Yn dilyn noson hwyliog, os nad braidd yn feddwol erbyn y diwedd, yng nghwmni ei ffrindiau Tom a Marc, penderfynodd Richard byddai amser o Porthyfelin yn gwneud lles mawr iddo, ond mynd i ble, dyna oedd y peth?
“Mi oedd hyn yn syniad da, – jest be o ni ‘angen.” Meddai Richard wrtho’i hun wrth edrych allan o’r ffenestr ar y wlad yn brysur wibio heibio. Doedd o ddim yn siŵr os mai trio perswadio’i hun oedd o wrth yngan y ffasiwn ddatgan ynteu oedd o’n wirioneddol gredadwy yn ei eiriau ei hun.
Eisteddodd yn ei ôl yn ei sedd, teimlodd ei hun yn ymlacio drwyddo, teimlodd y clymau’n ei stumog i gyd yn daffodd. Cymerodd lwnc o’r te oedd o newydd ei brynu bum munud yng nghynt gan y dyn ddaeth lawr hyd y cerbyd hefo’i droli de. Chwarae teg i’r boi roedd wedi rhoi chwaneg o lefrith ym mhaned Richard fel oedd o wedi ofyn am, te gwan llaethog oedd o’n ei hoffi, ‘te piso cath’ fel fyddai ei ffrind Tom yn ei ddweud.
Edrychodd o’i gwmpas a doedd fawr o neb arall yn yr un cerbyd, – un o drenau bach y wlad oedd hon yn gwasanaethu gorsafoedd bychan lleol ran amlaf, a’r drên yma oedd yr un rhwng yr awr frys a’r gwasanaeth hwyrach pan fyddai pobl ifanc yn hwylio i fynd allan am y nos yn llawn colur, seidr a gobeithion. Roedd y gwasanaeth distawach yma’n siwtio Richard i’r dim, cai lonnydd a distawrwydd i feddwl a rhoi’r byd yn ei le, neu hyd yn oed i droi i ffwrdd yn gyfan gwbl a cael ei hudo gan sŵn y drên yn symud tros y cledrau a gan y byd natur y tu allan. Gwyddai, er ei fod yn edrych am lonnydd, mai mynd i’r dref am ychydig o ddyddiau fyddai ddim dewis pawb!
“O pam Rich? Pam bo chdi’n mynd ar ben dy hun i’r lle swnllyd ‘na? Fedra i ‘im meddwl am ddim byd gwaeth cofia. ‘Sa well gin ti ddŵad allan hefo ni, – gawn ni farbeciw a ‘chydig o gania ar y traeth cyn mynd am sesh yn y Ship! Gawn ni laff, c’mon!!” Chwarae teg i Mari, rhwng bob dim oedd wedi digwydd iddi tros yr Haf, – colli ei chariad, a symud i’r brifysgol yn y ddinas, roedd hi dal wedi aros mewn cyswllt a Richard a pharhânt i fod yn ffrindiau agos. Roedd Mari wedi dod adref o’r brifysgol am benwythnos penblwydd ei chwaer a’r parti i ddathlu a oedd yn y Ship ar y nos Sadwrn.
Ond na, gwrthod yn glen ddaru’r hen Rich, er mi fyddai dal i fyny hefo Mari wedi bod yn ddelfrydol ar unryw adeg gwahanol ond ar y funud, roedd Richard angen brêc o’r pentref. Er ei fod yn caru byw’n nghanol bwrlwm cymdeithas glos a chyfeillgar Porthyfelin, weithiau gallai hynny deimlo’n glostroffobig a theimlodd Richard yr ysfa i ddennyg o’r swigen gefn gwlad am noson neu ddwy.
Felly, ar ddiwedd ei shifft brynhawn yng Ngahffi Torri Syched nos Sadwrn, penderfynodd ei fod wedi cael digon, roedd gan Richard weddill y penwythnos rhydd o’i flaen ag oedd rai iddo fynd i rhywle. Cododd y ffon a galwodd ei ffrind a chyn dim roedd popeth wedi ei sortio – noson neu ddwy’n y dre’n dal i fyny hefo’i ffrind annwyl Trefor.
Roedd Porthyfelin gryn saith stop o dref Abersarnan, un o brif drefydd y sir wledig hon, ac wrth i’r drên nesáu at y dref fe lenwai’n raddol fesul gorsaf. Cadwai Richard at ei fusnes ei hun am y ran helaeth o’r siwrnai, ei feddyliau wedi datod i ddim mwy cythryblus na chyffrous na sylwi ar yr arfordir o’i ffenestr. Hynny yw tan i’w drên ddod i stop yn yr orsaf olaf ond un cyn Abersarnan. Wrth i’r drên dynnu mewn at blatfform yr orsaf, fe ddaeth lle oedd Richard yn eistedd i stop gyferbyn dyn a dynnodd ei sylw. Yn yr eiliad gyntaf honno mae rywun yn ei gael i feirniadu rhywbeth neu rywun newydd fe gochodd bochau Richard.
“Ew mae hwn yn bishyn.” Meddyliodd, – tua’i oed o’i hun, a thua’r un taldra, cap baseball yn cuddio gwalld coch golau byr, a locsyn bach taclus tros ei en a’i fochau, a llygid gwyrdd a ddigwyddai i edrych i fyw llygid Richard ar union yr u pryd!
“O na, plîs, no way, mae hyn yn embarysing.” Meddai Richard wrth sylwi ei fod wedi ei ddal allan yn syllu ar y Cochyn del yr ochr arall i wydr ei ffenestr. Edrychodd i ffwrdd mewn swildod plentynaidd, yn llawn cywilydd. Cododd ei ffon symudol a oedd ar y bwrdd bach o’i flaen a chogiodd ateb galwad ffug gan ei fam.
“Bip-bip-bip-bip-bip-bip..” – Datganodd y trên fod ei drysau awtomatig am agor i adael trafeilwyr i lawr – ac eraill i fyny ar ei bwrdd. Pan fentrodd Richard i orffen ei alwad ffon ffug a’i fam ac edrych i fyny o’i gwmpas doedd dim golwg o’r Cochyn. Caeodd ddrysau’r drên gyda ychwaneg o bibs bach sydyn. Lle oedd y boi coch dirgelus yma? Doedd dim golwg ohono, roedd tipyn o bobl wedi dod ar y drên yn yr orsaf olaf. Meddyliodd Richard ei fod efallai wedi penderfynu peidio camu ar y drên hon am ei fod wedi gweld dyn amheus – y fo’i hun, yn syllu arno fel rhywun ddim yn gall drwy’r ffenestr.
“Ia mwn, jest fy blydi lwc i” Meddai Richard gan ddigaloni ychydig cyn penderfynu mai na, dim heno oedd y noson i ddigaloni, ac edrychodd ymlaen i weld Trefor unwaith eto.
“Duwcs, Rich bach, do come in dear, gesdi siwrna go lew?” holodd Trefor wrth agor drws ffrynt mawr gwyrdd 44 Teras Glandon a chroesawu Richard i fewn.
“Do, lyfli diolch i ti, sud wyt ti?” Atebodd y crwydryn wrth gusanu Trefor ar ei foch wrth ei basio drwy’r drws.
“O dwi jest yn champion, excuse the mess yn de, dwi’n trio cael hyd i ‘chydig o bres i ail-beintio’r palas ‘ma, – sbïa arnai, dwi ar ganol gwneud fy hyn yn hanner presentable i’r Gogs ‘ma sy am ddŵad lawr ato ni heno. Tyrd drwodd i’r gegin am banad o win… isda’n fana ngwashi” Roedd Trefor wrth ei fodd yn gweini ar bobl ddiarth, er, doedd Richard ddim yn ddiarth o gwbl iddo fo, gan ei fod o wedi bod yn byw yma’n 44 Teras Glandon oes yn ôl.
“Diolch Tref, ‘sa gwin yn lyfli rŵan, pwy sgin ti’n byw yma hefo chdi ar y funud ta? ‘Dy nw’n neis?” Holodd Richard wrth gymryd swig o win gwyn allan o fwg te.
“O ydy’n chwarae teg iddyn nhw, criw lyfli, er, mae nhw’n mynd yn ‘fengach bob tro tydyn. Wel mae ganddo ni Leila sy ar y llawr cyntaf, ma’ gin ti Mathew wedyn ar y second floor yn de, – lyfli o foi – o’r Sowth yn rwla, a Deiniol, Gog ar y top floor. A sut wyt ti my lovely, sawl cariad gorjys on the go mashwr? Dyna oedda chdi fel eniwe..”
“Na neb siriys ar y funud Tref, wel, dwi wedi copïo off hefo’r ffarmwr ma…” Dechreuodd Richard son am Carwyn…
“Oh stop right there matey, – ffarwmr ddeudis di, OMG, dyna pam ti wedi gwisgo fel josgin ia?” Pwyntiodd Trefor at grys Richard cyn cymeryd llowciad o win. Am eiliad mi gymerodd Richard hynny i’w galon. Roedd wedi gwisgo’r crys yma’n aml yn ddiweddar, roedd yn un reit smart a chyfforddus a…..a reit josginaidd.
“O blydi hel Tref, be dwi am neud? Dwi wedi syrthio i’r habit yma o jesd gwisgo dillad saff, boring yn do!”
“Yli, gawn ni sgwrs am y ffarmwr ffabiwlys ‘ma nes mlaen heno oce? Dwi’n gorfod sgidadlio hi am y dafarn ‘na, dos di i fyny i sdafell Deiniol ar y top floor, – o, dy hen sdafell di’n de, a dewisa grys-t neis at heno, neith Deiniol ddim meindio dwi’n siŵr, – a mae hyn yn emergency eniwe’n tydy cariad, – mi wyt ti angen shag a chei di ddim un yn gwisgo’r crys erchyll yna’n y dref yma cyw, that’s a cert…!” Ac i ffwrdd aeth Trefor gan roi cusan ar wefys Richard wrth ei basio.
“Charming!” meddai Richard wrtho’i hun, ond, gwyddai fod Trefor yn iawn, a doedd o ddim yn golygu unryw falais yn ei eiriau.
Cyrrhaeddodd y llawr uchaf, – roedd yna deimlad o gyfarwydd i’r ty hyd yn oed rŵan, ag yntau wedi symud allan ers blynyddoedd, a chododd ei ysbryd wrth i atgofion o’r amser hynny dychwelyd. Camodd at ddrws ei hen ystafell ac oedodd am eiliad wrth sylwi fod yr hen nobyn drws haearn dal heb ei drwsio’n iawn ers iddo gael ei daro gan gwpwrdd drom a ddisgynnodd arno tra oeddynt yn straffaglio i drïo’i symud o ‘sdafell i ‘sdafell pan oedd o’n byw yno. Gwenodd i’w hun wrth gofio’r digwyddiad a chamodd fewn i’w hen ‘sdafell.
“O, dwi mor sori, yyyyy, ddeudodd Trefor sŵn i’n cael yyyyymmmm…” Methodd Richard siarad mwy, gollyngodd ei fag ar y llawr.
“Yyyyyyyy, dim problem, ‘sgiwsha fi, dwi newu ddod o’r gawod ag o ni’n jest yn trio pigo pa drôns i’w wisgo..” Yna safai Deiniol yn noeth lymyn, yn bell o gyrraedd unryw ddewis o drôns ond yn hytrach y sefyll o flaen ei ddrych – yr un drych a oedd yno’n amser Richard digwydd bod, yn cymharu’i biceps. Gafaelodd yn y trôns glan cyntaf o fewn ei afael, trôns briffs tyn hefo patrymau’r Crwbanod Ninja drostynt. Oedd raid i Deiniol roi ei law lawr ei drôns i ail-osod ei goc gan ei fod dal yn hanner caled.
“Sori, stori hir” Meddai wrth weld Richard yn sefyll yno’n geg agored ac yn amlwg yn sbïo arno’n ail-osod ei dacl. Camodd yn lletchwith tuag at Richard i gynnig ysgwyd ei law. “Deiniol dwi..” gan ddechrau cynnig ei law dde ond stopiodd a’i newid i’r chwith ar ôl cofio lle roedd ei law dde newydd fod eiliad yngynt.
“Haia, Richard dwi a dwi mor sori am gerdded i mewn i dy ‘sdafell di fel yna, ddeudodd Trefor ‘sŵn i’n cael benthyg un o dy dopia di at heno, gan fod o wedi rhoi ‘veto’ anferth ar fy nghrys ‘josgin’ i fel ddeudodd o.” Atebodd Richard wrth ysgwyd llaw chwith Deiniol hefo’i law dde, a sylweddolodd y ddau jest pa mor lletchwith oedd gwneud hyn.
“O chdi ydy Richard, waw, ‘da ni wedi clywed cymaint amdano chdi, neis cyfarfod chdi o’r diwedd, yn y ‘flesh’ fel petai, hon oedd dy ‘sdafell di yn de?” Roedd Deiniol wedi dod tros ei swildod y barod wrth sylwi pwy oedd y dieithryn yma’n ei ystafell, – roedd o’n un ohonyn nhw!
“Wel Deiniol, dim byd drwg gobeithio, – a dwi meddwl mai chdi sy yn y ‘flesh’ ia dŵad?” Mentrodd Richard gyda jôc. Chwerthodd y ddau gan dorri’r ia fel petai. Cofiai Richard fel fu yntau’n mor gyfforddus gyda’i gorff a’i edrychiad pan oedd yn byw yma o’i gymharu a rŵan.
“Ia, cei siŵr, gei di wisgo be’ bynnag ti’n ffansio, jest trïa rwbath. Ti’n dod i’r Castell heno dwyt? Mae na ddigon o grysa-t tynn yma. Ti isho cawod cyn mynd, mae ‘na ddigon o dyweli sbar yn…..y rwla.” Cynigiodd Deiniol, ond wrth gynnig, mi gofiodd na chafodd yntau hyd i dywel call gynna, a go brin byddai mwy yw cael.
“Yyyy, na dim diolch, mi geshi folchi jest cyn gadel Porthyfelin.”Atebodd Richard wrth feddwl na fyddai’n cin ar rywun yn cerdded fewn arno’n noeth ar ôl arfer cael ei fflat bach iddo fo’i hun am mor hir, – doedd o ddim wedi arfer rhannu ty ers oes!
“Dim probs met, gwranda, dwi’n garo fflio, dwi’n hwyr am fy shifft yn barod, – dwi’n gweithio tu ôl ‘r bar yn y Castell, mi welai di yno nes ‘mlaen ia? – Mi roi ddiod am ddim ar slei i chdi oce? Neis cyfarfod chdi, a sori oedd raid i chdi weld fy nghoc i fel ‘na!” Meddai Deiniol wedi gwisgo amdano mewn chwinciad mewn crys-t a jîns du, sanau lliw gwahanol o bar gwahanol a threnyrs gwyn ac off a fo drwy’r drws gan adael Richard yn sefyll yno’n ei feddyliau ei hun.
“Be’ nath jest digwydd?” Oedd Richard yn trio dygymod hefo beth oedd o newydd ei weld. Trodd rownd ac edrychodd ar ei hun yn y drych, – y drych oedd yntau wedi astudio’i gyhyrau ynddo bymtheg ‘mlynedd yn gynharach, – cymaint oedd wedi digwydd a newid ers y dyddiau hynny, meddyliodd. Yn feddyliol, cymharodd ei hun i Deiniol, – cyn penderfynu na na, doedd dim pwynt dechrau hynny, felly dechreuodd gyda tynnu’r crys, – y crys ‘josgin’ fel yr alwai Trefor o, a’i osod ar y gwely. Edrychodd arno’i hun yn y drych eto, – na, doedd o ddim mor gyhyrog a ffit a Deiniol, ond a bod yn onest, doedd o ddim yn rhy ddrwg ‘chwaith. Aeth at y cwpwrdd i chwilio am grysau-t a allai ei ffitio heb wneud iddo edrych a theimlo’n rhy ddiawledig o hen. Triodd ambell un a wyddai y byddent yn edrych yn hollol hyrt, ac yna, ar y pedwaredd cynnig, dyma fo’n cael hyd i’r crys-t perffaith, glas tywyll nefi, oedd yn dynn am ei frest a hefyd a ddangosai allan gyhyrau ei ysgwyddau. Y rhan orau oedd y ffaith iddo beidio a fod yn rhy dynn am ei stumog, ac a adawai le iddo gael mwynhau ychydig o beintiau hefyd! Perffaith. Roedd o’n barod yn gwisgo’i par o jîns gorau a wna iddo deimlo’n filiwn o ddoleri, eisteddodd ar y gwely gan deimlo’n hapus ac yn edrych ymlaen i’r noson o’i flaen. Sylwodd ar olion staen ar y wal wrth ei ochr gan feddwl nad oedd y staen yno pan oedd o’n cysgu’n y gwely yma!
Aeth allan o ‘sdafell Deiniol ac i’w ‘sdafell ei hun i ddad-bacio cyn ‘llnau ei ddannedd ac allan i’r stryd a thuag at y Castell.