Na, peidiwch a phoeni, tydw i heb fod ar gyfyl gorsaf drên Machynlleth na nunlla arall ers i ni gyd orfod aros adref yn ddiweddar. Llun ohonai o llynedd ydy hwn pan oeddwn ar grwydr ar draws y wlad. Mi fyddai unrhyw lun ohonai rŵan yn digon i ddychryn rhywun gan nad ydw i wedi bod allan yn yr awyr iach a’r heulwen ddim gwerth!

Y rheswm pam mod i yma heddiw ydy i weld a fyddai gan unrhyw un ohona chi ddiddordeb mewn ysgrifennu neu rannu syniadau am storïau. Rydw i wedi bod yn trio ysgrifennu nofel/storïau am gymeriadau LHDTC+ Cymraeg, gan nad ydw i wedi dod ar draws fawr ddim yn ein hiaith ni. Mae’r rhan helaeth o nofelau LHDTC+ yn dod o’r UDA yn tydy! Rydw i’n hoff iawn o nofelau Armistead Maupin (Tales of the City) a fuodd ar Netflix yn ddiweddar, ac ar Channel 4 flynyddoedd yn ôl os gofiwch chi?

Dwi’n siŵr yn y Gymru gyfoes sydd ohoni fod lle, – a gofyn am lenyddiaeth LHDTC+, rydym yn genedl fodern a digon aeddfed yn tydan siawns?

Felly, os, – os yr offech chi drafod syniadau neu wybodaeth hefo mi, plîs cysylltwch a fi! Gallwch gysylltu yma, neu drwy Twitter ar @Mbhws, p’ryn bynnag sy haws. O, a un peth arall, peidiwch a phoeni am safon eich iaith a threiglo a phethau felly, rydw i wedi fy magu’n Gymraeg a fel y gwelwch chi, tydy fy ngramadeg i’n bell bell o fod yn berffaith, – tydy bywyd yn rhy fyr i boeni’n ormodol am bethau felly’n tydy!

Gadael sylw