“OOOO, mae’n iawn arno chi’ch dau, da chi’n sorted. Mae pawb arall yn sorted hefyd, pawb wedi ffendio’u partner-for-life, happy families bla bla bla…” Oedd, mi roedd gan Richard ddigon i’w ddweud. Yn amlwg roedd byw ar ei ben ei hun yn rhoi llawer o amser rhydd iddo fo feddwl am bethau a llawer o amser iddo fo siarad hefo’i hun am bethau, ond, dim llawer o amser i siarad a neb arall a chlywed ochr arall i unryw geiniog, roedd hynna’n amlwg! Oedd, mi oedd yn cael siarad a sgwrsio hefo’i gwsmeriaid yn Torri Syched ond doedd hynny ddim yr un peth o gwbl, – gwaith oedd hynny.
Ar ôl cau’r caffi am y dydd, roedd Richard wedi derbyn cynnig gan ei ffrindiau i ddod draw i’w cartref nhw am ddiod bach a swper.
Eistedd ar un pen o’r soffa ddwy-sedd oedd Richard ar y pryd ac yn ail-drefnu clustog bach y tu ôl iddo a oedd yn peri cryn dipyn o anghyfforddusrwydd i waelod ei gefn, gan gysidro mai mond clustog oedd hi pan ddaeth allan gyda’r datganiad am bawb arall.
“Ia, ti’n hollol iawn Rich, chdi sy’n ffric, mae pawb arall yn y BYD wedi paru a setloi’i lawr, a chdi ydy’r unig berson sengl sydd ar ôl, – llongyfarchiadau!” Atebodd Tom yn chwareus wrth gynnig gwydriad arall o win coch i’w ffrind gorau.
“O piss off y diawl sbeitlyd, go wir ‘wan Tom, sbïa o dy gwmpas, pam mod i dal yn sengl o hyd? – Mi da chi’ch dau fel y blydi Waltons, hefo bob dim yn berffaith. A mae phawb arall yn un a’i’n cynllunio’u priodasau perffaith neu’n fflio i ffwrdd i’r llefydd rhamantaidd ymesing ‘ma. A lle dwi? Gweithio bob diwrnod yng nghaffi fy yncl, dim partner, dim holides, a byw mewn fflat bach poci un-lloft.” Gwyddai Richard ar ôl gorffen dweud ei ddweud ei fod braidd wedi mynd dros ben llestri, a’i fod braidd yn swnio fel Bridget Jones Porthyfelin. Doedd o ddim o ddifrif yn coelio bod ei fywyd yn digwydd bod cyn waelaed a’i rant olaf, a bod yn onest, roedd o’n ddigon hapus a’i fywyd rhan helaeth o’r amser. Cymerodd jochiad o’i win coch cyn sbio ar ei ffrind, “Sori, tydy hynna ddim yn cweit yn wir nag’di.” A chwerthodd y ddau fel plant ysgol direidus.
“Drama drama drama de Rich, tydy’r gwelld ddim yn lasach ar yr ochr arall o hyd cofia” meddai Tom.
“O diolch, pwy wyt ti mwyaf sydyn, – Gandalf neu rywbeth?” Meddai Richard gan bwnio penglin Tom yn ysgafn.
“”Beth neu phwy sy’ wedi dy gorddi di met? Deud wrthai, ti’n gwybod cei di ddweud unryw beth i mi, ‘da ni’n ‘nabod ein gilydd ers fflipin Babanod!” Annogodd Tom i’w ffrind agor fyny a rhannu ei ofidion, gwyddai na fyddai Richard yn un da i rannu emosiynau na theimladau, hyd yn oed i’w ffrind gorau. Symudodd i eistedd y nes wrth ei ochr ar y soffa, ac yn syth bin tynnodd glustog bach o’r tu ôl iddo a’i daflu ar y soffa gyferbyn “..blydi hel , mae’r glustog yna’n hegar ar gefn rywun, heblaw na phresant Dolig gan Mam Marc ydy hi, mi fysa wedi cael ffling fisoedd yn ôl i ti!”
Tros swper o dapas cartref a macarŵns a baratowyd gan Marc, ynghyd a mwy (a mwy) o win coch, mi aeth y noson yn ei blaen yn ddigon hwylus, a theimlodd Richard bwysau’r byd yn codi oddi ar ei ysgwyddau. Oedd, mi roedd hi’n braf medru gwario amser gyda’i ffrindiau a chael dal i fyny’n iawn. Roedd gan Marc a Tom waith a dalai’n dda’n y dref, un yn dwrna a’r llall yn gweithio gyda elusen ar gyfer pobl ag anhawsterau meddwl, ac oherwydd hyn, mi fyddant fel arfer yn gweithio’n hwyr pob noson. Er eu bod yn gwpwl ers chwe mlynedd, dim ond ers blwyddyn a hanner yr oeddynt wedi priodi. Roedd y ddau’n meddwl y byd o Richard ac yn mwynhau bod yn ei gwmni a chael gwrando ar ei storïau diweddaraf o chwarae o gwmpas hefo’r Carwyn ‘ma. Doeddynt heb gyfarfod Carwyn, ac ar brydiau roeddynt hyd yn oed wedi dechrau meddwl mai rhan o ffantasi Richard oedd y cwbl ond, roeddynt wedi penderfynu fod gan y ffarmwr yma, go iawn a’i peidio, le pwysig yng nghalon Richard.
Rhywbryd yn ystod y drydydd potelad o win rhyngthynt, datgelodd Richard y newyddion am ei ffrind Mari a’i chariad Cai , a’r sgwrs yn y caffi ychydig ddyddiau’n ôl.
“O hogia, dwi’n deud wrtha chi, pan oedd o’n sefyll o ‘mlaen i wrth y cowntar ‘na de, – o ni’n gobsmacked. Doeddwn i erioed wedi sylwi arno fo o’r blaen a bod yn onest – da chi’n gwybod? Ond y ffordd oedd o’n jest yn sefyll yno’n socian o’r glaw, – ei grys-t fo’n glynu i’w gorff o, – oeddwn i’n gallu gweld fod gannddo fo’r pecs bach neis ‘ma, a’i fod o heb siafio, da chi’n gwybod pan mae gan ddyn stybl ar ei frest a phan mae hwnnw’n eich pigo chi wrth……, wwww, lyfli.” Oedodd i gymeryd llowciad arall o’r gwin.
“A wedyn ar ôl iddo fo dalu am y te, mi roish i’r newid iddo fo ac mi sbïodd i fyw fy llygid i, ac mi geshi gws-pimpls! O ni’n amau bod ‘na fwy i’r boi ‘ma.”
“Rich, ti’n dychmygu’r petha ‘ma sdi. Mae o mor amlwg ei fod o’n stret, – ac yn mynd allan hefo Mari, – dy ffrind, ti’n cofio honna?” Meddai Marc, yn siwr fod Richard wedi symud i fyw i’w fyd ffantasi bellach.
“Na Marc, gweitchia funud bach, tydy’r stori heb orffan eto! Pan aeth o hefo’r te i eistedd hefo Mari, mi aeth pethau’n chwâl rhyngthyn nhw. Neshim clywed yn iawn achos o ni’n trio peidio gwrando ac oedd hi’n ocwyrd uffernol ond o ni methu peidio. O ni’n gorfod cogio twtio, a llnau rownd peiriant coffi. Wel, yn y diwadd, mi orffennodd Mari hefo Cai, – dyna ydy enw fo, am ei fod o wedi deud wrthi ei fod yn ddeu-rywiol! O, o ni’n gweld bechod dros Mari de, ond oedd hi’n ymesing, y ffordd ddaru hi ddelio hefo’r holl beth chwarae teg iddi. Ac eto, o ni’n gweld bechod dros y fo hefyd achos dim ei fai o ydy o mewn ffordd yn naci? Does ganddo fo ddim mor help dros ei deimladau nagoes?”
Teimlodd Richard fymryn o euogrwydd am rannu’r hanes hefo’i ffrindiau ac eto ar y llaw arall roedd y rhyddhad o gael son hefo rhywun am y peth yn grêt!
“‘Sgiwshich fi am funud hogs, mae’n raid i mi fenthyg eich ty bach chi.” Ac off aeth Richard i’r lle chwech gan adael y cwpwl yn gwynebu eu gilydd ar y naill soffa.”Waw, mae hynna’n stori a hanner, – dwi ddim yn meddwl mod i’n nabod neb sy’n ddeu-rywiol yn y pentref ‘ma, wel, heblaw am ti’n-gwybod-pwy yn de.” Meddai Tom wrth sibrwd a wincio wth beidio dweud enw’r person ddeu-rywiol arall o’r pentref.
“Mae’n raid fod ‘na lawer o bobl yn ddeu-rywiol o gwmpas yn does, ella tydy nhw ddim yn meddwl eu bod nhw, neu ella’u bod nhw’n gwadu’r ffaith bo nhw’n ffansio rhywun o ryw arall, – neu fel arall os ydy nhw’n hoyw am ‘wn i.” Ceisiodd Marc dangos ei fod yn deall mwy am y pwnc nag yr oedd mewn difrif. – Roedd y gwin coch yn amlwg wedi cael y gorau ohono, a phawb arall erbyn hyn, ac roedd ceisio gwneud synnwyr o unryw rywioldeb yn gwis i’r ymennydd.
“Marc, dwi meddwl bo chdi wedi meddwi rom bach” Awgrymodd Tom wrth dywallt y dropyn olaf o’r potelad olaf i wydryn Richard cyn iddo ddod nol o’r ty bach. “…Ydan ni am ddeud wrtha fo am ein ‘sdafell…….” ond cyn i Tom gael gorffen ei gwestiwn roedd Richard ar ei ffordd yn ôl, ac aeth ddim pellach gyda’i gwestiwn. Eisteddodd yn ôl ar y soffa a gafaelodd yn ei wydriad eto., cymerodd jochiad cyn dechrau’r sgwrs neasf…
“Neshi son wrtha chi mod i wedi gweld Carwyn eto’n do, – yn y Ship ychydig yn ôl? Ddaeth o adra hefo fi a…….”