” O tyrd yn dy flaen, mi fedri di wneud hyn, ti’n gwybod hynny’r hen het!” Ceisiodd Trefor gael hyd i’r amynedd a’r nerth i wynebu noson arall o geisio cael torf mewn tafarn i wenu. Eisteddodd o flaen y drych yn ei ystafell folchi wrth ddechrau ar yr awr a hanner go-lew o waith ymbincio a oedd o’i flaen. Sawl gwaith oedd o wedi bod drwy’r broses yma, – tair noson yr wythnos am y pymtheg mlynedd dweuthaf, bron yn ddi-dor. Y clustlysau mawr trwm, y minlliw, y masgara, y powdr, y paent, yr wigiau, heb son am yr holl wisgoedd, y secwins, y plu – yr holl halibalŵ o fod yn frenhines drag mewn tafarn hoyw ceiniog a dima mewn tref glan mor blinedig a oedd wedi gweld dyddiau gwell, fel y fo’i hun!
“Pumdeg naw oed, a dyma be’sy’ gynna’i i ddangos am fy amser ar y blydi Ddaear ‘ma, – blydi diawledig!” Meddai.
Sylwodd wrth yngan y frawddeg ddweuthaf mai crombil y diflastod-ar-fywyd diweddar yma oedd y rhif afiach yna, y 59. Mewn tair wythnos byddai’n ‘dathlu’ ei ddyrchafiad i’w chwedegau. Doedd dim dianc o hynny, ew mi roedd Mami Amser yn medru bod yn greulon weithiau – teimlai Trefor mai hi’n bersonol oedd wedi achosi’r trideg mlynedd ddweuthaf i fflio heibio fel tasa hi wedi pwyso botwm ‘ffast-fforwards’ ar ei fywyd. Ond, doedd yna ddim dianc, rhaid oedd wynebu ffeithiau a meddai wrtho’i hun wrth ddewis ac ymafael ar y clustlysau gwydrau piws ag aur o’i flaen “Oh just grab life by the balls dear, – chwedeg, bring it on bitch!”
Roedd hi’n gyda’r nos braf a chynnes yn y dref, llusgai’r ymwelwyr eu cyrff blinedig i fyny o’r traeth gan gario’u cadeiriau, pwcedi a rhawiau a’u ‘wind-breakers’ amryliw gyda hwynt. Wedi gwario’r rhan helaeth o’r dydd yn lygid yr Haul ac yn nhonnau’r mor, roeddynt wedi blino bellach ac roedd gwallt pawb yn stiff ac yn llawn heli’r mor. Eu lliw Haul newydd yn gwneud eu crwyn yn sych a thyn wrth iddynt gario’r holl ddodrefn a chysidrwyd yn mor angenrheidiol ar gyfer y dydd ar y traeth y bore ‘ma – erbyn hyn yn gymaint o drafferth, a’r hyn oll tra gwisgant eu fflip-fflops llawn tywod.
Roedd hi wedi bod yn Haf poeth a hir – un o’r poethaf ar record yn ôl y gwybodusion ar y newyddion yn ddiweddar, – y term ‘newid hinsawdd’ yn cael ei adrodd a’i ail-adrodd mor aml fel tasai’n bod yr unig sioe-yn-dre, o leiaf roedd wedi cymeryd rhywfaint o sylw oddi ar lol y Brexit ddiawledig ‘na am ychydig!
Yn sgil y tywydd braf roedd yna fynd anferthol wedi bod ar hufen ia, sglodion a chŵn poeth, ac oherwydd hyn roedd gwylanod y dref wedi cael ‘bonansa’ o dymor yn gwledda ar fwyd fusutors diniwed, ac erbyn hyn roedd rhai’n edrych yn fwy tebygol i dyrcwns na gwylanod ac angen ychydig mwy o ymdrech i hedfan oddi ar y prom.
Roedd y ddwy awr rhwng chwech ag wyth gyda’r nos yn amser trosglwyddo a thrawsnewid yn y dref. Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am werthu’r dref fel tref glan mor hufen ia, sgons a choffi, a chwilio am grancod ar drai’r mor i deuluoedd ifanc i dref gyda’r nos, – lle i oedolion ifanc gael hwyl, cael gor-yfed a meddwi, cael cwffio ar y pafin, cael chwilio am bitsa neu kebab hwyr cyn disgwyl am oriau am dacsi i’w cludo adref. Amser o trawsnewid, pan oedd y dref yn paratoi i ffarwelio a’r dydd crasboeth prysur ar y traeth ac i groesawu noson o yfed a bwyta’n ei thafarndai a bwytai yn y strydoedd bach y tu ôl i’r prom bach a wahanai’r dref o’r glan mor tywodlyd.
Roedd Deiniol wedi bod yn edrych ymlaen at y nos Sadwrn yma, – wel, jest fel pob nos Sadwrn arall a bod yn onest. Gweithiai mewn siop fechan ar y prom yn ystod oriau’r dydd yn gwerthu hufen ia, pop, diodydd poeth, cardiau post, pwcedi a rhawiau bach plastig, sêr mor wedi eu sychu a chregyn mor egsotig wedi eu polisho, – cregyn na fyddwch fyth bythoedd yn eu gweld yn naturiol ar draethau Cymru.
A hithau’n hanner awr wedi saith, a dim son am yr un cwsmer arall wedi twchu’r siop am o leiaf dri chwarter awr, penderfynodd roi’r ffidil yn y to am y diwrnod, – dim, a bod yn onest oedd angen fawr o berswâd. Cadwodd y raciau o gardiau post a safai tu allan i’r siop naill ochr i’r drws, a chadwodd y pres o’r til mewn saff fach yng nghefn y siop, a dyna fo, clôdd y drws – rhyddhad meddai wrtho’i hun gan sefyll allan yn yr heulwen hwyr. Roedd y mor ar drai o’i flaen, a gwelodd ambell gwpwl a theulu o fusutors dal yn gwneud y gora o’r awran neu ddwy o olau dydd oedd ar ôl yn cerdded ar hyd y traeth. Trodd Deiniol ei gefn atynt oll, a throi am adref, cwta pum munud o gerdded o’r prom tuag at un o strydoedd cefn y dref. Roedd ganddo awr i baratoi ei hun a newid cyn dechrau ei shifft yn y Castell, – enw a oedd yn ddewis od ar dafarn mewn tref heb yr un!
Cyrrhaeddodd ei gartref, ty teras mawr pum llofft ar dair lefel, a rhentia’i ystafell ar y llawr uchaf a wynebai’r stryd, fel y gallai weld y mor o’i ffenestr. Ac er ei fod yn swyddogol mond yn rhentu’r un ystafell mewn gwironedd , roedd y tŷ’n agored i bawb ac arhosai yno. Agorodd y drws ffrynt mawr trwm gwyrdd gyda’i oriad a chamodd i fewn, – roedd y tŷ’n ddistaw a meddyliodd efallai y byddai’r rhan fwyaf o’i gyd-breswylwyr allan o hyd yn mwynhau’r Haul hwyr, ond, doedd dim amser ganddo i feddwl gormod am hynny. Brysiodd i fyny’r tri set o risiau at ei ystafell. Ar gerdded mewn i’w ystafell ei hun ar y llawr uchaf gollyngodd ei fag, tynnodd ei grys-t a gorweddodd ar ei wely am eiliad. Roedd y gynfas yn reit cŵl ar ei groen chwyslyd a meddyliodd pa mor braf fysai aros yma am ychydig, efallai mond i gael cwsg bach am ryw awran. Tynnodd ei esgidiau a’i sanau a’u gollwng i’r llawr wrth y gwely. Gwnaeth ei hun yn fwy cyfforddus ar y gwely barf. Agorodd wregys ei shorts a thynnodd nhw i ffwrdd hefyd a gorweddodd yno’n ei drôns. Roedd o wedi bod ar ei draed am y naw awr dweuthaf yn y siop fach wrth y mor ac mi roedd hi wedi bod yn ddiwrnod prysur o wenu a gweini ar fusutors di-ri diolch i’r tywydd bendigedig o boeth, a rŵan, gyda’i gorff yn gorwedd ar y gwely cyfarwydd yma’n ei ystafell gyfarwydd roedd o ar ei ben ei hun.
Dechreuodd ei feddwl grwydro a throi at y tadau a gerddodd i’r siop yn ystod y dydd, – yn ddiarwybod iddyn nhw, i gadw ei feddwl rhag pydru’n ystod y dydd, roedd Deiniol wedi dyfeisio gem fach i’w ddiddyru. Byddai’n dychmygu allan o’r dynion a ddoi i’r siop, pwy y byddai’n hoffi cael rhyw hefo, a byddai’n eu graddio’n ôl 1) siâp y corff, – y cyhyrau a lefel o ffitrwydd, a 2) blew y corff, – locsyn/blew y frest/coesau, a byddai hyn yn haws os byddant yn cyrraedd y siop yn syth oddi ar y traeth lle byddent yn fwy tebygol o droi i fyny’n eu shorts nofio. Ia, dyna’r unig ddwy amod i’r gem, doedd dim pwynt cymhlethu pethau yn nagoedd? Unrhyw beth i wneud y dydd fynd yn gynt a dweud y gwir. Byddai’n cymeryd ei amser i astudio’r dynion, – yn aml yn hollol amlwg tase rhywun mond yn sylwi arno, wrth i dadau geisio dal i fyny hefo’u plant a fydda’n neidio o gwmpas o un rhan o’r siop i’r llall yn chwilio am deganau neu ddewis hufen ia, ac yna’n methu gwneud eu meddyliau i fyny’n y diwedd rhwng pa liw pwced a rhaw i gael wrth symud ymlaen i fodiachu’r cregyn sgleiniog cyn eu rhoi’n eu holau ar y silff a symud ymlaen i’r peth nesaf!
Gallai ddweud yn syth pa rai o’r tadau hyn oedd yn casáu bod yno, yn casáu gorfod gadael y traeth gan fod eu gwragedd wedi dweud wrthynt am fynd a’u plant am hufen ia i’r siop ar y prom er mwyn iddyn nhw gael munud o lonnydd i darllen eu cylchgronau. Yn casáu , am na fyddent fyth bythoedd fel arfer yn mynd i siopa gyda’u plant yn eu bywydau arferol bob dydd yn ôl yn nhrefi a dinasoedd Canolbarth Lloegr – y rhain oedd ran amlaf yn ddiolchgar am gymorth Deiniol a ddaw o ochr arall cownter y siop i helpu’r plant benderfynu beth i’w brynu. Y tadau diolchgar yma fyddai’n gwneud mwy o ymdrech i wneud sgwrs bach ac edrych i fyw ei lygid a gwenu’n ddiolchgar am ei help wrth dalu, er mwyn dagos eu rhyddhad o gael gadael y siop!
Ac roedd heddiw wedi bod yn drwch o’r tadau hynny digwydd bod, yn boeth a chwyslyd yn cyrraedd ei siop gyda chlwstwr o blant llawn siwgr diodydd pop cynnes a chandi fflos. Y plant yma fyddai’n dalld y gem ac yn gweld cyfle gan wybod yn iawn na fyddai’u tadau’n ymwybodol o’r rheolau llym arferol fydd yn bodoli wrth siopio gyda Mam er mwyn cadw trefn arnynt, yn bodoli heddiw.
“Bysa wanc bach yn neis rŵan.” Meddai Deiniol wrtho’i hun wrth feddwl am un dyn yn benodol a gyrhaeddodd y siop ganol p’nawn. Yn ei dridegau cynnar, roedd gan y cwsmer penodol yma wallt brown wedi ei frwsio’n daclus a chrib – fel pe bai’n mynd am gyfweliad gwaith yn hytrach nac am ddiwrnod o ymlacio ar y traeth, locsyn twt yn gorchuddio gen sgwâr. Gwddf ac ysgwyddau cryf, llydan, – yn amlwg roedd y tad yma’n hoff o weithio allan, – neu chwarae rygbi. Teimlodd Deiniol ei goc yn caledu wrth iddo gofio’r dyn. Er ei fod yn gwigo crys-t, roedd yn grys-t tynn a ddangosai’n glir amlinell cyhyrau ei frest, – yn bendant roedd hwn yn chwarae rygbi, meddyliodd. Tynnodd Deiniol ei drôns i lawr hyd at ei ben ‘gliniau, poerodd ar gledr ei law a gafaelodd yn ei goc. Dechreuodd halio wrth ddychmygu’r tad yma hefyd yn tynnu’r shorts nofio glas oedd o’n ei wisgo. Dychmygodd o’n chwarae hefo’i goc hefyd, – mi fydda’i ganddo un dew, yn bendant, dychmygodd. Dychmygodd o’n camu at Deiniol yn y siop a mynnu ei fod yn sugno’i goc yn y fan a’r lle cyn i’w deulu gerdded i mewn, y sugno’n frysiog, gwyllt a gwlyb, gan wthio’i goc fawr galed lawr corn gwddf Deiniol nes iddo bro a thagu arni.
Roedd Deiniol ar goll yn ei ffantasi a oedd wedi ei feddiannu yn hollol 100%, – pan gerddodd Mathew i fewn i’w ystafell.
“Heia babes, wps, don’t mind me, sori, mond isho benthyg rhywbeth ydw i, caria di ‘mlaen, ti’n amlwg yn mwynhau dy hun yn dy moment.” A cherddodd heibio’r gwely at fwrdd a set o ddrorau wrth y ffenestr.
Roedd Deiniol yn agosau at ddŵad “O, ffycin ‘el Mathew, sori met fedrai ddim stopio rŵan dwi jest a dŵad….!” A parhaodd Deiniol i halio tra oedd ei gyd-breswylwr yn traforio’n y drorau yn chwilio am ryw ddilledyn neu’i gilydd….
“Na, na babes, dim problem, y fi ddaru gerdded mewn ‘un-announced’ arna chdi a…” meddai Mathew wrth ddod o hyd i’r fest oedd o’n chwilio am a throi rownd i wynebu Deiniol “….ag eniwe, o ni’n arfer lyfio gwylio dy ‘cum-face’ di, lol.” A gyda hynna fe gyrhaeddodd Deiniol ei orgasm, tuchanodd yn uchel ac edrychodd ar Mathew, a dod. Tasgodd ei sbync dros ei ysgwydd dde a tharo’r wal y tu ôl iddo, gyda’r gweddill yn glanio ar ei ‘stumog. Daliodd Deiniol i sbïo ar ei ffrind a safai yno’n fud.
“Boy oh boy, dwi’n cofio’r wyneb yna darling. You used to come all over me, and always into my llygaid, ti’n cofio? A pheth arall, mae gen ti waith nawr i sgrwbio’r wal ‘na tu ôl i chdi hefyd, – unless you want me to lick it off yn de hon.” Winciodd Mathew’n bryofclyd ar ei ffrind wrth gerdded allan o’r ystafell a’i fest yn ei law.
“Oh my God,” meddai Deiniol, wrth gael ei wynt, – a’i synhwyrau’n nol ato eto, “Bloody DILFs, fy nghael bob tro.” Cododd ar ei eistedd, sychodd y sbync oddi ar ei ‘stumog gyda’i drôns, trodd rownd i weld beth oedd y sefyllfa ar y wal lle llifai’r sbyc i lawr yn ddioglyd, a sychodd yr hylif i ffwrdd y gorau y gallai gan adael staen tywyll ar y wal wen, gobeithia’i y byddai’n mynd yn llai amlwg ar ôl iddo sychu’n gyfan gwbl! Neidiodd oddi ar ei wely, gwisgodd bar o shorts cotwm oedd yn digwydd bod ar y llawr ers echdoe a cherddodd lawr y coridor tuag at y ‘sdafell folchi.
Roedd y drws yn gil-agored a camodd fewn heb ddisgwyl gweld Trefor yno’n eistedd yn paratoi ei wyneb at y noson o’i flaen.
“O, haia cyw, sud wti? Sut oedd hi’n gwaith heddiw? Gafodd Mathew ei fest o ni’n clywed. Dyro dy gyfar dwfe’n y fasgiad os ti isho ‘mi olchi o’n y wash yfory ‘li.” Meddai Trefor wrth edrych ar Deiniol yn y drych. Roedd o wedi bod yn rhoi colur ar ei wyneb am yr awr a hanner dweuthaf, a rŵan yn trio rhoi un o’i glustlysau piws ag aur drom yn ei lle.
“Yyyyyym, do diolch, diwrnod go lew’n gwaith.” Atebodd Deiniol, gan sylwi fod Trefor mwyaf tebyg wedi ei glywed yn dŵad ar ei wely funud yng nghynt. Roedd Trefor fel llys-riant iddo, er, yn gyfreithiol wrth gwrs doedd o ddim yn ffasiwn beth am fod gan Deiniol ei rieni go iawn yn byw’n hapus ym Mhenygroes lle gafodd ei fagu ac roedd ganddo berthynas agos gyda’r ddau. Na, talu rent i Trefor a byw mewn ystafell o fewn ei dy teras mawr o oedd Deiniol, ac wedi bod ers pum mlynedd bellach. Yn wreiddiol, roedd Deiniol a Mathew wedi symud fewn fel cwpwl ifanc, ond, fel yr aeth amser yn ei flaen, fe newidiodd eu perthynas a sylwon mai bod yn ffrindiau da fyddai orau. Symudodd Mathew allan – yr holl ffordd i ystafell arall ar yr ail lawr o fewn 44 Teras Glandon!
Trefor oedd yn berchen ar y ty ac roedd byw o dan ei amodau a’i reolau’n siwtio Deiniol, Mathew, a Leila’n iawn, gydag ystafell wely i bawb, ac un sbar i deulu neu bobl ddiarth pan ddônt i aros acw. Roedd yn gartref clud a gweddol arbennig………..
“Homo House of Horrors!!!” Dya beth oedd rhywun wedi ei beintio ar y drws ffrynt dwy flynedd yng nghynt mewn paent llachar pinc, ac roedd y dref i gyd yn son am y digwyddiad, – ond, yn groes i beth oedd pawb yn ei ddisgwyl roedd Trefor wedi gweld yr holl beth yn ddigrif ofnadwy, a hyd yn oed wedi sefyll y tu allan yn y drws – mewn drag llawn, er mwyn i’r papur lleol, yr Heli Herald gael tynnu’i lun ac ysgrifennu erthygl digon cytbwys chwarae teg, am agweddau homoffobig o fewn y dref. Rŵan, oedd copi o’r erthygl a’r llun wedi ei fframio’n y gegin.
“Ffwcio’r blydi homoffôbs ‘ma, gawn nhw weld!” Oedd Trefor wedi ei ddweud ar y pryd.
“Dwyt ti ddim yn gweithio heno cyw?” Holodd Trefor wrth edrych yn y drych ar Deiniol yn troi’r gawod ymlaen.
“Yyyyyym, yndw i fod, ond ella fyddai’n ‘rom bach yn hwyr ar y ret yma…” Atebodd Deiniol wrth ymestyn i droi ‘mlaen y gawod a thrio peidio cael ei drochi’n y dwr oer a ruthrai o’r gawod bob tro cyn i’r dwr ddechrau cynhesu. Tynnodd ei shorts a chamu i fewn i folchi.
“Cofia wneud yn siŵr dy fod yn cael rhywbeth i’w fwyta cariad, dwi’n siŵr y byddi di’n brysur heno, dwi wedi clywed bod ‘na fws o hogia del yn dŵad lawr o’r Gogledd heno ‘ma, – and you know be’ mae nhw fel!” Roedd Trefor o hyd yn trio gwneud yn siŵr y byddai pawb yn ei dy’n cadw at fwyta’n weddol gall, er nad oedd o erioed wedi medru, – na thrio galw ei hun yn ‘chef’ o unryw fath. Ceisiodd forol bod rhywbeth bwytadwy’n yr oergell, fydda’n mentro gwneud ambell i lasagne i’w rannu bob hyn a hyn er mwyn i rywun fedru helpu ei hun iddo.
“A-ha, siŵr o neud……….faint o’r gloch byddwch chi ar y llwyfan ‘ta?” Gofynnodd Deiniol wrth olchi’r siampŵ o’i wallt a dechrau a seboni ei gorff. “O, tua’r deg ‘ma ‘sdi, – gobeithio fydd pawb yn weddol chwil erbyn hynny’n de. Pwy sy’n gweithio tu ôl i’r bar hefo chdi eno dŵad?” Holodd yntau wrth ail-roi ei finlliw. “Yyyyyyyyy…dwi ‘meddwl mai Steve, Bryn a Gwenan.” Meddai Deiniol wrth ganolbwyntio ar seboni’r chwys o’i geseiliau cyn dechrau ar ei ‘stumog. Cymerodd fwy o amser i ymolchi ei ganol, roedd ei goc dal yn hanner caled a chymerodd fawr o seboni iddi galedu eto.
“O cyw, ti angen ‘chydig o ‘action’, mae hi wedi bod yn ddipyn o anialwch i chdi’n ddiweddar yn tydy. O leiaf pan oedda chdi a Mathew hefo’ch gilydd oedd dy bidlan yn gwybod fod ganddi rwtin rheolaidd yn doedd.” Chwarddodd Trefor wrth weld Deiniol yn sefyll yno hefo’i godiad. Doedd fawr ddim yn tabŵ yn 44 Teras Glandon, a doedd mursendod ddim yn medru ffynnu – na chael bodoli yno. Penderfynnodd Deiniol nad oedd pwynt trio cuddio’i godiad, doedd ffasiwn beth ddim am wneud unryw un gochi’n y ty yma beth bynnag. Trodd y gawod i ffwrdd a chamodd allan i chwilio am dywel sych, “Be’ dwi i fod i ‘neud e?” Chwerthodd wrth sefyll yno’n gwynebu Trefor, ei godiad yno’n llawn balchder, “..geshi wanc bach llai na deg munud yn ôl a sbïwch!”
“Do, dwi’n gwybod cyw, oedd hi’n anodd peidio dy glywed di! Oh honey, please put it in somebody soon, neu mi fydd hi wedi disgyn off…….Pam wti’n cael trafferth ffendio rhywun mwyaf sydyn eniwe? Iesu mawr, it’s pretty impressive, look at it for goodnes’ sake, be’ di’r broblem?” Tynnu coes oedd Trefor wrth gwrs, a gyda hynny, gorffennodd osod y minlliw ar ei wefys, a’i roi’n ei ôl yn y pwrs bach secwins piws wrth y sinc. Safodd, gan edrych unwaith eto ar ei hun yn y drych a gwneud un newid bach arall i’w wig pinc cyn gadael yr ystafell folchi hefo’i bwrs pinc er mwyn rhoi llonydd i’r hogyn gael sychu ei hun.
“Diolch Tref”, atebodd Deiniol wrth wylio Trefor yn gadael, “I’ll bare that in mind!”, a sychodd ei hun gyda thywel bach, doedd dim un mwy o fewn ei afael. Edrychodd yntau’n y drych gan ddweud wrtho’i hun “Dwi am ffendio dyn i mi heno, doed neu delo!”