n ffwcin casáu hyn, mae hyn mor crap. Be’ dwi ‘di neud i haeddu hyn? Ffor ffycsecs. Be’ o ni i fod i’neud? Dwi isho rhedag ar eu hola’ nhw a’u ffycin leinio nhw! ” Tynnodd Richard ddwylo Cai o wyneb y cradur. Roedd dagrau o dristwch a gwylltineb yn llifo lawr y bochau coch ac i’w locsyn byr. “Gwranda, mi nes di’n iawn i beidio ag ymateb iddyn nhw hefo dy ddyrnau. Dwi’n gwybod dy fod yn foi cryf a mi fysa ti wedi medru’i malu nhw’n rhacs, ond ti’n gwybod be, tydy nhw ddim ei werth o, a chdi fydda’n cael dy arestio, am GBH neu rwbath wedyn yn de. Yli, jest idiots oedda’ nhw, down nhw ddim yn ôl i fama, coelia di fi iawn?” Ceisiodd Richard ei gysuro hefo’i eiriau a rhoddodd ei freichau amdano.
“Y ffycin wancar bach ‘na, pwy mae o’n feddwl ydy o?” Meddai Cai wrth dderbyn hyg Richard yn ddiolchgar. “Hidia befo fo na’i blydi seid-cics pathetig, yn anffodus Cai mi ddoi di ar draws pobol felly, a ti’n gwybod fod ganddo nhw ddim hawl i ddeud pethau felly’n dwyt? Mae gin ti hawl i’w riportio nhw i’r heddlu.”
“Oes, dwi’n dalld hynny ond, bysa hynny’n golygu ‘dŵad allan’ eto a chreu mwy o helynt. Dwi jest isho llonydd ti’n gwybod?” Gallai Cai ddim wynebu mwy o stŵr am rŵan.
“Iawn, fydda ddim raid i chdi neud rŵan hyn, mond cofia bicio’i fewn at yr heddlu pan ti’n barod ia? A gofyn am PC Roberts, y fo di’r boi sy’n delo hefo petha’ fel’ma” Awgrymodd Richard wrth edrych i fyw llygid Cai i wneud yn siŵr fod y neges wedi’i chofrestru.
“Diolch Rich….ga’i alw chdi’n Rich….?” Gofynodd Cai i’w ffrind newydd, roedd o’n falch fod ganddo rhywun oedd yn barod i sefyll i fyny drosto rŵan fod ei fywyd ‘stret’ a’r holl bendantrwydd a ddaeth hefo’r bywyd hynna ar ben. Roedd bod yn ‘normal’ a ‘stret’ wedi golygu parch ddi-gwestiwn gan bawb, hogan ar ei fraich yn cerdded lawr y stryd, gem o ddarts hefo’r hogia ar b’nawniau Sadwrn diog yn y dafarn leol, joban handi yn y garej yng nghanol y pentref. A rŵan, rŵan oedd raid ail-ddechrau gyda ‘label’ arall. Roedd raid dechrau eto’n gwybod fod pawb arall yn gwybod ei fusnes a’i hanes. Beth fyddai ymateb ei ffrindiau gwaith, ei fêts yn y gampfa rŵan – a be’ ddigwyddith pan fydd o’n cymeryd cawod ar ôl gweithio allan? Fydda nhw’n byhafio’n wahanol am ei fod yn ddeu-rywiol? Sut oedd o am ffendio cariad rŵan? – A’i ‘cariad’ oedd y term newydd, ynteu ‘partner’? A phwy fydda’n ymddiried eu calon iddo fo rŵan eniwe? A dyn neu ddynes fydd y person yna? Fydda fo’n teimlo’n unig a byth………?
” Cei siŵr, galwa fi’n be’ bynnag tisho met, iawn? Fydda’i yma i chdi oce, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun iawn…a mae Marc a Tom ar Stryd y Llan no i wrando arna chdi hefyd unryw dro, – do, sori, mi neshi son wrtha nhwtha, gobeithio ti ‘im yn meindio?” Sylwodd Richard efallai ei fod wedi dweud gormod wrth ddatgan ei fod wedi son i’w ffrindiau amdano’r noson o’r blaen ar ôl ychydig gormod o’u gwin coch drud.
“Na, na dwi ddim yn meindo..dwi’n gwybod pwy ydy Marc a Tom, mi welish i nhw’n ddiweddar ar Ben Foel..” Stopiodd yn sydyn wrth gofio am y sefyllfa y gwelodd o’r cwpwl yn ffwcio ar Ben Foel y p’nawn poeth honno’n yr eithin.
“Champion ta, da ni’n iawn ‘llu, da iawn chdi washi, – dwi’n prowd ohonna chdi. Ti am band arall, mae honna wedi oeri gin ti?” Holodd Richard, cododd oddi ar y gadair a chymeryd paned oer ei ffrind newydd, aeth at y cowntar i wneud paned boeth arall.
Cymerodd Cai anadl ddrom ac edrychodd allan eto. Roedd y long gargo wedi hen fynd yn ei blaen i’r Iwerddon neu Lannau Merswy, – a dyna fu raid iddo yntau ei wneud rŵan meddyliodd, – symud ymlaen.