Prin oedd raid i Bleddyn wthio’r fforch i fewn i’r ddaear tywodlyd, sych, – dyma oedd mantais byw’n y bwthyn bach clud yma, Tyddyn Bila, yn y rhan yma o’r wlad, brin hanner milltir i ffwrdd ym mhentref Porthyfelin gwyddai fod y pridd yn gleiog thrwm ac yn bron iawn amhosib i’w drin.
Mewn un symudiad cododd ei fforch allan o’r pridd a thynnu planhigyn tatws allan ar yr un pryd. Roedd hi’n ganol Mehefin ac yn amser delfrydol am godi tatws newydd. Ew, mi oedd Bleddyn wedi edrych ymlaen i gael y platiad o datws newydd hefo menyn yn toddi trostyn nhw hefo macrell ffres a ddaliodd yn y bore i swper heno ‘ma.
Tasa’r tatws ifanc bach a welodd ar wyneb y pridd yn aur pur ‘sa fo ddim yn medru bod hapusach y funud hon. Ei gnwd cyntaf o datws newydd y tymor hwn. Gwyrodd lawr iw casglu a’u rhoi’n ei fwced wrth ei ochr. A phan oedd y tatws ar y wyneb i gyd wedi eu casglu, tyrchodd i lawr i’r pridd hefo’i ddwylo i chwilio am ragor, ac yna phan oedd yn fodlon nad oedd mwy iw gael sythodd ei gefn ac edrychodd o’i gwmpas.
Roedd gweddill y llysiau a’r ffrwythau wedi tyfu’n dow-dow, – y pys, y moron a’r bresych yn o lew ond roedd y nionod ar ei hol hi eleni, roedd y bedair rhesiad o ble roeddynt i fod yn edrych yn ddigon digalon a llwm. “Efallai fod angen fwy o law arnyn nhw?” Meddyliodd Bleddyn, sbïodd drosodd at y tanc dwr a gasglai ddŵr glaw oddi ar do’r bwthyn yn ystod tywydd garw, gwyddai fod hwnnw’n llai na chwarter llawn gan nad oedd hi wedi bwrw glaw call ers wythnosau. Cofiodd hefyd wrth gerdded nol o’r traeth gynna nad oedd hanner gymaint o ddŵr yn rhedeg y Afon Bila a lifai o gyfeiriad y gors o’r un enw a thrwy gaeau’r fferm gyfagos cyn torri ar draws Llwybr yr Arfordir ar ei chyrhaeddiad i’r mor rhyw ugain medr o’r bwthyn.
Roedd wedi bwriadu cael ‘trit’ bach heno ar ôl mwynhau ei facrell ffres a’i datws newydd a chael bath poeth – cawod fyddai’n ei gael fel arfer a phrin iawn fyddai’n mynd am fath er mwyn safio’r dwr. Efallai fydd rhaid ail-feddwl yn y diwedd a gohirio’r trit hwnnw am heno meddyliodd, a ddefnyddio’r dwr i achub y nionod!
“Ta waeth,” chwarddodd wrtho’i hun “…fydd hi ddim yn ddiwedd byd arna’i na fydd!” wrth gerdded tuag at y bwthyn gyda’i datws newydd gwerthfawr yn ei fwced.
Cyn cyrraedd drws y bwthyn beth bynnag trodd rownd wrth glywed sŵn cyfarwydd, – sŵn un o’i ieir yn ryw how-glochdar, yn union fel tasai’n siarad hefo hi’i hun. Beti oedd hon, un o’i chwech iâr a gadwai Bleddyn mewn cyflenwad cyson o wyau ffres bob dydd. Roedd Beti’n cymeryd mantais o’r ffaith nad oedd neb arall o’i chyd-ieir wedi sylwi ar y pridd a oedd newydd gael ei balu gan Bleddyn wrth godi’r tatws, ac yno y bu hi’n siarad hefo hi ei hun wrth grafu am bryfetach a phryfaid genwair wrth bigo’n y ddaear lle bu gynt blanhigyn tatws. Roedd hi’n edrych mor hapus, “Y gath a gafodd yr hufen ta be!” Chwarddodd Bleddyn wrth droi’i ben a camu i fewn i’w fwthyn clyd ar ben gallt y mor.
Steve.
Oedodd Steve i gael ei wynt ato a chymeryd fewn yr olygfa o’i gwmpas. Cwffiodd i ddal ei wynt am funud, curai ei galon yn hegar yn ei frest a rhaid oedd iddo wyro ‘mlaen a rhoi ei frechiau ar ei ben ‘gliniau i sadio’i hun. Teimlodd y chwys yn diferyd lawr ei dalcen a’i gefn, doedd ei grys-t ‘rhag-chwys’ ddim wedi cael hwyl dda arni! Roedd hi’n poethi, ac amlinelliad y pentref yn dod yn amlycach yn y pellter…
Roedd Steve yn redwr o fri, yn mwynhau cael y rhyddid o redeg yn ei fyd bach ei hun ar hyd lonnydd a pharciau dinesig Caerdydd, byddai’n rhedeg bob dydd glaw neu hindda, weithiau cyn ac ar ôl gwaith, yn enwedig os oedd ganddo rywbeth yn pwyso ar ei feddwl oherwydd ar ddiwedd y rhedeg byddai’n siŵr o fod wedi anghofio am beth bynnag oedd yn ei boeni neu wedi dod i ryw benderfyniad ynglŷn a’r broblem.
Roedd ganddo wythnos yn sbar ym Mehefin, ac yn lle mynd dramor fel yr arferai ei wneud, penderfynodd aros yng Nghymru a darganfod ychydig mwy am ei wlad ei hun. Penderfynodd mai mynd tua’r Gogledd fyddai orau, – ond dim rhy ogleddol – un peth oedd meistroli Cymraeg cosmopolitanaidd Caerdydd, peth arall yn gyfan gwbl fyddai sgwrsio gyda’r Gogs! Felly, tua hanner ffordd meddyliodd, ac ar yr arfordir, – edrychodd ar y map o Gymru a oedd wedi ei brynu’n arbennig ar gyfer y trip hwn a gwelodd dref Abersarnan – digon pell ac eto digon agos i Gaerdydd os fyddai raid ei heglu hi adref!
Ar ôl ymchwiliad arlein i westai yn Abersarnan, fe ddaeth o hyd i ystafell gan un o’r cwmnïau gwestai mawr a oedd a o leiaf un gwesty bron ym mhob tref ac arhosiad traffordd erbyn hyn. Roedd yn ffodus i gael ystafell gan bod y pobl tywydd wedi bod yn darogan y tywydd braf yma ers peth amser ac roedd pawb am gael tamaid cynnar o dywydd poeth yr Haf newydd!
Doedd ei ystafell ddim yn gwynebu’r mor gwaetha’r modd ond yn hytrach agora’i ffenestr ar stryd o dai teras Fictorianaidd, gydag enw y tybiodd a rannai gyda llawer o strydoedd tebyg yn nhrefi arfordirol Cymru, sef Teras Glandon.
Ar ôl noson go lew o gwsg a brecwast iachus o sudd oren, (a choffi du), powlenad o All Bran a iogwrt pro-fiotig, llawn protein o Wlad yr Ia, aeth allan i lenwi ei ysgyfaint ag awyr iach y mor. Roedd hi’n argoeli i fod yn ddiwrnod braf, – na, poeth, yn union fel y proffidwyd y person tywydd y noson gynt ar S4C ac edrychai Steve ymlaen am y sialens o redeg ar hyd Llwybr yr Arfordir am newid yn hytrach na phalmentydd cyfarwydd y brif ddinas.
Cychwynnodd yn ddigon brwd ar hyd y traeth a’i dywod melyn euraidd, sylwodd ar lasni’r mor a’i donnau a gyrhaeddai pen eu taith ar hyd Mor Iwerddon yma’n Abersarnan. Pan gyrhaeddodd ben draw gogleddol y traeth rhaid oedd ffarwelio a’r tywod a chychwyn hi fyny’r allt go serth. Mwynhaodd y pwysau a’i sialens y rhoddai hyn ar gyhyrau ei goesau a’i ben ‘gliniau, anaml iawn y cai’r cyfle i weithio allan fel hyn adref gan nad oedd gan Gaerdydd y bryniau tebyg i ddinasoedd eraill fel San Francisco neu Chaeredin lle y bu ar ei wyliau’r flwyddyn gynt.
Cyrrhaeddodd ben yr allt, cymerodd hoe fach i ddal ei wynt ac edrychodd yn ôl dros y traeth a’r dref a ddibynnai arna hi gymaint am ei bodolaeth. Trodd i edrych yn ei flaen a gwelodd filltir ar ôl milltir o gefn gwlad gwyrdd – a gwag yr olwg. Ysodd i ddechrau rhedeg, i gael gweld pa mor bell y gallai fynd cyn gorfod troi’n ôl a chael hyd i fwyty bach neis i fwynhau swper mawr haeddiannol ar ddiwedd y dydd a dychwelyd i Gaerdydd y diwrnod wedyn. Rhedodd y braf, hoffai deimlad awel y mor ar ei groen, yn ei annog i fynd yn ei flaen ymhellach ac ymhellach. Anaml iawn y daethai ar draws unryw fod dynol arall yma, heblaw am ambell i gwpwl diethr a’u cwn, neu ambell i ddafad a oedd wedi mentro dros y clawdd i wledda ar y gwelld glas bras pen yr allt.
Roedd Steve wrth ei fodd, dim ond y fo a’i feddyliau, yn rhydd i redeg cyn belled ag yr hoffai heb orfod stopio wrth oleuadau traffig neu gael ei arafu y tu ôl i riant yn gwthio coets neu bensiynwr a throli siopio!
Pob hyn a hyn mentrodd i dynnu ei sylw oddi ar y llwybr anwastad o’i flaen i gael cip olwg allan am y mor. Roedd y dwr yn anhygoel o las y diwrnod hwnnw, yn hudolus hyd yn oed, a meddyliodd ambell waith am gael hyd i’r traeth bach guddiedig nesaf a thynny amdano’n noeth lymyn a neidio fewn a rhoi fynny ei hun i’r tonnau er mwyn cael teimlo’r oerni gwlyb a blasu’r heli hallt. Arafodd ei rediad am ychydig a sylwodd ar yr adar o’i gwmpas, yn wenoliaid, wylanod swnllyd, seiri ac ambell i filidowcar – a’i dyna beth oeddynt? Doedd Steve ddim yn giamstar ar adar fel arfer, ac – os mai dyma beth oedd yr adar mawr du ma’n sefyll ar greigiau yng ngwres yr Haul a’u hadenydd ar led, beth oedd y gair Cymraeg am fwy nag un bilidowcar? Doedd ganddo ddim clem, a daeth ei sylw’n ei ôl at y rhedeg, cyflymodd ei wib unwaith eto.
Rhedodd yn ei flaen, ymhellach ar hyd yr arfordir godidog. Sylwodd ar ffermwyr yn gwneud rhywbeth ‘amaethyddol’ yn eu caeau, yn eu tractors anferthol. Doedd Steve heb dreulio llawer o amser allan yn y wlad, a doedd ganddo ddim teulu na ffrindiau a oedd yn ffermwyr ychwaith felly prin iawn iawn oedd ei wybodaeth am fyw allan o gyffiniau dinas. Ymlaen ac ymlaen yr aeth, gan nodi pentrefi bychain pob hyn a hyn yn y pellter, dim ohonynt yn agos iawn i’r arfordir ei hun, fel petaent yn ofn bod yn rhy agos i’r mor. Gadawodd iddo’i hun i stopio bob hyn a hyn am lowciad bach o ddŵr o’i botel ddŵr perthnasol, wedi ei ddylunio’n arbennig i gael ei chario gan redwyr. Roedd gwres yr Haul yn boeth yma reit ar yr arfordir a doedd dim math o gysgod ar gael a hithau’n ganol dydd.
Eisteddodd ar dwmpath bach crwn cyfleus o bridd a dail man er mwyn cael munud i benderfynu pa mor bell yn unon yr oedd o wedi fynd o Abersarnan i’r de a faint yn union yr oedd o am fentro ymhellach tua’r gogledd.
Doedd dim golwg o Abersarnan, llowciodd y diferyn olaf o’r dwr yfed a oedd erbyn rŵan yn hollol afiach o boeth. Edrychodd tua’r gogledd, roedd rhyw fath o bentref neu dref fach i’w gweld yn y pellter mewn haen o niwl. Sylweddolodd fod rhedeg ar hyd yr arfordir yn gallu bod y gamarweiniol o ran amcangyfrif pellteroedd gan fod y llwybrau’n gymaint mwy igam-ogam, gan ddwblu-fyny ar eu hunain yn aml wrth ddilyn ymylon yr arfordir creigiog. Roedd hyn yn fwy o sialens nag yr oedd wedi ‘ddybio.
Ymhell allan dros y mor clywodd sŵn ac yn wir, er bod awyr las a chlir uwch ei ben ar ei funud yn gwneud iddo chwysu’n ddi-baid, allan tros For Iwerddon roedd cymylau duon bygythiol wedi datblygu.
Rhaid oedd i Steve benderfynu pa ffordd i fynd, unai’n ei ôl tua Abersarnan neu yn ei flaen a gobeithio cyrraedd y pentref/tref fach a allai ei hanner-wneud allan i fyny’r arfordir yn y gogledd. Wrth drio penderfynu teimlodd bigiadau bach digon poenus ar gefn ei goesau, “Awwwwww! Beth ddiawch?” gwaeddodd gan neidio’i fyny. Roedd rhywbeth yn y glustog bridd a dail wedi ei bigo. Trodd rownd a sylwi ei fod wedi bod yn eistedd ar dwmpath morgyg, a rhai coch o ran hynny.
“Y bastards bach!” Protestiodd wrth archwilio’i goesau i wneud yn siŵr nad oedd dim dal ar ei groen. Poenodd fod rhywun hwyrach wedi ei glywed yn rhegi, ond na, wrth gwrs, doedd neb o’i gwmpas, neb ond ambell i löyn byw bach glas yn brysur yn hedfan o un blodyn melyn eithin i’r llall. Cododd dri lwmpyn hegar tu ôl i’w ben ‘glin dde, rhwbiodd hwy gyda’i law am funud, ond doedd dim arall y galla’i wneud amdan y peth.
Penderfynodd mai mynd yn ei flaen tua’r gogledd fyddai orau gan y gallai o leiaf weld ychydig o’r pentref/dref yn y pellter. Cychwynnodd yn ei flaen, yn herciog ar y dechrau hyd nes i’r pigo y tu ôl i’w ben glin fynd allan o’i feddwl. Beth na allai gael allan o’i feddwl oedd yr olwg fygythiol allan ar y gorwel a’r ambell daran a glywsai bob hyn a hyn, – oedd o am fedru cyrraedd y pentref/tref fechan yn y pellter cyn i’r taranau ei gyrraedd…….???????