Cyrrhaeddodd y glaw yr un adeg a chyrhaeddodd Steve y man mwyaf agored a di-gysgod o’i antur redeg ar hyd y rhan hon o Lwybr yr Arfordir. Yn rhy bell i droi’n ei ôl a chyrraedd ei westy’n Abersarnan mewn amser cyn i’r cymylau glaw ei ddal, rhedodd Steve yn ei flaen tu’r gogledd thuag at bentref bach a oedd wedi ei weld. Ond erbyn rŵan doedd y pentref hwnnw ddim i’w weld, roedd niwl glaw wedi ei guddio’n llwyr, – a dweud y gwir roedd popeth wedi diflannu o’i olwg, edrychodd Steve o’i gwmpas a phrin y gallai weld unryw beth o’i flaen, i’w ochr na thu ôl iddo. Oerodd y tymheredd yn arw a dechreuodd fwrw glaw oer ar ei groen. I ddechrau roedd oerni’r dwr glaw yn braf ar ei ben a’i ysgwyddau a oedd wedi bod yn boeth o chwys ers oriau ond mewn dim o amser, roedd Steve yn wlyb socian at ei groen.

Syllodd o’i gwmpas i edrych am unryw fath o gysgod y gallai wneud y gorau ohono nes i’r galw basio, roedd wedi sylwi ar ddigonnedd o gloddiau uchel pob hyn a hyn ar hyd ei daith ar hyd y gelltydd a hyd yn oed hen adfail beth a ddychmygai oedd cwt bugail ychydig o filltiroedd yn ôl.

Edrychodd o’i gwmpas a gwelodd fod y cymylau duon wedi uno i greu un cwmwl bygythiol. Cyflymodd y glaw a syrthiodd yn syth i lawr gan nad oedd y gwynt i’w chwythu. Flachiodd fellten yn agos iddo allan yn y mor a dychrynodd gan deimlo mor amlwg. Dilynnwyd y fellten bron yn syth gyda’i tharan a chleciodd ei phresenoldeb. Ni wyddai Steve beth i’w wneud yn orau. Teimlodd mor fregus yn sefyll yno ar ben yr allt dyfarodd na fyddai wedi troi’n ei ôl pan gafodd gyfle, yn lle mynnu mynd yn ei flaen, ond roedd hi’n rhy hwyr bellach. Flachiodd fellten anferth arall i’r mor mewn fforchiad erchyll drydanol – tebyg i’r mellt y gofiai weld mewn hen ffilmiau o’r 70au neu’r 80au o dduwiau Groegaidd yn talu’r pwyth yn ôl ar bobl oedd wedi eu gwylltio neu geisio’u twyllo.

Doedd dim amdani ond ceisio mynd yn ei flaen a gobeithio cael hyd i’r pentref. Cerddodd yn hytrach na rhedeg y tro yma gan fod pen yr allt wedi troi’n fwdlyd ac roedd y perygl o lithro lawr i’r creigiau islaw wrth redeg yn opsiwn llai dymunol na dim arall.

Cerddodd yn ei flaen drwy’r glaw a gurai ei ochr chwith rŵan fod y gwynt wedi pigo’i fyny. Teimlai rhai o’r diferion glaw mor hegar a chenllysg, ac ar adegau, prin y gallai Steve gadw ei lygid ar agor i weld y ffordd o’i flaen o’i oherwydd. Llithrodd yma ac acw wrth i’w esgidiau rhedeg drud fethu eu grip yn y mwd, disgynnodd unwaith ar ei ochr i dwmpath isel o eithin a theimlodd bigiadau’r planhigyn ar ei foch, ei fraich a choes dde. Cododd ar ei sefyll ac edrych ar y difrod, – dim ond sgriffiad ar ei goes i ddangos am yr holl boen a’r pigiadau. Digalonnodd wrth feddwl am ei ddiwrnod a oedd wedi troi i fod yn hunllef pur allan yma’n gefn gwlad Cymru, gwell na fyddai wedi aros adref yn y ddinas. Roedd o rŵan yn socian ac yn oer at ei esgyrn, yn fwd drosto, yn phigiadau morgryg a rŵan yn gwaedy o sgriffiad gan hen foncyn neu stancyn a guddiai’n yr eithin. Teimlai’n druenus ac anobeithiol, petai’n digwydd syrthio tros yr allt, a fyddai unrhyw obaith o gael ei achub? meddyliodd. Ond doedd dim y gallai ei wneud ond ymdrechu a chario ‘mlaen yn araf bach. Edrychodd lawr ar ei goes waedlyd, gwelodd fod y sgriffiad yn cael ei olchi gan y glaw, llifai’r gwaed i lawr i’w hosan gan ei throi o wyn i binc-goch.

Roedd y mellt a’r taranau rŵan yn ddi-baid, a’r glaw yn wirioneddol Feiblaidd. Herciodd Steve yn ei flaen gan wneud yn siŵr i beidio mynd yn rhy agos at ymyl yr allt. Daeth at bant yn y llwybr a sylwodd fod afon fach yn croesi i gyrraedd y mor. Yn anffodus iddo roedd yr afon wedi chwyddo oherwydd y storm a rŵan yn fwy tebyg i genllif frown wyllt, doedd dim dewis gan Steve, rhaid oedd ei chroesi neu aros yma.

Nesaodd at yr afon i weld lle fyddai’r man croesi diogelaf, edrychodd i fyny i’w dde i gyfeiriad lle llifai’r afon o’r cae agosaf. Gwelodd fod yr afon yn llifo mewn bwlch mewn clawdd gyd ffens y cae yn parhau drosti. Yn anffodus roedd llif yr afon wedi chwyddo gymaint nes ei fod wedi cyrraedd y ffens ei hun ac yn sownd yn y weiran oedd dafad. Roedd yn edrych fel unai fod y ddafad wedi ei dal yn y llif yn y cae yr ochr arall i’r ffens neu ei bod wedi trio cael hyd i ryw fath o gysgod wrth y clawdd ond wedi cael ei dal gan rym y dwr ac wedi methu cael ei hun yn rhydd. Beth bynnag oedd wedi digwydd iddi, roedd ei ffawd rŵan wedi ei selio. Gallai Steve ddim wneud allan os oedd hi’n dal yn fyw a’i peidio am na allai fynd ddigon agos ati hi, a go brin y bysai wedi medru gwneud llawer i’w hachub heb gael ei hun i drafferthion ychwaith!

Aflonyddodd hyn Steve, gallai ddim edrych ar y ddafad druan, rhaid oedd croesi’r afon a mynd yn ei flaen, roedd ei hunllef o brynhawn yn parhau! Doedd dim lle amlwg call i’w weld i groesi felly penderfynodd fynd amdani a chamu fewn i’r afon a gobeithio na gollai ei gydbwysedd a chael ei sgubo lawr yr allt ar y creigiau a’r tonnau islaw. Sadiodd ei hun gyda’r droediad gyntaf, roedd grym yn nwr yr afon a rhaid oedd iddo ganolbwyntio a’i holl nerth. Camodd i fewn a’i droed arall, ac yna yn ei flaen eto nes iddo fod dri chwarter ffordd tuag at yr ochr arall. Roedd o’n canolbwyntio ar sefyll i fyny a chyrraedd yr ochr arall yn ddiogel pan glywodd y ddafad druenus ddim ymhell ohono’n brefu. Collodd Steve ei nerf yn llwyr wrth sylweddoli fod y ddafad yn fyw, ac yn brefu am ei gymorth. Gallai ddim ymdopi a hyn o gwbl a chollodd ei gydbwysedd yn yr afon am eiliad.

Gwyddai ei fod am faglu a syrthio felly gwnaeth un ymdrech fawr i neidio am ochr draw’r afon. Llwyddodd i gael hanner ei gorff ar dir tra bu i’w goesau a’i draed ddal fod yn y dwr, teimlodd nerth y llif yn ei dynnu’n ei ôl i’r afon. Llusgodd ei hun i fyny ochr yr afon a’i holl nerth eto nes iddo gyrraedd yn ddiogel.

Gorweddodd yno’n y mwd am funud i gael ei wynt ato. Roedd o bellach yn rhynnu yno’n ei grys-t rhedeg pwrpasol a’i shorts byr, sylwodd ei fod wedi colli un o’i esgidiau rhedeg yn yr afon, clywodd sŵn y ddafad eto’n brefu rhywle wrth ei ochr. Parhaodd y glaw a’r melltio a’r taranu o’i gwmpas fel fersiwn gwlyb o uffern. Roedd hyn wedi mynd ymhell bell heibio bod yn hunllef.Yna, ychydig i’r pellter o’i flaen sylwodd ar olau. Yn bendant, golau ty o ryw fath, fel golau goleudy, ond dim golau i rybuddio oedd hwn ond golau o obaith, meddyliodd Steve wrth weithio fyny’r nerth i gamu amdano. Rhywffordd, cododd ar ei draed, gyda’r mwd yn gwasgu rhwng bysedd plistrynnog ei droed dde. Camodd am y golau melyn, gwasgodd ei ddannedd yn dynn, yn benderfynol o’i gyrraedd. Wrth nesáu, sylwodd mai ffenestr fach oedd yn gadael y golau allan, dim mwy na hanner medr sgwâr. Teimlodd ei fod yn agosáu at gael ei safio rywsut, ac ar yr un pryd teimlodd ei gorff yn gwanhau a gwanhau wrth iddo nesáu.

Cofiodd gamu drwy adwy fechan a heibio gardd fach o lysiau, clywodd iâr yn clochdar yng nghysgod cwt. Cyrrhaeddodd ddrws y bwthyn lle deilliau’r golau melyn. Cofiodd guro ar y drws gyda’r holl nerth oedd ganddo ar ôl.

Cofiodd ddim ar ôl hynny…….

Gadael sylw