Helo bobol!

Na, peidiwch a phoeni, tydw i heb fod ar gyfyl gorsaf drên Machynlleth na nunlla arall ers i ni gyd orfod aros adref yn ddiweddar. Llun ohonai o llynedd ydy hwn pan oeddwn ar grwydr ar draws y wlad. Mi fyddai unrhyw lun ohonai rŵan yn digon i ddychryn rhywun gan nad ydw i wedi bod allan yn yr awyr iach a’r heulwen ddim gwerth!

Y rheswm pam mod i yma heddiw ydy i weld a fyddai gan unrhyw un ohona chi ddiddordeb mewn ysgrifennu neu rannu syniadau am storïau. Rydw i wedi bod yn trio ysgrifennu nofel/storïau am gymeriadau LHDTC+ Cymraeg, gan nad ydw i wedi dod ar draws fawr ddim yn ein hiaith ni. Mae’r rhan helaeth o nofelau LHDTC+ yn dod o’r UDA yn tydy! Rydw i’n hoff iawn o nofelau Armistead Maupin (Tales of the City) a fuodd ar Netflix yn ddiweddar, ac ar Channel 4 flynyddoedd yn ôl os gofiwch chi?

Dwi’n siŵr yn y Gymru gyfoes sydd ohoni fod lle, – a gofyn am lenyddiaeth LHDTC+, rydym yn genedl fodern a digon aeddfed yn tydan siawns?

Felly, os, – os yr offech chi drafod syniadau neu wybodaeth hefo mi, plîs cysylltwch a fi! Gallwch gysylltu yma, neu drwy Twitter ar @Mbhws, p’ryn bynnag sy haws. O, a un peth arall, peidiwch a phoeni am safon eich iaith a threiglo a phethau felly, rydw i wedi fy magu’n Gymraeg a fel y gwelwch chi, tydy fy ngramadeg i’n bell bell o fod yn berffaith, – tydy bywyd yn rhy fyr i boeni’n ormodol am bethau felly’n tydy!

44 Teras Glandon

” O tyrd yn dy flaen, mi fedri di wneud hyn, ti’n gwybod hynny’r hen het!” Ceisiodd Trefor gael hyd i’r amynedd a’r nerth i wynebu noson arall o geisio cael torf mewn tafarn i wenu. Eisteddodd o flaen y drych yn ei ystafell folchi wrth ddechrau ar yr awr a hanner go-lew o waith ymbincio a oedd o’i flaen. Sawl gwaith oedd o wedi bod drwy’r broses yma, – tair noson yr wythnos am y pymtheg mlynedd dweuthaf, bron yn ddi-dor. Y clustlysau mawr trwm, y minlliw, y masgara, y powdr, y paent, yr wigiau, heb son am yr holl wisgoedd, y secwins, y plu – yr holl halibalŵ o fod yn frenhines drag mewn tafarn hoyw ceiniog a dima mewn tref glan mor blinedig a oedd wedi gweld dyddiau gwell, fel y fo’i hun!

“Pumdeg naw oed, a dyma be’sy’ gynna’i i ddangos am fy amser ar y blydi Ddaear ‘ma, – blydi diawledig!” Meddai.

Sylwodd wrth yngan y frawddeg ddweuthaf mai crombil y diflastod-ar-fywyd diweddar yma oedd y rhif afiach yna, y 59. Mewn tair wythnos byddai’n ‘dathlu’ ei ddyrchafiad i’w chwedegau. Doedd dim dianc o hynny, ew mi roedd Mami Amser yn medru bod yn greulon weithiau – teimlai Trefor mai hi’n bersonol oedd wedi achosi’r trideg mlynedd ddweuthaf i fflio heibio fel tasa hi wedi pwyso botwm ‘ffast-fforwards’ ar ei fywyd. Ond, doedd yna ddim dianc, rhaid oedd wynebu ffeithiau a meddai wrtho’i hun wrth ddewis ac ymafael ar y clustlysau gwydrau piws ag aur o’i flaen “Oh just grab life by the balls dear, – chwedeg, bring it on bitch!”

Roedd hi’n gyda’r nos braf a chynnes yn y dref, llusgai’r ymwelwyr eu cyrff blinedig i fyny o’r traeth gan gario’u cadeiriau, pwcedi a rhawiau a’u ‘wind-breakers’ amryliw gyda hwynt. Wedi gwario’r rhan helaeth o’r dydd yn lygid yr Haul ac yn nhonnau’r mor, roeddynt wedi blino bellach ac roedd gwallt pawb yn stiff ac yn llawn heli’r mor. Eu lliw Haul newydd yn gwneud eu crwyn yn sych a thyn wrth iddynt gario’r holl ddodrefn a chysidrwyd yn mor angenrheidiol ar gyfer y dydd ar y traeth y bore ‘ma – erbyn hyn yn gymaint o drafferth, a’r hyn oll tra gwisgant eu fflip-fflops llawn tywod.

Roedd hi wedi bod yn Haf poeth a hir – un o’r poethaf ar record yn ôl y gwybodusion ar y newyddion yn ddiweddar, – y term ‘newid hinsawdd’ yn cael ei adrodd a’i ail-adrodd mor aml fel tasai’n bod yr unig sioe-yn-dre, o leiaf roedd wedi cymeryd rhywfaint o sylw oddi ar lol y Brexit ddiawledig ‘na am ychydig!

Yn sgil y tywydd braf roedd yna fynd anferthol wedi bod ar hufen ia, sglodion a chŵn poeth, ac oherwydd hyn roedd gwylanod y dref wedi cael ‘bonansa’ o dymor yn gwledda ar fwyd fusutors diniwed, ac erbyn hyn roedd rhai’n edrych yn fwy tebygol i dyrcwns na gwylanod ac angen ychydig mwy o ymdrech i hedfan oddi ar y prom.

Roedd y ddwy awr rhwng chwech ag wyth gyda’r nos yn amser trosglwyddo a thrawsnewid yn y dref. Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am werthu’r dref fel tref glan mor hufen ia, sgons a choffi, a chwilio am grancod ar drai’r mor i deuluoedd ifanc i dref gyda’r nos, – lle i oedolion ifanc gael hwyl, cael gor-yfed a meddwi, cael cwffio ar y pafin, cael chwilio am bitsa neu kebab hwyr cyn disgwyl am oriau am dacsi i’w cludo adref. Amser o trawsnewid, pan oedd y dref yn paratoi i ffarwelio a’r dydd crasboeth prysur ar y traeth ac i groesawu noson o yfed a bwyta’n ei thafarndai a bwytai yn y strydoedd bach y tu ôl i’r prom bach a wahanai’r dref o’r glan mor tywodlyd.

Roedd Deiniol wedi bod yn edrych ymlaen at y nos Sadwrn yma, – wel, jest fel pob nos Sadwrn arall a bod yn onest. Gweithiai mewn siop fechan ar y prom yn ystod oriau’r dydd yn gwerthu hufen ia, pop, diodydd poeth, cardiau post, pwcedi a rhawiau bach plastig, sêr mor wedi eu sychu a chregyn mor egsotig wedi eu polisho, – cregyn na fyddwch fyth bythoedd yn eu gweld yn naturiol ar draethau Cymru.

A hithau’n hanner awr wedi saith, a dim son am yr un cwsmer arall wedi twchu’r siop am o leiaf dri chwarter awr, penderfynodd roi’r ffidil yn y to am y diwrnod, – dim, a bod yn onest oedd angen fawr o berswâd. Cadwodd y raciau o gardiau post a safai tu allan i’r siop naill ochr i’r drws, a chadwodd y pres o’r til mewn saff fach yng nghefn y siop, a dyna fo, clôdd y drws – rhyddhad meddai wrtho’i hun gan sefyll allan yn yr heulwen hwyr. Roedd y mor ar drai o’i flaen, a gwelodd ambell gwpwl a theulu o fusutors dal yn gwneud y gora o’r awran neu ddwy o olau dydd oedd ar ôl yn cerdded ar hyd y traeth. Trodd Deiniol ei gefn atynt oll, a throi am adref, cwta pum munud o gerdded o’r prom tuag at un o strydoedd cefn y dref. Roedd ganddo awr i baratoi ei hun a newid cyn dechrau ei shifft yn y Castell, – enw a oedd yn ddewis od ar dafarn mewn tref heb yr un!

Cyrrhaeddodd ei gartref, ty teras mawr pum llofft ar dair lefel, a rhentia’i ystafell ar y llawr uchaf a wynebai’r stryd, fel y gallai weld y mor o’i ffenestr. Ac er ei fod yn swyddogol mond yn rhentu’r un ystafell mewn gwironedd , roedd y tŷ’n agored i bawb ac arhosai yno. Agorodd y drws ffrynt mawr trwm gwyrdd gyda’i oriad a chamodd i fewn, – roedd y tŷ’n ddistaw a meddyliodd efallai y byddai’r rhan fwyaf o’i gyd-breswylwyr allan o hyd yn mwynhau’r Haul hwyr, ond, doedd dim amser ganddo i feddwl gormod am hynny. Brysiodd i fyny’r tri set o risiau at ei ystafell. Ar gerdded mewn i’w ystafell ei hun ar y llawr uchaf gollyngodd ei fag, tynnodd ei grys-t a gorweddodd ar ei wely am eiliad. Roedd y gynfas yn reit cŵl ar ei groen chwyslyd a meddyliodd pa mor braf fysai aros yma am ychydig, efallai mond i gael cwsg bach am ryw awran. Tynnodd ei esgidiau a’i sanau a’u gollwng i’r llawr wrth y gwely. Gwnaeth ei hun yn fwy cyfforddus ar y gwely barf. Agorodd wregys ei shorts a thynnodd nhw i ffwrdd hefyd a gorweddodd yno’n ei drôns. Roedd o wedi bod ar ei draed am y naw awr dweuthaf yn y siop fach wrth y mor ac mi roedd hi wedi bod yn ddiwrnod prysur o wenu a gweini ar fusutors di-ri diolch i’r tywydd bendigedig o boeth, a rŵan, gyda’i gorff yn gorwedd ar y gwely cyfarwydd yma’n ei ystafell gyfarwydd roedd o ar ei ben ei hun.

Dechreuodd ei feddwl grwydro a throi at y tadau a gerddodd i’r siop yn ystod y dydd, – yn ddiarwybod iddyn nhw, i gadw ei feddwl rhag pydru’n ystod y dydd, roedd Deiniol wedi dyfeisio gem fach i’w ddiddyru. Byddai’n dychmygu allan o’r dynion a ddoi i’r siop, pwy y byddai’n hoffi cael rhyw hefo, a byddai’n eu graddio’n ôl 1) siâp y corff, – y cyhyrau a lefel o ffitrwydd, a 2) blew y corff, – locsyn/blew y frest/coesau, a byddai hyn yn haws os byddant yn cyrraedd y siop yn syth oddi ar y traeth lle byddent yn fwy tebygol o droi i fyny’n eu shorts nofio. Ia, dyna’r unig ddwy amod i’r gem, doedd dim pwynt cymhlethu pethau yn nagoedd? Unrhyw beth i wneud y dydd fynd yn gynt a dweud y gwir. Byddai’n cymeryd ei amser i astudio’r dynion, – yn aml yn hollol amlwg tase rhywun mond yn sylwi arno, wrth i dadau geisio dal i fyny hefo’u plant a fydda’n neidio o gwmpas o un rhan o’r siop i’r llall yn chwilio am deganau neu ddewis hufen ia, ac yna’n methu gwneud eu meddyliau i fyny’n y diwedd rhwng pa liw pwced a rhaw i gael wrth symud ymlaen i fodiachu’r cregyn sgleiniog cyn eu rhoi’n eu holau ar y silff a symud ymlaen i’r peth nesaf!

Gallai ddweud yn syth pa rai o’r tadau hyn oedd yn casáu bod yno, yn casáu gorfod gadael y traeth gan fod eu gwragedd wedi dweud wrthynt am fynd a’u plant am hufen ia i’r siop ar y prom er mwyn iddyn nhw gael munud o lonnydd i darllen eu cylchgronau. Yn casáu , am na fyddent fyth bythoedd fel arfer yn mynd i siopa gyda’u plant yn eu bywydau arferol bob dydd yn ôl yn nhrefi a dinasoedd Canolbarth Lloegr – y rhain oedd ran amlaf yn ddiolchgar am gymorth Deiniol a ddaw o ochr arall cownter y siop i helpu’r plant benderfynu beth i’w brynu. Y tadau diolchgar yma fyddai’n gwneud mwy o ymdrech i wneud sgwrs bach ac edrych i fyw ei lygid a gwenu’n ddiolchgar am ei help wrth dalu, er mwyn dagos eu rhyddhad o gael gadael y siop!

Ac roedd heddiw wedi bod yn drwch o’r tadau hynny digwydd bod, yn boeth a chwyslyd yn cyrraedd ei siop gyda chlwstwr o blant llawn siwgr diodydd pop cynnes a chandi fflos. Y plant yma fyddai’n dalld y gem ac yn gweld cyfle gan wybod yn iawn na fyddai’u tadau’n ymwybodol o’r rheolau llym arferol fydd yn bodoli wrth siopio gyda Mam er mwyn cadw trefn arnynt, yn bodoli heddiw.

“Bysa wanc bach yn neis rŵan.” Meddai Deiniol wrtho’i hun wrth feddwl am un dyn yn benodol a gyrhaeddodd y siop ganol p’nawn. Yn ei dridegau cynnar, roedd gan y cwsmer penodol yma wallt brown wedi ei frwsio’n daclus a chrib – fel pe bai’n mynd am gyfweliad gwaith yn hytrach nac am ddiwrnod o ymlacio ar y traeth, locsyn twt yn gorchuddio gen sgwâr. Gwddf ac ysgwyddau cryf, llydan, – yn amlwg roedd y tad yma’n hoff o weithio allan, – neu chwarae rygbi. Teimlodd Deiniol ei goc yn caledu wrth iddo gofio’r dyn. Er ei fod yn gwigo crys-t, roedd yn grys-t tynn a ddangosai’n glir amlinell cyhyrau ei frest, – yn bendant roedd hwn yn chwarae rygbi, meddyliodd. Tynnodd Deiniol ei drôns i lawr hyd at ei ben ‘gliniau, poerodd ar gledr ei law a gafaelodd yn ei goc. Dechreuodd halio wrth ddychmygu’r tad yma hefyd yn tynnu’r shorts nofio glas oedd o’n ei wisgo. Dychmygodd o’n chwarae hefo’i goc hefyd, – mi fydda’i ganddo un dew, yn bendant, dychmygodd. Dychmygodd o’n camu at Deiniol yn y siop a mynnu ei fod yn sugno’i goc yn y fan a’r lle cyn i’w deulu gerdded i mewn, y sugno’n frysiog, gwyllt a gwlyb, gan wthio’i goc fawr galed lawr corn gwddf Deiniol nes iddo bro a thagu arni.

Roedd Deiniol ar goll yn ei ffantasi a oedd wedi ei feddiannu yn hollol 100%, – pan gerddodd Mathew i fewn i’w ystafell.

“Heia babes, wps, don’t mind me, sori, mond isho benthyg rhywbeth ydw i, caria di ‘mlaen, ti’n amlwg yn mwynhau dy hun yn dy moment.” A cherddodd heibio’r gwely at fwrdd a set o ddrorau wrth y ffenestr.

Roedd Deiniol yn agosau at ddŵad “O, ffycin ‘el Mathew, sori met fedrai ddim stopio rŵan dwi jest a dŵad….!” A parhaodd Deiniol i halio tra oedd ei gyd-breswylwr yn traforio’n y drorau yn chwilio am ryw ddilledyn neu’i gilydd….

“Na, na babes, dim problem, y fi ddaru gerdded mewn ‘un-announced’ arna chdi a…” meddai Mathew wrth ddod o hyd i’r fest oedd o’n chwilio am a throi rownd i wynebu Deiniol “….ag eniwe, o ni’n arfer lyfio gwylio dy ‘cum-face’ di, lol.” A gyda hynna fe gyrhaeddodd Deiniol ei orgasm, tuchanodd yn uchel ac edrychodd ar Mathew, a dod. Tasgodd ei sbync dros ei ysgwydd dde a tharo’r wal y tu ôl iddo, gyda’r gweddill yn glanio ar ei ‘stumog. Daliodd Deiniol i sbïo ar ei ffrind a safai yno’n fud.

“Boy oh boy, dwi’n cofio’r wyneb yna darling. You used to come all over me, and always into my llygaid, ti’n cofio? A pheth arall, mae gen ti waith nawr i sgrwbio’r wal ‘na tu ôl i chdi hefyd, – unless you want me to lick it off yn de hon.” Winciodd Mathew’n bryofclyd ar ei ffrind wrth gerdded allan o’r ystafell a’i fest yn ei law.

“Oh my God,” meddai Deiniol, wrth gael ei wynt, – a’i synhwyrau’n nol ato eto, “Bloody DILFs, fy nghael bob tro.” Cododd ar ei eistedd, sychodd y sbync oddi ar ei ‘stumog gyda’i drôns, trodd rownd i weld beth oedd y sefyllfa ar y wal lle llifai’r sbyc i lawr yn ddioglyd, a sychodd yr hylif i ffwrdd y gorau y gallai gan adael staen tywyll ar y wal wen, gobeithia’i y byddai’n mynd yn llai amlwg ar ôl iddo sychu’n gyfan gwbl! Neidiodd oddi ar ei wely, gwisgodd bar o shorts cotwm oedd yn digwydd bod ar y llawr ers echdoe a cherddodd lawr y coridor tuag at y ‘sdafell folchi.

Roedd y drws yn gil-agored a camodd fewn heb ddisgwyl gweld Trefor yno’n eistedd yn paratoi ei wyneb at y noson o’i flaen.

“O, haia cyw, sud wti? Sut oedd hi’n gwaith heddiw? Gafodd Mathew ei fest o ni’n clywed. Dyro dy gyfar dwfe’n y fasgiad os ti isho ‘mi olchi o’n y wash yfory ‘li.” Meddai Trefor wrth edrych ar Deiniol yn y drych. Roedd o wedi bod yn rhoi colur ar ei wyneb am yr awr a hanner dweuthaf, a rŵan yn trio rhoi un o’i glustlysau piws ag aur drom yn ei lle.

“Yyyyyym, do diolch, diwrnod go lew’n gwaith.” Atebodd Deiniol, gan sylwi fod Trefor mwyaf tebyg wedi ei glywed yn dŵad ar ei wely funud yng nghynt. Roedd Trefor fel llys-riant iddo, er, yn gyfreithiol wrth gwrs doedd o ddim yn ffasiwn beth am fod gan Deiniol ei rieni go iawn yn byw’n hapus ym Mhenygroes lle gafodd ei fagu ac roedd ganddo berthynas agos gyda’r ddau. Na, talu rent i Trefor a byw mewn ystafell o fewn ei dy teras mawr o oedd Deiniol, ac wedi bod ers pum mlynedd bellach. Yn wreiddiol, roedd Deiniol a Mathew wedi symud fewn fel cwpwl ifanc, ond, fel yr aeth amser yn ei flaen, fe newidiodd eu perthynas a sylwon mai bod yn ffrindiau da fyddai orau. Symudodd Mathew allan – yr holl ffordd i ystafell arall ar yr ail lawr o fewn 44 Teras Glandon!

Trefor oedd yn berchen ar y ty ac roedd byw o dan ei amodau a’i reolau’n siwtio Deiniol, Mathew, a Leila’n iawn, gydag ystafell wely i bawb, ac un sbar i deulu neu bobl ddiarth pan ddônt i aros acw. Roedd yn gartref clud a gweddol arbennig………..

“Homo House of Horrors!!!” Dya beth oedd rhywun wedi ei beintio ar y drws ffrynt dwy flynedd yng nghynt mewn paent llachar pinc, ac roedd y dref i gyd yn son am y digwyddiad, – ond, yn groes i beth oedd pawb yn ei ddisgwyl roedd Trefor wedi gweld yr holl beth yn ddigrif ofnadwy, a hyd yn oed wedi sefyll y tu allan yn y drws – mewn drag llawn, er mwyn i’r papur lleol, yr Heli Herald gael tynnu’i lun ac ysgrifennu erthygl digon cytbwys chwarae teg, am agweddau homoffobig o fewn y dref. Rŵan, oedd copi o’r erthygl a’r llun wedi ei fframio’n y gegin.

“Ffwcio’r blydi homoffôbs ‘ma, gawn nhw weld!” Oedd Trefor wedi ei ddweud ar y pryd.

“Dwyt ti ddim yn gweithio heno cyw?” Holodd Trefor wrth edrych yn y drych ar Deiniol yn troi’r gawod ymlaen.

“Yyyyyym, yndw i fod, ond ella fyddai’n ‘rom bach yn hwyr ar y ret yma…” Atebodd Deiniol wrth ymestyn i droi ‘mlaen y gawod a thrio peidio cael ei drochi’n y dwr oer a ruthrai o’r gawod bob tro cyn i’r dwr ddechrau cynhesu. Tynnodd ei shorts a chamu i fewn i folchi.

“Cofia wneud yn siŵr dy fod yn cael rhywbeth i’w fwyta cariad, dwi’n siŵr y byddi di’n brysur heno, dwi wedi clywed bod ‘na fws o hogia del yn dŵad lawr o’r Gogledd heno ‘ma, – and you know be’ mae nhw fel!” Roedd Trefor o hyd yn trio gwneud yn siŵr y byddai pawb yn ei dy’n cadw at fwyta’n weddol gall, er nad oedd o erioed wedi medru, – na thrio galw ei hun yn ‘chef’ o unryw fath. Ceisiodd forol bod rhywbeth bwytadwy’n yr oergell, fydda’n mentro gwneud ambell i lasagne i’w rannu bob hyn a hyn er mwyn i rywun fedru helpu ei hun iddo.

“A-ha, siŵr o neud……….faint o’r gloch byddwch chi ar y llwyfan ‘ta?” Gofynnodd Deiniol wrth olchi’r siampŵ o’i wallt a dechrau a seboni ei gorff. “O, tua’r deg ‘ma ‘sdi, – gobeithio fydd pawb yn weddol chwil erbyn hynny’n de. Pwy sy’n gweithio tu ôl i’r bar hefo chdi eno dŵad?” Holodd yntau wrth ail-roi ei finlliw. “Yyyyyyyyy…dwi ‘meddwl mai Steve, Bryn a Gwenan.” Meddai Deiniol wrth ganolbwyntio ar seboni’r chwys o’i geseiliau cyn dechrau ar ei ‘stumog. Cymerodd fwy o amser i ymolchi ei ganol, roedd ei goc dal yn hanner caled a chymerodd fawr o seboni iddi galedu eto.

“O cyw, ti angen ‘chydig o ‘action’, mae hi wedi bod yn ddipyn o anialwch i chdi’n ddiweddar yn tydy. O leiaf pan oedda chdi a Mathew hefo’ch gilydd oedd dy bidlan yn gwybod fod ganddi rwtin rheolaidd yn doedd.” Chwarddodd Trefor wrth weld Deiniol yn sefyll yno hefo’i godiad. Doedd fawr ddim yn tabŵ yn 44 Teras Glandon, a doedd mursendod ddim yn medru ffynnu – na chael bodoli yno. Penderfynnodd Deiniol nad oedd pwynt trio cuddio’i godiad, doedd ffasiwn beth ddim am wneud unryw un gochi’n y ty yma beth bynnag. Trodd y gawod i ffwrdd a chamodd allan i chwilio am dywel sych, “Be’ dwi i fod i ‘neud e?” Chwerthodd wrth sefyll yno’n gwynebu Trefor, ei godiad yno’n llawn balchder, “..geshi wanc bach llai na deg munud yn ôl a sbïwch!”

“Do, dwi’n gwybod cyw, oedd hi’n anodd peidio dy glywed di! Oh honey, please put it in somebody soon, neu mi fydd hi wedi disgyn off…….Pam wti’n cael trafferth ffendio rhywun mwyaf sydyn eniwe? Iesu mawr, it’s pretty impressive, look at it for goodnes’ sake, be’ di’r broblem?” Tynnu coes oedd Trefor wrth gwrs, a gyda hynny, gorffennodd osod y minlliw ar ei wefys, a’i roi’n ei ôl yn y pwrs bach secwins piws wrth y sinc. Safodd, gan edrych unwaith eto ar ei hun yn y drych a gwneud un newid bach arall i’w wig pinc cyn gadael yr ystafell folchi hefo’i bwrs pinc er mwyn rhoi llonydd i’r hogyn gael sychu ei hun.

“Diolch Tref”, atebodd Deiniol wrth wylio Trefor yn gadael, “I’ll bare that in mind!”, a sychodd ei hun gyda thywel bach, doedd dim un mwy o fewn ei afael. Edrychodd yntau’n y drych gan ddweud wrtho’i hun “Dwi am ffendio dyn i mi heno, doed neu delo!”

Bleddyn a Steve

Eisioes roedd Bleddyn wedi sylwi ar y newid oedd ar y gweill. Roedd yr arwyddion yno ers tipyn a doedd o ddim am gymeryd dim i siawns. Ar ôl mwynhau ei facrell a’i datws newydd, – ac o, pa mor uffernol o neis oedda nhw hefyd – y mecryll ffres hefo digonnedd o finag arnyn nhw, llwyth o fenyn ar y tatws ac yna llnau’r blât yn lan wedyn hefo tafell dew o fara menyn, aeth allan i gasglu’r dillad gwlyau a oedd wedi bod yn sychu ar y lein ers ben bora, – erbyn rŵan roeddan nhw’n clecian yn y gwynt a ddaw o gyfeiriad y mor. Roedd y gwynt wedi codi a’r gwylanod wedi dod fewn o’r mor i gysgodi o beth wyddant hwythau beth oedd i ddod.

Wrth gasglu’r gyfnas olaf oddi ar y lein, sylwodd Bleddyn ar yr enfys amlwg allan i’r mor, – mor amlwg oherwydd y cymylau du-bitch oedd yn ei hamlygu y tu ôl iddi a’r Haul a sgleiniodd arni o gyfeiriad y tir. Ond gwyddai Bleddyn mai colli’r frwydr hon a wnâi’r Haul y tro yma i’r storm a oedd yn tyfu mewn nerth rhyngtho fo ar y rhan yma o arfordir gwyllt gogledd-orllewin Cymru a’r Iwerddon.

Aeth a’r dillad glan i fewn cyn dychwelyd allan i forol fod yr ieir yn ddiogel yn eu cwt – pob un ond Beti wrth gwrs, fel arfer mynnai hithau gael gwneud ei threfniadau ei hun a gwrthododd fynd mewn i’r cwt pwrpasol. Gwyddai Bleddyn mai fel yma y bydda hi, ac, er mai mond iâr oedd hi, y bysa Beti’n cael lle call i gysgodi ar liwt ei hun pan ddaeth yr amser!

“Morol dy fod yn cadw’n saff iawn? Mae hon am fod yn uffarn o storm cofia!” Meddai wrth Beti wrth iddo gloi’r gweddill o’r ieir yn ddiogel yn eu cwt clyd. Taearai Bleddyn fod yr iâr yma’n deall pob gair ac iddi nodio’i phen a gwneud sŵn gystal a chydnabod ei ofnau cyn mynd i ffwrdd i grafu mwy ar y pridd yn y patch tatws.

Trodd Bleddyn am y bwthyn, a chyn iddo fynd drwy’r drws ffrynt, trodd rownd i weld y cymylau cleisiog ddu-biws yn nesáu. Clywodd daran yn y pellter a gwyliodd wrth i’r glaw cyntaf gael ei ollwng dros y mor yn yr act gyntaf o’r ddrama a oedd i ddod. Caeodd y drws y tu ôl iddo, roedd Nedw’r gath eisoes wedi gwneud ymddangosiad ac wedi sodro’i hun ar ei glustog arferol wrth y grât, – yntau’n gwybod fod newid mawr yn yr aer ac wedi synhwyro fod rhywbeth arbennig ar ei ffordd ac mai’r lle sychaf i fod fyddai i mewn yn y bwthyn. Caiff yr hela adar bach a llug barhau yfory.

“O, mi welai, – ti di bod yn cuddiad ‘rhywle drwy’r dydd a rŵan ti ‘di ffendio dy ffordd adra, tisho bwyd mashwr?” Meddai Bleddyn wrth Nedw, cath achub frech y cafodd Bleddyn chwe mlynedd ynghynt. Roedd Nedw wedi ymgartrefu’n y bwthyn bach ar ben gallt y mor fel petai wedi bod yno erioed. Gwyddai’n iawn p’ryd oedd amseroedd bwyd, sef wyth yn y bore a thua hanner awr wedi chwech o’r gloch gyda’r nos fel arfer, rhwng yr amseroedd hynny byddai’n ‘brysur’ drwy’r dydd yn hela adar bach, llug, a chennau-pry-gwirion, yn aml gan ddod a nhw, neu rhannau ohonynt o leiaf, adref i ddangos i Bleddyn a fyddai wrth gwrs, yn wrth ei fodd yn sefyll yn ddiarwybod ar grombil anifeiliaid bach yn ei gegin!

Dilynnodd Nedw Bleddyn i’r gegin i gael ei swper ac wrth i Bleddyn wasgu cynnwys cwdyn bach o fwyd cath cyw iâr jeli-og i’w fowlen fach ar y llawr daeth y fflach o fellten gyntaf y storm i oleuo’r gegin drosti gan gael ei dilyn yn sydyn wedyn gan daran anferthol a ddychrynodd y gath a’r dyn am funud. “Paid a dychryn Neds, mond taran oedd o, ‘da ni’n ddigon saff yn fama ‘sdi.” – Cynnig Bleddyn ar berswadio fo’i hun yn o gystal a’r gath oedd hynna, roedd y daran wedi ei ddal yntau yn ddiarwybod hefyd er ei fod yn gwybod yn iawn fod y storm ar ei ffordd ers meityn! Roedd y gath wedi ‘sgrialu hi o dan gwely Bleddyn yn yr ystafell nesaf a arhosodd yno am y deng munud nesaf.

Edrychodd Bleddyn allan o’i ffenestr a gweld y glaw wedi cyrraedd, peltiai’r glaw wydr y ffenestr fel tasai’n talu’r pwyth yn ôl am rhywbeth ofnadwy. Sylwodd fod yr awyr yn hollol dywyll. Fflachiodd yr awyr pob ychydig o eiliadau gan fellt mileinig a chrynodd y bwthyn gan rhuadau’r taranau. Roedd y gwynt wedi codi gan blygu brigau’r coed drain gwynion ar glawdd ei ardd gan rwygo’u blodau bach gwynion a’r deiliach gwyrdd golau newydd oddiar y brigau a’u taflu o gwmpas yr ardd yn sbeitlyd. Gobeithiodd Bleddyn fod Beti druan wedi medru ffendio lle diogel i gysgodi. Roedd hon am fod yn storm ffyrnig a di-faddau.

Eisteddodd ar ei hoff gadair o flaen grât y tan a rhoddodd yr weirlas ymlaen jest mewn amser i’r trydan gael ei golli. Neidiodd Nedw ar ei lin i hel mwythau ac ar ôl munud o sicrwydd dechreuodd ganu grwndi’n selog.

“Wel, Neds, mond chdi a fi fel arfer. Gweitchia imi ffendio’r canwylla’ ma i ni gael ychydig o oleuni o leiaf.” Meddai Bleddyn wrth hel Nedw oddi ar ei lin am funud er mwyn iddo gael trio meddwl lle roedd o wedi cadw’r canhwyllau’n ‘saff’ ar gyfer adegau fel hyn.

Ar ôl stryffaglian mewn drorau a chwpwrddau’n nhywyllwch y gegin cafodd o hyd i’r canhwyllau, eu tanio’n ofalus a’u gosod o gwmpas y bwthyn, un ar y bwrdd bach yn ymyl ei sedd gyfforddus, un yn y gegin, un ar y sil y ffenestr y tu ôl iddo wrth y drws er mwyn cael ‘rom bach o olau’n ei ystafell fyw ac i wneud y lle i edrych yn ychydig mwy clyd, ac un yn ei ystafell folchi. Gyda hyn, cofiodd am ei syniad o gael bath, a sut y penderfynodd yn erbyn hynny oherwydd y diffyg dwr ond rŵan, ail-feddyliodd, gwyddai y byddai mwy na digon o ddŵr o gwmpas ar ôl y storm bresennol! Aeth ati i lenwi’r twbyn a digonnedd o ddŵr poeth nes bod stem yn llenwi’r ystafell folchi gyntefig.

Deffrwyd Nedw ar ôl medru syrthio i gysgu ar ei glustog. Roedd sŵn rhywbeth yn curo ar y drws wedi ei ‘styrbio. Neidiodd ar ei draed a mewiodd yn uchel. Doedd Bleddyn heb glywed y sŵn wrth y drws oherwydd sŵn y dwr wrth lenwi’r bath ond clywodd Nedw’n mewian yn y ‘sdafell fyw ac aeth i weld a beth oedd yn bod, jest rag ofn fod un o’r canhwyllau wedi disgyn ac wedi creu tan.

Ar gyrraedd y ‘sdafell fyw clywodd yntau’r sŵn cnocio – na dim cnocio, – dyrnu ar y drws. Cynhyrfodd am eiliad wrth ddyfalu beth neu bwy allai fod yno.

Camodd at y drws ac arhosodd yno am eiliad, petrusodd cyn meddwl ei agor, “Pwy all fod yno ar noson mor arw?” meddyliodd. Edrychodd draw at Nedw, fel ‘sa fo’n ymofyn cyngor gan y gath. Edrychodd Nedw ato am eiliad cyn ail-afael ar ymolchi ar ei glustog a’i anwybyddu’n llwyr. Cymerodd anadl ddofn ac agor y drws yn araf deg ac ar hanner ei agor teimlodd bwysau’n ei erbyn a sylwodd fod dyn yno ar ei hanner eistedd. Disgynnodd y creadur ar draws yr aelwyd yn methu dal ei hun i fyny. Dychrynodd Bleddyn wrth sylweddoli fod y dyn ifanc yma wedi syrffedu’n y storm, “O’r ‘Rargian!” meddai gan afael o dan geseiliau’r dyn a’i helpu i fewn i’w fwthyn. Prin oedd pwy bynnag oedd o’n medru camu o gwbl a rhaid oedd i Bleddyn ei godi oddi ar ei ben gliniau a’i osod ar ei gadair freichiau gyfforddus. Cynhyrfodd Nedw, stopiodd i folchi ei hun i weld y dieithryn gwlyb yn eistedd ar y gadair o’i flaen, rhedodd allan oddi ar ei glustog ac i ystafell wely Bleddyn.

Doedd y dyn yma ddim mewn cyflwr i siarad, roedd o’n crynu’n ddi-ddiwedd a’i ddannedd yn clecian. Roedd o’n hanner anymwybodol. Rhedodd Bleddyn i’w ystafell folchi i nol tyweli glan a daeth yn ei ôl i dechrau ei sychu a’i gynhesu rywfaint. Roedd yn amlwg i Bleddyn fod y dyn yma wedi bod allan yn rhedeg ar hyd y gelltydd ac wedi ei ddal gan y storm. Roedd ei groen yn biws-las ac yn groen gwydd drosto. Rhwbiodd Bleddyn dywel dros wyneb a gwalld y dyn i drio cael ychydig o liw yn ôl i’w wyneb. Prin oedd ymateb y dyn i Fleddyn pan ymdrechodd i dynnu ei dop rhedeg gwlyb, – beth ddiawch oedd y defnydd od yma? gofynnodd Bleddyn iddo’i hun wrth stryffaglio i dynnu’r top oer tynn dros ben y dyn.

Rhwbiodd dywel sych dros groen brest a stumog y rhedwr, sylwodd pa mor fain oedd y creadur gyda’i asennau’n golwg, er, roedd ganddo gyhyrau reit amlwg felly mae’n raid ei fod yn edrych ar ôl ei hun, meddyliodd. Hanner agorodd y rhedwr ei lygid a cheisiodd ddweud rhywbeth na ddeallodd Bleddyn cyn cau ei lygid eto. Sylwodd ar oriawr anarferol ar ei arddwn dde, – na, dim oriawr oedd o’n y diwedd ond ‘Fit Bit’ yn ôl y sgrifen fach, “Fit Bit, – be’ ddiawl ydy peth felly?” Gofynnodd Bleddyn iddo’i hun gan dynnu’r teclyn a’i osod ar y silff ben tan i sychu. Lapiodd dywel o gwmpas y rhedwr yn dynn, tynnodd ei esgidiau rhedeg a’r sanau mwdlyd gan weld y pothellau poenus. Roedd croen bodiau a bysedd ei draed wedi crebachu’n y dwr a’r mwd. Sylwodd ar sgriffiad go hegar ar ei goes chwith ac aeth i nol powlenad bach o ddŵr poeth i’w lanhau’n ofalus.

Lapiodd dywel arall rownd ei goesau a rhoddodd bar o slipas ar ei draed. Er mai Mehefin oedd hi, mi benderfynodd wneud tan yn y grât er mwyn cael gwres yn y bwthyn. Gwnaeth hefyd dan yn y grât bach yn ei ystafell folchi, penderfynodd y byddai bath poeth i’r rhedwr yn syniad da pan fu iddo ddeffro.

Safai cadair y rhedwr o flaen y tan ac felly cafodd y gwres cynnes yn syth bin ar ôl iddo gynnau. Cleciodd y logiau sych gan dynnu meddwl Bleddyn at nosweithiau hir o flaen y tan ym misoedd y Gaeaf.

Eisteddodd Bleddyn wedyn ar gadair fach arall oedd wrth ymyl ei gadair arferol, – hon oedd ganddo i gynnig i bobl ddieithr os a phan ddeuant acw, a oedd yn beth weddol brin a dweud y gwir. Syllodd ar y rhedwr wedi ei lapio mewn tyweli. Roedd o’n dal i fod mewn rhyw fath o gwsg ond o leiaf roedd o wedi stopio crynu’n ddi-ddiwedd ac roedd gwell lliw ar ei groen.

Rhoddodd logyn arall ar y tan i’w gynnal am ddipyn mwy. Gwasgodd y botwm ar ei declyn rimot i droi’r teledu ymlaen – diolchodd fod y cyflenwad trydan yn ôl. Ymddangosodd Nedw’n ei ôl hefyd, sylwodd fod tan yn y grat a neidiodd ar lin Bleddyn, oddi yno gallai astudio’r creadur a eisteddai’n gwsg ar y gadair gyfforddus. Setlodd ar lin Bleddyn a dechreuodd ganu grwndi’n ddistaw bach.

Ymhen hanner awr, a Bleddyn yn gorffen ei baned ac wrthi’n llenwi’r bath yn yr ystafell folchi fach yng nghefn y bwthyn, fe agorodd y rhedwr ei lygid unwaith yn rhagor. Edrychodd o’i gwmpas gan smwffian, roedd ei drwyn yn rhedeg a meddyliodd ymestyn i’w boced i nol hances. Ceisiodd ymestyn ei fraich i gyrraedd y boced ond sylwodd ei fod hi’n anodd symud. Clywodd sŵn clecian a theimlodd wres cynnes o’i flaen, – doedd dim yn gwneud rhyw fath o synnwyr iddo.

Agorodd Steve ei lygid yn iawn a gweld cath fawr frech yn codi ei ben i edrych arno cyn mynd yn ôl i gysgu ar hen glustog o flaen tanllwyth o dan logiau o’i flaen. Teimlodd ei fochau’n boeth, a hefyd bodiau’i draed ac edrychodd i lawr at ei draed a gweld eu bod mewn par o slipas hen, ond cyfforddus. Sylwodd ei fod yn noeth heblaw am ei drôns ac wedi ei lapio’n dynn mewn tyweli. Edrychodd o’i gwmpas i weld ei fod mewn ty diarth, ond clyd gyda cannhwyllau’n goleuo’r lle a theledu’n y gornel o’i flaen hefo Newyddion 9 gan S4C yn son am hanes storm fawr tros y wlad. Ceisiodd clirio’i wddf ond sylwodd fod ei wddf yn hollol sych.

Cerddodd Bleddyn i mewn o’r ystafell folchi a gweld fod y rhedwr wedi atgyfodi. “Duwcs, iw woc yp. Ar iw ffiling betyr? Mai nem us Bleddyn, hw ar iw ‘llu? Ior clodds ar dra-ing on ddy hors bai ddy we.”

Edrychodd Steve yn syn ar y dyn o’i flaen. Methodd yn glir a chofio’n iawn lle ‘roedd o i fod ac wedi bod. Daeth pethau’n ychydig cliriach wrth glywed yr acen ogleddol, – ond pam oedd y dyn yma’n siarad Saesneg hefo fo, – a pham oedd ei ddillad yn sychu ar geffyl? Roedd hyn yn ychwanegu at y dryswch y ei ben.

“Dont wyri, efrithing wul bi oce. Iw wyr haff conshys in mai dor and ai helpd iw un to drai e but. Ior Ffut-But thing is dra-ing on ddy silff ben tan.” Gwyddai Bleddyn ddim beth oedd ‘silff ben tan’ yn Saesneg, doedd o erioed wedi gorfod meddwl am y peth o’r blaen. Sylwodd nad oedd y rhedwr wedi dweud gair eto a phoenodd mai dim Sais oedd o’n y diwedd, – efallai mai o’r Almaen neu rhywle oedd o’n dod o, ac os hynny, waeth iddo siarad Cymraeg ag o ddim!

“Duw Duw, ai dônt no. Tisho panad neu rwbath?” Mentrodd ofyn yn Gymraeg gan ei fod wedi penderfynu mai dim Saesneg oedd y rhedwr y siarad.

“O…..mi fydde dishgled yn dda, diolch i chi.” Atebodd Steve wrth i’w synhwyrau ddychwelyd.

“O Iesu, Cymro wyt ti! Arglwydd a fina’n wastio fy Saesneg prin hefo chdi. Arclwy’ o ni’n meddwl yn siŵr mai Sais oedda chdi’n ôl dy ddillad aballu, a phan nes di ‘im mo f’atab i’n Saesneg o ni’n styc wedyn.” Meddai Bleddyn, gan sylweddoli ei fod efallai wedi bod braidd yn fyrbwyll, ac efallai ragfarnllyd wrth feddwl mai Sais oedd y boi ‘ma am ei fod yn gwisgo dillad mor wahanol iddo fo. Deallodd Steve fawr ddim o’r frawddeg olaf am fod Bleddyn wedi siarad mor gyflym yn ei acen ogleddol, am ei fod wedi cynhyrfu gymaint mae’n raid, meddyliodd.

“Mi na’i banad i chdi rŵan ‘ta. Dwi wedi rhedeg bath i chdi hefyd i chdi gael cynhesu drwodd pan ti’n barod.” Meddai Bleddyn, wrth ei fodd fod y rhedwr wedi deffro ac i’w weld yn oce ar ôl ei anffawd. Aeth drwodd i’r gegin i wneud paned iddo.

“Yy, diolch yn fawr iawn am fod yno i’m helpu i, sa’ i’n siŵr beth fydde wedi digwdd imi petai chi ddim gatref neu ddim wedi ‘nghlywed i’n y drws gyne’ fach. O, a Steve yw f’enw i, o Gaerdydd.” Meddai Steve, ynta’n falch fod Bleddyn i’w weld yn foi iawn, a dim yn gymeriad allan o nofel Stephen King o leiaf!

“Ia, roedd hi’n storm a hanner yn doedd, cael dy ddal ynddi hi nesdi ia?” Holodd Bleddyn gan ddod a phaned o de poeth a dwy lwyad o siwgr ynddi i Steve a oedd bellach yn eistedd i fyny’n ei gadair ac yn edrych ar y gath.

“Ie, ne ti, wedi penderfynu dod lan i’r Gogledd am newid, – ‘rioed ‘di bod ti’n gweld, mae’n brydferth iawn yn tydy e?” Meddai Steve gan gymeryd llowciad bach o’r te poeth.

“Ydy, mae’n le braf i fyw. Fuish i’n Gaerdydd unwaith hefyd, Duwcs mae o’n le mawr prysur tydy, ac yn bell o bobman.” Meddai Bleddyn wrth daflu logyn arall ar y tan.

“Odi, mae’n bell iawn o yma mae’n raid. Mae’r tan yn lyfi, – wi heb weld tan mewn grât fel ‘ny ers sbel. Beth yw enw’r gath?” Holodd.

“Nedw di hwn, mae o’ ddipyn o gymer, yn dwyt? Cath resciw wti’n de!” Meddai Bleddyn wrth edrych ar y gath a oedd wedi dechrau ymolchi eto. Cymerodd Nedw ddim sylw o’r ddau ddyn o’i gwmpas, doedd dim diddordeb ganddo fo’n eu sgwrs.

“Wel, mae o wedi lando ar ei draed yma gyda chi’n wir…..Os posib mynd am y bath ‘ne nawr? Fi’n teimlo’n ddigon parod fi’n credu.” Gofynnodd Steve. Cododd ar ei draed, – braidd yn sigledig ar y dechrau wrth iddo deimlo poen y pothellod ar ei draed. Gosododd y tywel a oedd rownd ei ganol ar y gadair, roedd ei drôns dal braidd yn damp. Cadwodd y tywel tros ei gefn wrth i Bleddyn ddangos iddo lle roedd yr ystafell folchi.

“Dechi’n ffeind iawn yn rhedeg bath i mi, diolch Bleddyn.” Meddai wrth gyrraedd y bath a theimlo tymheredd y dwr a’i fysedd.

“Iawn ‘sdi, dim problem,” atebodd Bleddyn, ac wrth gau’r drws arno wrth adael y ‘sdafell folchi meddai wrtho “a plîs galw fi’n ‘chdi’ ia, mae ‘na fwy o dyweli’n y cwpwrdd bach wrth y sinc os ti angen mwy. Mi adawa’i ‘rom bach o fwyd i chdi’n y gegin jest rag ofn fyddi di isho bwyd. Mi fydda’i wedi mynd i ‘ngwely mashwr pan ddoi do allan. Doed ‘na mond un gwely’n y bwthyn ‘ma so ma croeso i chdi gysgu ‘pen-i-gynffon’ os tisho.”

“O diolch y fawr iti Bleddyn, ti ‘di bod mor garedig chware teg!” Meddai Steve wrth i’r drws gau. Gollyngodd y tywel i lawr a tynndd ei drôns tamplyd. Camodd yn ofalus i fewn i’r bath poeth. Pigodd bodiau ei draed wrth iddo gamu i mewn a sylwodd ar y pothellod hyll a stad ei groen. Mentrodd i mewn i’r bath. Eisteddodd yno am funud i adael i’w gorff gael arfer a’r gwres. Llenwodd yr ystafell a stem, suddodd ymhellach o dan y dwr poeth croesadwy’r bath dwfn.

Teimlodd ei gnawd yn ymlacio a’r cylchrediad yn dychwelyd i eithafion ei gorff. Suddodd hyd at ei en cyn ymdrochi i gyd gyda’i ben o dan y dwr am rai eiliadau. Teimlodd wres y dwr yn llenwai ei glustiau, llosgai eithafon ei ddwy glust a blaen ei drwyn cyn iddynt arfer a’r gwres, ac wrth iddo suddo’n ddyfnach teimlodd ryw fath o normalrwydd yn dychwelyd i’w gorff o’r diwedd. Cododd ei ben yn ôl allan o’r dwr ac anadlodd yn ddwfn i lenwi ei ysgyfaint a’r stem cynnes o’i gwmpas ac ymlaciodd fwy fyth.

Sylwddolodd pa mor ffodus yr oedd o i fod wedi cael ei ddarganfod mewn amser gan Bleddyn, neu mi fyddai’n siŵr o fod wedi fferu allan yn y storm. “A phwy ydy’r Bleddyn ‘ma?” Gofynnodd iddo’ hun gan godi ei ben rhywfaint mwy er mwyn medru gweld tros ymylon y bath. Roedd yr ystafell yn dywyll heblaw am ambell i olau cannwyll yma ac acw. Edrychodd i fyny at y nenfwd a chlywodd sŵn y glaw’n taro’r to, – oedd mi roedd hi’n dal i lawio a chofiodd unwaith eto pa mor ffodus oedd o i fod yno’n y bath poeth.

Sylwodd ar gerrig plaen waliau’r ystafell folchi, yn union fel y cerrig a welodd ar hyd y traethau cyfagos cyn i’r storm gyrraedd. Roedd hi’n ryfeddol o gynnes a chlud yno hefyd ac ar ôl craffu’n y tywyllwch sylwodd ar le tan bach yn y wal bellaf lle clecia’i logiau sych wrth losgi’n y grat bach. Heblaw am y toiled ei hun a’r cwpwrdd lle cadwai Bleddyn ei dyweli, yr unig ddarn o ddodrefn arall i’w weld oedd sinc seramig sgwâr hen ffasiwn a ffenstr fach uwch ei phen lle llosgai gannwyll ei golau melyn.

Ar ôl bysnesu digon o’i amgylch aeth Steve ati i folchi a mwytho’i gyhyrau blinedig yn nwr y bath cyn iddo oeri gormod. Rhwbiodd ei freichiau a’i goesau a chofiodd am y sgriffiad ar ei goes chwith, smartiodd hwnnw wrth iddo’i gyffwrdd yn anfwriadol. Cododd ar ei draed pan oedd yn barod ac ymestyn am dywel glan. Sychodd ei hun yn sydyn ond gofalus ac ar ôl gorffen gosododd y tywel rown ei ganol, rhoddodd y slipas yn ôl am ei draed a chamodd allan o’r ystafell folchi.

Doedd Bleddyn heb fynd i’w wely erbyn iddo ddod allan o’r bath, yn hytrach eisteddai yn ei gadair freichiau gyfforddus o flaen y tan a Nedw dal ar ei glustog, yn cysgu’n sown y tro yma. Roedd Bleddyn wedi tynnu ei siwmper a’i drowsys ac eisteddai yno’n ei focsyrs a chrys-t thermal gwyn tynn. Sylwodd ar ei ddillad rhedeg yntau wedi eu gosod ar ffrâm bren – yr ‘hors’ mae’n raid meddyliodd, yn sychu rhwng y teledu a oedd wedi ei droi i ffwrdd a’r tan.

Trodd Bleddyn ei ben rownd a gweld Steve yn sefyll yno’n ei dywel. “Ti’n edrych gymaint gwell ar ôl cynhesu tipyn yn y bath.” Meddai. Gallai Bleddyn weld fod Steve yn ddyn a hoffai gymeryd gofal o’i hun fel arfer. Heblaw am y gwalld du byr ar ei ben ac ychydig o flewiach ar ei goesau a’i freichiau sylwodd ei fod yn hollol ddi-flew. Roedd ei frest yn gyhyrog ond dim yn ormodol a chroen ei stumog yn olrhain amlinelliadau cyhyrau reit bendant! Teimlodd ei goc yn cydnabod bodolaeth y corff cyhyrog a rhaid oedd i Bleddyn ail-osod ei hun yn y gadair i guddio’r ffaith. Daeth ei sylw’n ôl i’r ffaith fod Steve yn sefyll yno mewn tywel “…..o. fel y gweli di mae dy ddillad yn dal i sychu ar yr hors, dyro rhein amdanat am heno os wnawn nhw dy ffiti di.” Meddai gan godi o’i gadair a chynnig par o focsyrs glan a fest iddo.

Estynnodd Steve am y dillad isaf glan o ddwylo mawr Bleddyn, a sylwodd wrth iddo godi o’r gadair bod gan Bleddyn godiad wedi dechrau yn ei focsyrs, ond cogiodd nad oedd wedi cymeryd arno, “Diolch i ti, mae hyn yn grêt.” Oedd yr unig beth y dywedodd. Yn yr eiliad honno sylwodd yntau ar weddill gorff Bleddyn, ar ei ffrâm gyhyrog a’r ysgwyddau llydan cryf, y breichiau mawr. Sylwodd ar amlinell cyhyrau amlwg ei frest drwy’r crys-t, a blewiach yn tasgu allan o’r coler, – dynion blewog oedd yn mynd a’i flys bob tro, ond fel arfer, roedd gan dynion o’r ddinas o hyd fwy o ddiddordeb yn eu cyrff eu hunain a gwario gormod o lawer o’u hamser yn y gampfa i sylwi ar ddim, neu neb arall.

Doedd Steve heb fod mewn perthynas hir-dymor ers tair blynedd bellach, ac o ddweud y gwir doedd o heb fod a diddordeb mewn cychwyn a chynnal un chwaith. Roedd ei amser wedi mynd ar ei waith a phrynu’r fflat yn ardal Canton yn y ddinas yn fwy na dim arall. Wrth gwrs roedd ganddo’i gylch o ffrindiau agos a fyddai’n eu gweld yn aml ac roedd ambell i noson wedi gorffen gyda shag bach feddwol bob hyn a hyn ond am unrhyw beth arall, na, doedd ganddo ddim diddordeb.

Doedd o ddim wedi hyd yn oed meddwl am ddynion wrth ddod fyny i’r Gogledd, dim rhyw oedd wedi bod ar yr agenda wreiddiol, dim ond rhedeg, dyna oedd pwrpas yr antur. Yna meddyliodd tybed a oedd y dyn yma, Bleddyn yn ymwybodol ‘i rywioldeb? A oedd o’n gwybod ei fo, yn yr eiliad fach honno wrth ymestyn am ei ddillad glan, ei fod wedi bod yn ei lygadu? Os oedd o’n gwybod, oedd o’ malio bod dyn hoyw’n sefyll yn ei fwthyn gyda thywel am ei ganol. Doedd dim golwg o unryw luniau o gariadon, merched na dynion o gwmpas y lle ar y waliau nac mewn fframiau bach ar y silffoedd. Doedd dim sebonau bach persawrys na unryw olwg o ôl benywaidd o gwmpas y bwthyn. Doedd Bleddyn heb yngan gar am gariad na phartner o unryw rywioldeb yn y byd..

Cymerodd y dillad isaf glan oddi wrth Bleddyn a diolchodd iddo eto, roedd o wedi bod yn eu cynhesu o flaen y tan tra oedd yntau’n y bath. Gollyngodd Steve ei dywel a safodd yno, o flaen Bleddyn yn noeth lymyn. Trodd Bleddyn ddim ei ben i ffwrdd, daliodd i edrych i fyw llygid Steve, y dyn diethr yma nad oedd mond wedi e gyfarfod brin bediar awr ynghynt yn fferu a ei aelwyd. Rhoddodd Steve y trôns ar fraich cadair Bleddyn a cychwynnodd i wisgo’i hun gyda’r fest glan cynnes. Roedd y teimlad o wisgo’r dilledyn cynnes amdano’n un braf. Gafaelodd am y bocsyrs a’u gwisgo’n reit handi gan ei fod yn teimlo’i goc yn dechrau caledu, – doedd o ddim am i’w achubwr i’w weld o’n horni ond roedd yr holl awyrgylch ryfeddol yma’n gwneud hi’n anodd i Steve beidio meddwl am gael rhyw hefo’r Gog blewog o’i flaen.

Heb ddweud gair, cododd Bleddyn oddi ar ei eistedd a safodd o flaen Steve. Gwelodd Steve bod codiad amlwg ym mocsyrs y Gog blewog. Edrychodd y ddau i fyw llygid eu gilydd cyn i Fleddyn ddweud yn y diwedd, “Mae na fara caws a ham yn y gegin os ‘ti isho bwyd – tyrd i’r gwely wedyn, mi eith yn rhy oer i chdi sefyllian ar ôl y diwrnod ti wedi gael.” Ac i ffwrdd a fo drwodd i’r ystafell wely wedyn heb ddweud dim arall, gan adael Steve yno’n sefyll. Aeth drwodd i’r gegin heibio’r lle tan ac eisteddodd wrth y bwrdd bach pren. Arno oedd y bara caws a’r ham yn ei ddisgwyl. Llowciodd y cwbl gan sylweddoli nad oedd wddi bwyta ers brecwast, ac yfodd wydriad o ddŵr oer cyn sychu ei geg.

Cododd oddi wrth y bwrdd a cherddodd allan o’r gegin i’r ystafell wely. Yno, gwelodd siâp Bleddyn yn gorwedd ar ei gefn ar ei wely, yr unig olau oedd yn yr ytstafell oedd golau o un gannwyll ar fwrdd wrth ochr y gwely.

Camodd Steve at ochr y gwely, gorweddai Bleddyn ar yr ochr arall, ei freichiau mawrion wedi ‘plethu y tu ôl i’w ben, ei lygid yn perfeiddio ar gorff Steve. Tynnodd Steve ei fest, ac yna’i focsyrs o flaen Bleddyn. Teimlodd guriad ei galon yn curo’n galed yn ei frest, a’i anadl yn drom. Safodd yno o flaen Bleddyn, y dieithryn blewog a achubodd ei fywyd, safodd yno a’i goc yn galed, camodd fewn i’r gwely a chusanodd Bleddyn ar ei wefys. Symudodd yn gyflym i orwedd ar ben Bleddyn, sylwodd ei fod yn noeth a theimlodd gyffyrddiad ei goc yn pwyso’n erbyn ei goc ef. Dywedodd yr un yr un gair wrth iddynt fynd ati i gusanu’n wyllt, eu tafodau’n blasu eu gilydd ‘u poer yn cymysgu. Blasodd Bleddyn y menyn hallt o’r frechdan y bwytaodd Steve prin funud yng nghynt. Edrychodd i fyw lygid Steve, tynnodd ei geg oddiwrtho gan ddweud “Dwi isho dy goc yn fy ngeg, tyrd a hi yma!”

Gwenodd Steve yn ddireidus, symudodd ei gorff i fyny’r gwely nes bod ei goc yn gwynebu ceg awchus Bleddyn. Teimlodd Bleddyn gorff Steve a’i ddwy law, gan ddechrau ar ei gluniau a mwythnodd yr holl ffordd i fyny gan deimlo cyhyrau ei stumog a’i frest, synnodd ar deimlad moelni’r cyhyrau di-flew, edrychodd i fyny ar Steve, a heb dynnu ei lygid oddi wrtho, llyfodd blaen coc Steve. Blasodd hylif clir y pre-cum ac ochneidiodd Steve wrth deimlo’r dafod ar ei goc.

Gafaelodd Steve yn ei goc a’i gyrru mewn i geg barod Bleddyn, a dechreuodd hwnnw ei sugno’n frysiog. Roedd o’n sugno’n galed i rhyddm frysiog Steve a oedd y ffwcio’r geg ffyrnig. Ochneidiodd wrth deimlo’i goc yn taro corn gwddf Bleddyn, tagodd hwnnw ychydig ond doedd o ddim am rhoi’r gorau iddi. Roedd yr holl sŵn y slyrpian a’r ochneidio’n gwneud Bleddyn yn fwy horni fyth, gwthiodd Steve i ffwrdd ychydig er mwyn iddo gael siarad..”Ffwc ti’n foi horni,” edrychodd ar y rhedwr cyhyrog oedd ar ei frest, gwelodd y wen ar wyneb Steve a ddywedodd y cwbl oedd o angen ei glywed. Gafaelodd yng nghoc Steve a oedd yn gollwng pre-cum erbyn rŵan. Dechreuodd ei halio, reit yn ei wyneb a gyda’i law arall gafaelodd yng nghwd Steve. Teimlodd ei fols a’u mwythoni, sylwodd fod Steve yn rhywun a hoffai drimio’i flew, roedd ei flew’n daclus fel lawnt un o barciau dinesig.

“Stop. stop Bleddyn plîs stopia, dwi bron a dod y barod!” Plediodd Steve wrth deimlo llaw fawr Bleddyn yn mwythoni ei gwd a’i law arall yn brysur halio’i goc wlyb. “..dwi ddim eisiau dod nawr, dim eto ta beth, arafa’i lawr! …..Gaf i weld beth wyt ti’n ei guddiad lawr yma ia?” Medda Steve yn chwareus, tynnodd ei hun o afael Bleddyn, – mor hawdd fydda gadael iddo gario ‘mlaen, hoffai deimlad y dwylo bras drosto’i gyd ond doedd o ddim am ddod cyn cael blasu beth oedd gan Bleddyn ar gael yn gyntaf.

Tynnodd y blanced ysgafn oddi ar gorff Bleddyn a dadochrchuddio’r goc fwyaf oedd wedi ei weld ers oes! Roedd hi’n o leiaf saith a hanner os nad wyth modfedd o hyd ac yn dew, a hollol galed. Neidiodd ei galon wrth gymeryd fewn yr olygfa o’i flaen. Symudodd i lawr y gwely nes ei fod yn edrych i fyny ar Bleddyn a’i goc fawr. Gafaelodd yng nghwd Bleddyn a’i flasu. Roedd ganddo fols mawr a chymerodd bleser yn eu llyfu. Gafaelodd ym mon y goc a dechreuodd ei halio tra gariodd ymlaen i lyfu’r cwd a’ cluniau naill ochr. Edrychodd at Bleddyn, gyd’i law rydd estynnodd allan i fwythoni’r frest flewog, chwaraeodd gyda’r nipyls mawr pinc gan wneud i Bleddyn archio’i gefn ac i’w goc galedu fwy fyth. Hoffodd Steve beth welodd, poerodd ar ei law cyn mynd ati i halio Bleddyn, o’r bon i’r blaen fawr ludiog.

“Gaf i dy ffwcio di Bleddyn?” Gofynnodd wrth dalu sylw i din blewog y Gog.

“Cei, ffwcia fi, plîs ffwcia fi, dwi heb gael ffwc ers rhy hir, mae gynnai gondoms.” Meddai Bleddyn rhwg ochenaid o bleser wrth deimlo bys canol Steve yn cael hyd i’w dwll. Medrodd ymestyn i ddror bach y cwpwrdd wrth ben y gwely a thynnu allan cwdyn bach o liwb a chondom a’u roi i Steve. Rholiodd yntau’r condom lawr hyd ei goc galed cyn gwasgu’r liwb allan o’r cwdyn bach. Rhoddodd ychydig o’r liwb ar ei goc a’r gweddill ar dwll tin blewog Bleddyn. Gosododd blaen ei goc wrth din Bleddyn a gofynnodd iddo “Ti’n siŵr am hyn Bleddyn? Ti’n barod.”

“Na, na gweitcha am funud.” Atebodd Bleddyn wrth ymestyn eto i’r drôr fach a thynnu allan potel bach o poppers, “….gweithcha na’i gymeryd ‘rom bach o hwn, – fydda’i angen o os ti am roi’r goc fawr ‘na fyny ‘nhin i.” A gyda hynny snwyrodd Bleddyn i mewn i’r botel fach cyn ei gosod nol ar y bwrdd wrth y gwely. Teimlodd wres yn codi i’w ben ac ysgafnrwydd hyfryd yn cymeryd drosodd ei gorff. Llaciodd pob cyhyr o’i gorff mawr.

Llyfodd Steve ei wefysau, defynddiodd ei freichiau i godi coesau cryfion Bleddyn ar ei ysgwyddau, a gyda’g un gwthiad, teimlod ei goc yn mynd i fewn i Bleddyn. Ochneidiodd hwnnw wrth deimlo’r goc yn dod i mewn iddo, estynnodd am y botel fach eto a chymerodd snwyriad arall o’r poppers i’w helpu i ddygymod a’r boen. Buan iawn y teimlodd ei fod mewn rhyw fath o nefoedd. Cychwynnodd Steve i gyflymu ei ryddm, bustachodd ac ochneidiodd wrth deimlo’i goc yn mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i Bleddyn wrth i hwnnw ymlacio fwy fwy. Teimlodd Bleddyn fod ei brostad yn cael ei fwythoni gyda phob pwniad o goc Steve, a churodd ei ben ar ben y gwely i’r un ryddm. Roedd ei ben yn troi diolch i waith y poppers yn ei system, a dechreuodd ochneidio’n uwch ac yn uwch. Teimlodd ddwylo Steve yn crwydro tros ei frest chwyslyd, ac yn mwythoni’r blew cyn gafael yn ei goc fawr a’i halio’r un pryd i ryddm y ffwcio. Doedd Bleddyn ddim wedi cael ffwc fel hyn erioed, meddyliodd. Cymerodd ysbaid o fwynhau’r bendro’r poppers i edrych i fyny i wyneb Steve, – roedd ei wyneb yn llawn ystumiau a chanolbwyntio. Sylwodd ar Steve yn canolbwyntio’n chwyslyd ar ei ffwcio ac ar halio’i goc o hefyd, roedd Bleddyn wedi rhoi fyny pob rheolaeth ar ei gorff, roedd popeth yn nwylo’r rhedwr cyhyrog.

Gwelodd ddiferion o chwys yn llifo mor hawdd lawr frest gyhyrog di-flew Steve a gwrandodd ar ei fustachu yn ôl a ryddm ei ffwcio. Mwyaf sydyn teimlodd ei fod am gyrraedd ei orgasm, “Steve….Steve dwi am ddŵad, dwi am ffwcin dŵad, halia fi…” meddai gan roi un braich tu ôl i’w ben a’r llall y tu ôl iddo’n gafael yn sownd yn y fatres.

“O ffycin ‘el Bleddyn, fi am ddod nawr hefyd, fi am ddod ynddo ti, ti’n barod babes, wi’n ffycin dooooooood!!!” A gyda hynny gafaelodd Steve yn dynn yng nghoesau Bleddyn wrth iddo ddod y tu fewn iddo. Ar yr un pryd wrth iddo halio coc Bleddyn fe gyrhaeddodd yntau ei orgasm dan floeddio dros y bwthyn “OOOOOOOOOOOO FF-FF-FF-FFwc!”Daeth gan sbyrtio’i had tros ei stumog a’i frest flewog, blasodd ychydig o’r hylif gludiog a oedd hyd yn oed wedi glanio ar ei locsyn wrth ei geg.

Tynnodd Steve ei hun allan o Bleddyn a gorweddodd wrth ei ochr yn hollol allan o wynt. Gorweddodd y ddau yno wrth ochr eu gilydd. Edrychodd y ddau ar goc Steve a arhosai’n hollol galed yn y gondom am ychydig eto, yna mentrodd Steve i’w thynnu wrth i’w goc fynd yn ddigon llipa. Roedd y gondom yn llawn o’r hylif gwyn gludiog, doedd o heb ddod cymaint a hynny ers tro. Cymerodd Bleddyn hi oddi wrth Steve ac archwiliodd y cynnwys ond yn ddamweiniol gollyngodd y condom nes iddi lanio ar ei frest. Gafaelodd Steve ynddi drachefn ac arllwys ei chynnwys poeth tros frest Bleddyn, – aeth ati i fwythoni’r had i’r blew a thros y croen chwyslyd. Edrychodd Bleddyn i lygid Steve unwaith yn rhagor, gwyrodd drosodd a’i gusanu.

Steve

Cyrrhaeddodd y glaw yr un adeg a chyrhaeddodd Steve y man mwyaf agored a di-gysgod o’i antur redeg ar hyd y rhan hon o Lwybr yr Arfordir. Yn rhy bell i droi’n ei ôl a chyrraedd ei westy’n Abersarnan mewn amser cyn i’r cymylau glaw ei ddal, rhedodd Steve yn ei flaen tu’r gogledd thuag at bentref bach a oedd wedi ei weld. Ond erbyn rŵan doedd y pentref hwnnw ddim i’w weld, roedd niwl glaw wedi ei guddio’n llwyr, – a dweud y gwir roedd popeth wedi diflannu o’i olwg, edrychodd Steve o’i gwmpas a phrin y gallai weld unryw beth o’i flaen, i’w ochr na thu ôl iddo. Oerodd y tymheredd yn arw a dechreuodd fwrw glaw oer ar ei groen. I ddechrau roedd oerni’r dwr glaw yn braf ar ei ben a’i ysgwyddau a oedd wedi bod yn boeth o chwys ers oriau ond mewn dim o amser, roedd Steve yn wlyb socian at ei groen.

Syllodd o’i gwmpas i edrych am unryw fath o gysgod y gallai wneud y gorau ohono nes i’r galw basio, roedd wedi sylwi ar ddigonnedd o gloddiau uchel pob hyn a hyn ar hyd ei daith ar hyd y gelltydd a hyd yn oed hen adfail beth a ddychmygai oedd cwt bugail ychydig o filltiroedd yn ôl.

Edrychodd o’i gwmpas a gwelodd fod y cymylau duon wedi uno i greu un cwmwl bygythiol. Cyflymodd y glaw a syrthiodd yn syth i lawr gan nad oedd y gwynt i’w chwythu. Flachiodd fellten yn agos iddo allan yn y mor a dychrynodd gan deimlo mor amlwg. Dilynnwyd y fellten bron yn syth gyda’i tharan a chleciodd ei phresenoldeb. Ni wyddai Steve beth i’w wneud yn orau. Teimlodd mor fregus yn sefyll yno ar ben yr allt dyfarodd na fyddai wedi troi’n ei ôl pan gafodd gyfle, yn lle mynnu mynd yn ei flaen, ond roedd hi’n rhy hwyr bellach. Flachiodd fellten anferth arall i’r mor mewn fforchiad erchyll drydanol – tebyg i’r mellt y gofiai weld mewn hen ffilmiau o’r 70au neu’r 80au o dduwiau Groegaidd yn talu’r pwyth yn ôl ar bobl oedd wedi eu gwylltio neu geisio’u twyllo.

Doedd dim amdani ond ceisio mynd yn ei flaen a gobeithio cael hyd i’r pentref. Cerddodd yn hytrach na rhedeg y tro yma gan fod pen yr allt wedi troi’n fwdlyd ac roedd y perygl o lithro lawr i’r creigiau islaw wrth redeg yn opsiwn llai dymunol na dim arall.

Cerddodd yn ei flaen drwy’r glaw a gurai ei ochr chwith rŵan fod y gwynt wedi pigo’i fyny. Teimlai rhai o’r diferion glaw mor hegar a chenllysg, ac ar adegau, prin y gallai Steve gadw ei lygid ar agor i weld y ffordd o’i flaen o’i oherwydd. Llithrodd yma ac acw wrth i’w esgidiau rhedeg drud fethu eu grip yn y mwd, disgynnodd unwaith ar ei ochr i dwmpath isel o eithin a theimlodd bigiadau’r planhigyn ar ei foch, ei fraich a choes dde. Cododd ar ei sefyll ac edrych ar y difrod, – dim ond sgriffiad ar ei goes i ddangos am yr holl boen a’r pigiadau. Digalonnodd wrth feddwl am ei ddiwrnod a oedd wedi troi i fod yn hunllef pur allan yma’n gefn gwlad Cymru, gwell na fyddai wedi aros adref yn y ddinas. Roedd o rŵan yn socian ac yn oer at ei esgyrn, yn fwd drosto, yn phigiadau morgryg a rŵan yn gwaedy o sgriffiad gan hen foncyn neu stancyn a guddiai’n yr eithin. Teimlai’n druenus ac anobeithiol, petai’n digwydd syrthio tros yr allt, a fyddai unrhyw obaith o gael ei achub? meddyliodd. Ond doedd dim y gallai ei wneud ond ymdrechu a chario ‘mlaen yn araf bach. Edrychodd lawr ar ei goes waedlyd, gwelodd fod y sgriffiad yn cael ei olchi gan y glaw, llifai’r gwaed i lawr i’w hosan gan ei throi o wyn i binc-goch.

Roedd y mellt a’r taranau rŵan yn ddi-baid, a’r glaw yn wirioneddol Feiblaidd. Herciodd Steve yn ei flaen gan wneud yn siŵr i beidio mynd yn rhy agos at ymyl yr allt. Daeth at bant yn y llwybr a sylwodd fod afon fach yn croesi i gyrraedd y mor. Yn anffodus iddo roedd yr afon wedi chwyddo oherwydd y storm a rŵan yn fwy tebyg i genllif frown wyllt, doedd dim dewis gan Steve, rhaid oedd ei chroesi neu aros yma.

Nesaodd at yr afon i weld lle fyddai’r man croesi diogelaf, edrychodd i fyny i’w dde i gyfeiriad lle llifai’r afon o’r cae agosaf. Gwelodd fod yr afon yn llifo mewn bwlch mewn clawdd gyd ffens y cae yn parhau drosti. Yn anffodus roedd llif yr afon wedi chwyddo gymaint nes ei fod wedi cyrraedd y ffens ei hun ac yn sownd yn y weiran oedd dafad. Roedd yn edrych fel unai fod y ddafad wedi ei dal yn y llif yn y cae yr ochr arall i’r ffens neu ei bod wedi trio cael hyd i ryw fath o gysgod wrth y clawdd ond wedi cael ei dal gan rym y dwr ac wedi methu cael ei hun yn rhydd. Beth bynnag oedd wedi digwydd iddi, roedd ei ffawd rŵan wedi ei selio. Gallai Steve ddim wneud allan os oedd hi’n dal yn fyw a’i peidio am na allai fynd ddigon agos ati hi, a go brin y bysai wedi medru gwneud llawer i’w hachub heb gael ei hun i drafferthion ychwaith!

Aflonyddodd hyn Steve, gallai ddim edrych ar y ddafad druan, rhaid oedd croesi’r afon a mynd yn ei flaen, roedd ei hunllef o brynhawn yn parhau! Doedd dim lle amlwg call i’w weld i groesi felly penderfynodd fynd amdani a chamu fewn i’r afon a gobeithio na gollai ei gydbwysedd a chael ei sgubo lawr yr allt ar y creigiau a’r tonnau islaw. Sadiodd ei hun gyda’r droediad gyntaf, roedd grym yn nwr yr afon a rhaid oedd iddo ganolbwyntio a’i holl nerth. Camodd i fewn a’i droed arall, ac yna yn ei flaen eto nes iddo fod dri chwarter ffordd tuag at yr ochr arall. Roedd o’n canolbwyntio ar sefyll i fyny a chyrraedd yr ochr arall yn ddiogel pan glywodd y ddafad druenus ddim ymhell ohono’n brefu. Collodd Steve ei nerf yn llwyr wrth sylweddoli fod y ddafad yn fyw, ac yn brefu am ei gymorth. Gallai ddim ymdopi a hyn o gwbl a chollodd ei gydbwysedd yn yr afon am eiliad.

Gwyddai ei fod am faglu a syrthio felly gwnaeth un ymdrech fawr i neidio am ochr draw’r afon. Llwyddodd i gael hanner ei gorff ar dir tra bu i’w goesau a’i draed ddal fod yn y dwr, teimlodd nerth y llif yn ei dynnu’n ei ôl i’r afon. Llusgodd ei hun i fyny ochr yr afon a’i holl nerth eto nes iddo gyrraedd yn ddiogel.

Gorweddodd yno’n y mwd am funud i gael ei wynt ato. Roedd o bellach yn rhynnu yno’n ei grys-t rhedeg pwrpasol a’i shorts byr, sylwodd ei fod wedi colli un o’i esgidiau rhedeg yn yr afon, clywodd sŵn y ddafad eto’n brefu rhywle wrth ei ochr. Parhaodd y glaw a’r melltio a’r taranu o’i gwmpas fel fersiwn gwlyb o uffern. Roedd hyn wedi mynd ymhell bell heibio bod yn hunllef.Yna, ychydig i’r pellter o’i flaen sylwodd ar olau. Yn bendant, golau ty o ryw fath, fel golau goleudy, ond dim golau i rybuddio oedd hwn ond golau o obaith, meddyliodd Steve wrth weithio fyny’r nerth i gamu amdano. Rhywffordd, cododd ar ei draed, gyda’r mwd yn gwasgu rhwng bysedd plistrynnog ei droed dde. Camodd am y golau melyn, gwasgodd ei ddannedd yn dynn, yn benderfynol o’i gyrraedd. Wrth nesáu, sylwodd mai ffenestr fach oedd yn gadael y golau allan, dim mwy na hanner medr sgwâr. Teimlodd ei fod yn agosáu at gael ei safio rywsut, ac ar yr un pryd teimlodd ei gorff yn gwanhau a gwanhau wrth iddo nesáu.

Cofiodd gamu drwy adwy fechan a heibio gardd fach o lysiau, clywodd iâr yn clochdar yng nghysgod cwt. Cyrrhaeddodd ddrws y bwthyn lle deilliau’r golau melyn. Cofiodd guro ar y drws gyda’r holl nerth oedd ganddo ar ôl.

Cofiodd ddim ar ôl hynny…….

Bleddyn, Steve.

Prin oedd raid i Bleddyn wthio’r fforch i fewn i’r ddaear tywodlyd, sych, – dyma oedd mantais byw’n y bwthyn bach clud yma, Tyddyn Bila, yn y rhan yma o’r wlad, brin hanner milltir i ffwrdd ym mhentref Porthyfelin gwyddai fod y pridd yn gleiog thrwm ac yn bron iawn amhosib i’w drin.

Mewn un symudiad cododd ei fforch allan o’r pridd a thynnu planhigyn tatws allan ar yr un pryd. Roedd hi’n ganol Mehefin ac yn amser delfrydol am godi tatws newydd. Ew, mi oedd Bleddyn wedi edrych ymlaen i gael y platiad o datws newydd hefo menyn yn toddi trostyn nhw hefo macrell ffres a ddaliodd yn y bore i swper heno ‘ma.

Tasa’r tatws ifanc bach a welodd ar wyneb y pridd yn aur pur ‘sa fo ddim yn medru bod hapusach y funud hon. Ei gnwd cyntaf o datws newydd y tymor hwn. Gwyrodd lawr iw casglu a’u rhoi’n ei fwced wrth ei ochr. A phan oedd y tatws ar y wyneb i gyd wedi eu casglu, tyrchodd i lawr i’r pridd hefo’i ddwylo i chwilio am ragor, ac yna phan oedd yn fodlon nad oedd mwy iw gael sythodd ei gefn ac edrychodd o’i gwmpas.

Roedd gweddill y llysiau a’r ffrwythau wedi tyfu’n dow-dow, – y pys, y moron a’r bresych yn o lew ond roedd y nionod ar ei hol hi eleni, roedd y bedair rhesiad o ble roeddynt i fod yn edrych yn ddigon digalon a llwm. “Efallai fod angen fwy o law arnyn nhw?” Meddyliodd Bleddyn, sbïodd drosodd at y tanc dwr a gasglai ddŵr glaw oddi ar do’r bwthyn yn ystod tywydd garw, gwyddai fod hwnnw’n llai na chwarter llawn gan nad oedd hi wedi bwrw glaw call ers wythnosau. Cofiodd hefyd wrth gerdded nol o’r traeth gynna nad oedd hanner gymaint o ddŵr yn rhedeg y Afon Bila a lifai o gyfeiriad y gors o’r un enw a thrwy gaeau’r fferm gyfagos cyn torri ar draws Llwybr yr Arfordir ar ei chyrhaeddiad i’r mor rhyw ugain medr o’r bwthyn.

Roedd wedi bwriadu cael ‘trit’ bach heno ar ôl mwynhau ei facrell ffres a’i datws newydd a chael bath poeth – cawod fyddai’n ei gael fel arfer a phrin iawn fyddai’n mynd am fath er mwyn safio’r dwr. Efallai fydd rhaid ail-feddwl yn y diwedd a gohirio’r trit hwnnw am heno meddyliodd, a ddefnyddio’r dwr i achub y nionod!

“Ta waeth,” chwarddodd wrtho’i hun “…fydd hi ddim yn ddiwedd byd arna’i na fydd!” wrth gerdded tuag at y bwthyn gyda’i datws newydd gwerthfawr yn ei fwced.

Cyn cyrraedd drws y bwthyn beth bynnag trodd rownd wrth glywed sŵn cyfarwydd, – sŵn un o’i ieir yn ryw how-glochdar, yn union fel tasai’n siarad hefo hi’i hun. Beti oedd hon, un o’i chwech iâr a gadwai Bleddyn mewn cyflenwad cyson o wyau ffres bob dydd. Roedd Beti’n cymeryd mantais o’r ffaith nad oedd neb arall o’i chyd-ieir wedi sylwi ar y pridd a oedd newydd gael ei balu gan Bleddyn wrth godi’r tatws, ac yno y bu hi’n siarad hefo hi ei hun wrth grafu am bryfetach a phryfaid genwair wrth bigo’n y ddaear lle bu gynt blanhigyn tatws. Roedd hi’n edrych mor hapus, “Y gath a gafodd yr hufen ta be!” Chwarddodd Bleddyn wrth droi’i ben a camu i fewn i’w fwthyn clyd ar ben gallt y mor.

Steve.

Oedodd Steve i gael ei wynt ato a chymeryd fewn yr olygfa o’i gwmpas. Cwffiodd i ddal ei wynt am funud, curai ei galon yn hegar yn ei frest a rhaid oedd iddo wyro ‘mlaen a rhoi ei frechiau ar ei ben ‘gliniau i sadio’i hun. Teimlodd y chwys yn diferyd lawr ei dalcen a’i gefn, doedd ei grys-t ‘rhag-chwys’ ddim wedi cael hwyl dda arni! Roedd hi’n poethi, ac amlinelliad y pentref yn dod yn amlycach yn y pellter…

Roedd Steve yn redwr o fri, yn mwynhau cael y rhyddid o redeg yn ei fyd bach ei hun ar hyd lonnydd a pharciau dinesig Caerdydd, byddai’n rhedeg bob dydd glaw neu hindda, weithiau cyn ac ar ôl gwaith, yn enwedig os oedd ganddo rywbeth yn pwyso ar ei feddwl oherwydd ar ddiwedd y rhedeg byddai’n siŵr o fod wedi anghofio am beth bynnag oedd yn ei boeni neu wedi dod i ryw benderfyniad ynglŷn a’r broblem.

Roedd ganddo wythnos yn sbar ym Mehefin, ac yn lle mynd dramor fel yr arferai ei wneud, penderfynodd aros yng Nghymru a darganfod ychydig mwy am ei wlad ei hun. Penderfynodd mai mynd tua’r Gogledd fyddai orau, – ond dim rhy ogleddol – un peth oedd meistroli Cymraeg cosmopolitanaidd Caerdydd, peth arall yn gyfan gwbl fyddai sgwrsio gyda’r Gogs! Felly, tua hanner ffordd meddyliodd, ac ar yr arfordir, – edrychodd ar y map o Gymru a oedd wedi ei brynu’n arbennig ar gyfer y trip hwn a gwelodd dref Abersarnan – digon pell ac eto digon agos i Gaerdydd os fyddai raid ei heglu hi adref!

Ar ôl ymchwiliad arlein i westai yn Abersarnan, fe ddaeth o hyd i ystafell gan un o’r cwmnïau gwestai mawr a oedd a o leiaf un gwesty bron ym mhob tref ac arhosiad traffordd erbyn hyn. Roedd yn ffodus i gael ystafell gan bod y pobl tywydd wedi bod yn darogan y tywydd braf yma ers peth amser ac roedd pawb am gael tamaid cynnar o dywydd poeth yr Haf newydd!

Doedd ei ystafell ddim yn gwynebu’r mor gwaetha’r modd ond yn hytrach agora’i ffenestr ar stryd o dai teras Fictorianaidd, gydag enw y tybiodd a rannai gyda llawer o strydoedd tebyg yn nhrefi arfordirol Cymru, sef Teras Glandon.

Ar ôl noson go lew o gwsg a brecwast iachus o sudd oren, (a choffi du), powlenad o All Bran a iogwrt pro-fiotig, llawn protein o Wlad yr Ia, aeth allan i lenwi ei ysgyfaint ag awyr iach y mor. Roedd hi’n argoeli i fod yn ddiwrnod braf, – na, poeth, yn union fel y proffidwyd y person tywydd y noson gynt ar S4C ac edrychai Steve ymlaen am y sialens o redeg ar hyd Llwybr yr Arfordir am newid yn hytrach na phalmentydd cyfarwydd y brif ddinas.

Cychwynnodd yn ddigon brwd ar hyd y traeth a’i dywod melyn euraidd, sylwodd ar lasni’r mor a’i donnau a gyrhaeddai pen eu taith ar hyd Mor Iwerddon yma’n Abersarnan. Pan gyrhaeddodd ben draw gogleddol y traeth rhaid oedd ffarwelio a’r tywod a chychwyn hi fyny’r allt go serth. Mwynhaodd y pwysau a’i sialens y rhoddai hyn ar gyhyrau ei goesau a’i ben ‘gliniau, anaml iawn y cai’r cyfle i weithio allan fel hyn adref gan nad oedd gan Gaerdydd y bryniau tebyg i ddinasoedd eraill fel San Francisco neu Chaeredin lle y bu ar ei wyliau’r flwyddyn gynt.

Cyrrhaeddodd ben yr allt, cymerodd hoe fach i ddal ei wynt ac edrychodd yn ôl dros y traeth a’r dref a ddibynnai arna hi gymaint am ei bodolaeth. Trodd i edrych yn ei flaen a gwelodd filltir ar ôl milltir o gefn gwlad gwyrdd – a gwag yr olwg. Ysodd i ddechrau rhedeg, i gael gweld pa mor bell y gallai fynd cyn gorfod troi’n ôl a chael hyd i fwyty bach neis i fwynhau swper mawr haeddiannol ar ddiwedd y dydd a dychwelyd i Gaerdydd y diwrnod wedyn. Rhedodd y braf, hoffai deimlad awel y mor ar ei groen, yn ei annog i fynd yn ei flaen ymhellach ac ymhellach. Anaml iawn y daethai ar draws unryw fod dynol arall yma, heblaw am ambell i gwpwl diethr a’u cwn, neu ambell i ddafad a oedd wedi mentro dros y clawdd i wledda ar y gwelld glas bras pen yr allt.

Roedd Steve wrth ei fodd, dim ond y fo a’i feddyliau, yn rhydd i redeg cyn belled ag yr hoffai heb orfod stopio wrth oleuadau traffig neu gael ei arafu y tu ôl i riant yn gwthio coets neu bensiynwr a throli siopio!

Pob hyn a hyn mentrodd i dynnu ei sylw oddi ar y llwybr anwastad o’i flaen i gael cip olwg allan am y mor. Roedd y dwr yn anhygoel o las y diwrnod hwnnw, yn hudolus hyd yn oed, a meddyliodd ambell waith am gael hyd i’r traeth bach guddiedig nesaf a thynny amdano’n noeth lymyn a neidio fewn a rhoi fynny ei hun i’r tonnau er mwyn cael teimlo’r oerni gwlyb a blasu’r heli hallt. Arafodd ei rediad am ychydig a sylwodd ar yr adar o’i gwmpas, yn wenoliaid, wylanod swnllyd, seiri ac ambell i filidowcar – a’i dyna beth oeddynt? Doedd Steve ddim yn giamstar ar adar fel arfer, ac – os mai dyma beth oedd yr adar mawr du ma’n sefyll ar greigiau yng ngwres yr Haul a’u hadenydd ar led, beth oedd y gair Cymraeg am fwy nag un bilidowcar? Doedd ganddo ddim clem, a daeth ei sylw’n ei ôl at y rhedeg, cyflymodd ei wib unwaith eto.

Rhedodd yn ei flaen, ymhellach ar hyd yr arfordir godidog. Sylwodd ar ffermwyr yn gwneud rhywbeth ‘amaethyddol’ yn eu caeau, yn eu tractors anferthol. Doedd Steve heb dreulio llawer o amser allan yn y wlad, a doedd ganddo ddim teulu na ffrindiau a oedd yn ffermwyr ychwaith felly prin iawn iawn oedd ei wybodaeth am fyw allan o gyffiniau dinas. Ymlaen ac ymlaen yr aeth, gan nodi pentrefi bychain pob hyn a hyn yn y pellter, dim ohonynt yn agos iawn i’r arfordir ei hun, fel petaent yn ofn bod yn rhy agos i’r mor. Gadawodd iddo’i hun i stopio bob hyn a hyn am lowciad bach o ddŵr o’i botel ddŵr perthnasol, wedi ei ddylunio’n arbennig i gael ei chario gan redwyr. Roedd gwres yr Haul yn boeth yma reit ar yr arfordir a doedd dim math o gysgod ar gael a hithau’n ganol dydd.

Eisteddodd ar dwmpath bach crwn cyfleus o bridd a dail man er mwyn cael munud i benderfynu pa mor bell yn unon yr oedd o wedi fynd o Abersarnan i’r de a faint yn union yr oedd o am fentro ymhellach tua’r gogledd.

Doedd dim golwg o Abersarnan, llowciodd y diferyn olaf o’r dwr yfed a oedd erbyn rŵan yn hollol afiach o boeth. Edrychodd tua’r gogledd, roedd rhyw fath o bentref neu dref fach i’w gweld yn y pellter mewn haen o niwl. Sylweddolodd fod rhedeg ar hyd yr arfordir yn gallu bod y gamarweiniol o ran amcangyfrif pellteroedd gan fod y llwybrau’n gymaint mwy igam-ogam, gan ddwblu-fyny ar eu hunain yn aml wrth ddilyn ymylon yr arfordir creigiog. Roedd hyn yn fwy o sialens nag yr oedd wedi ‘ddybio.

Ymhell allan dros y mor clywodd sŵn ac yn wir, er bod awyr las a chlir uwch ei ben ar ei funud yn gwneud iddo chwysu’n ddi-baid, allan tros For Iwerddon roedd cymylau duon bygythiol wedi datblygu.

Rhaid oedd i Steve benderfynu pa ffordd i fynd, unai’n ei ôl tua Abersarnan neu yn ei flaen a gobeithio cyrraedd y pentref/tref fach a allai ei hanner-wneud allan i fyny’r arfordir yn y gogledd. Wrth drio penderfynu teimlodd bigiadau bach digon poenus ar gefn ei goesau, “Awwwwww! Beth ddiawch?” gwaeddodd gan neidio’i fyny. Roedd rhywbeth yn y glustog bridd a dail wedi ei bigo. Trodd rownd a sylwi ei fod wedi bod yn eistedd ar dwmpath morgyg, a rhai coch o ran hynny.

“Y bastards bach!” Protestiodd wrth archwilio’i goesau i wneud yn siŵr nad oedd dim dal ar ei groen. Poenodd fod rhywun hwyrach wedi ei glywed yn rhegi, ond na, wrth gwrs, doedd neb o’i gwmpas, neb ond ambell i löyn byw bach glas yn brysur yn hedfan o un blodyn melyn eithin i’r llall. Cododd dri lwmpyn hegar tu ôl i’w ben ‘glin dde, rhwbiodd hwy gyda’i law am funud, ond doedd dim arall y galla’i wneud amdan y peth.

Penderfynodd mai mynd yn ei flaen tua’r gogledd fyddai orau gan y gallai o leiaf weld ychydig o’r pentref/dref yn y pellter. Cychwynnodd yn ei flaen, yn herciog ar y dechrau hyd nes i’r pigo y tu ôl i’w ben glin fynd allan o’i feddwl. Beth na allai gael allan o’i feddwl oedd yr olwg fygythiol allan ar y gorwel a’r ambell daran a glywsai bob hyn a hyn, – oedd o am fedru cyrraedd y pentref/tref fechan yn y pellter cyn i’r taranau ei gyrraedd…….???????

Richard a Trystan

Ymbalfalodd Richard am y gwydryn o ddŵr a wyddai yr oedd wedi ei osod ar y bwrdd bach wrth ei wely cyn syrthio’i gysgu am dwn-i’m-faint-o’r-gloch neithiwr. Roedd ei geg yn sych fel nyth cath. Cyrrhaeddodd adref o’r Castell ar ei ben ei hun ar ôl noson o eistedd wrth y bar yn gwylio’i ffrind Trefor yn mynd trwy’i bethau ar y llwyfan o flaen criw swnllyd ond digon joli o gyd-Gogs a chwerthai ar bopeth a ddaeth o geg y frenhines drag o’u blaenau Erbyn diwedd y noson roeddynt oll yn morio canu i glasuron gan Cher, Kylie a Diana Ross.

Eistedd wrth y bar ar stôl uchel fu Richard, yn gwylio’r sioe a chymryd mewn awyrgylch y dafarn gyda’i pheli disgo, goleuadau tylwyth teg a phosteri’n hyrwyddo sioeau drag a nosweithiau codi arian at elusennau HIV a hoywon di-gartref a fu eto i fod.

Bu’n ddigon dewr ar ôl y drydydd peint i ddechrau sgwrs a chwpwl o hogia, a braf oedd medru siarad a chael hwyl hefo pobl hollol ddiarth am newid, gyda neb y gwybod ei hanes, – a neb yn malio dim y chwaith! Bu’n gwylio Deiniol yn gweithio’n brysur y tu ôl i’r bar – roedd o’n boblogaidd iawn gan y cwsmeriaid roedd hynna’n amlwg. Roedd ganddo’r gallu i siarad a phawb a gwneud pawb deimlo’n gartrefol ac yn rhan o’r noson, fel petai’n adnabod pawb a gerddai at y bar. Roedd ei gyd-weithwyr yn andros o annwyl hefyd, yn amlwg yn tynnu’ mlaen yn dda fel tim ac yn mwynhau’r gwaith. Erbyn diwedd y nos roedd Deiniol wedi tynnu ei grys-t a roedd wedi dod yn sioe fach ar ei ben ei hun y tu ôl i’r bar. Twriodd ddynion, hyn a fengach ato, wrth eu boddau’n gweld ychydig o gnawd cyhyrog a chwyslyd. Cafodd Richard gryn sylw gan Deiniol ar hyd y noson, roedd o wrth ei fodd yn dal ambell i sgwrs yma-ac-acw rhwng tynnu peint neu gymysgu coctel pob hyn a hyn.

Ond, ar ddiwedd y noson, er mor wych oedd bod allan yng nghwmni pobl wahanol am newid, ar ei ben ei hun y cysgodd Richard, ac am funud gadawodd iddo’i hun i deimlo’n siomedig na chafodd fachiad gan neb, doedd yr antur i’r dref ddim wedi troi allan fel y disgwyliodd yn y diwedd, gyda’r addawiad o fachu dyn blewog am ryw hawdd a horni ddim wedi’i wireddu. Sylwodd ei fod hyd yn oed wedi mynd i’w wely’n dal i wisgo’i drôns, – rhywbeth fydd o byth yn ei wneud. Teimlodd ei goc yn styrian o fewn y briffs ac estynnodd ei law i lawr i’w chyffwrdd. Meddyliodd am gael haliad cyn mynd am gawod a dechreuodd gofio am yr holl ryw yr oedd wedi ei fwynhau’n yr adeilad yma tros y blynyddoedd, ond, cyn mynd ymhellach fe ail-feddyliodd, tynnodd ei law allan o’i drôns, “Be’ di’r pwynt?” gofynnodd iddo’i hun, a chollodd yr ysfa i fynd ymhellach. Cododd ei hun allan o’r gwely ac aeth am gawod i olchi ffwrdd oglau’r noson gynt oddi arno.

“O dyna hi, bore da nghariad i, sut mae’r pen y bore ‘ma? Be’ gymeri di i frecwast ‘ngwash i?” Yno safai Trefor, allan o’i ddillad drag a mewn pyjamas a choban binc yn sipian sudd oren a chnoi tafell o dost brown a menyn. Er fod gwisg y frenhines wedi ei chadw am y tro, roedd Trefor y frenhines ei hun yn fyw ac iach yn y gegin. Newidiai o alw Richard, – a phawb arall os y doi at hynny o un ryw i un arall o fewn brawddeg yn aml, gallai rhywun gael ei alw’n ‘hi’, ‘fo’ neu ‘nhw’ neu beth bynnag o fewn eiliadau, doedd dim ots gan Trefor am fanylion dibwys fel rhagenwau ffurfiol!

“Bore da’n wir Mami Trefor”, dyna beth oedd enw Trefor gan ei ‘blant’ yn y ty arbennig hwn, “dwi’n champion diolch, wedi cysgu’n dda’n y gwely ‘na, diolch. Ymmmm, gymera’i baned o de a thost plîs?” Atebodd Richard wrth wneud ei hun yn gyfforddus wrth y bwrdd gegin a thrio anwybyddu’r cur pen oedd yn bygwth chwalu ei allu i ddal unryw sgwrs gall.

“Cysgu’n dda ia ma’chi, – ond cysgu, ac ar ben dy hun bach dwi’n gweld? – Os na ‘di’r hync yn dal yn dy wely’n disgwyl amdana chdi am ‘rownd two, neu three’ ia?” Holodd Trefor gan wybod nad oedd gan Richard hync o unryw fath yn ei ddisgwyl yn ôl i’r gwely mewn difrif.

“Give me some credit, dim ond ‘un’ hync, please, ti’n nabod fi’n well na hynny siawns Trefor!” Atebodd Richard, mor hawdd oedd llithro’n ôl i’r hwyl diniwed oeddynt wedi arfer fwynhau ers lawer dydd.

“Wwwww, gwrandwch ar hon, you dirty little minx wir!” Meddai Trefor gan osod paned o de a phlatiad o dost cynnes o flaen ei ffrind.

“O diolch i ti cyw, dwi’n barod am y tost yma. Na, dim lwc neithiwr ond mi oedd hi’n noson dda doedd, roedd y Gogs ‘na wrth eu boddau hefo chdi’n doeddan?”

“O oeddan, craduriaid, da di’r Gogs pan ddown nhw i lawr ato ni, mae nhw o hyd mor baord am ‘chydig o hwyl yn tydyn?” Llyncodd Trefor weddill ei sudd oren cyn dechrau ar dafell arall o dost, a chymerodd sedd wrth y bwrdd.

“Faint o’r gloch ddaeth pawb arall adra dŵad? Chlywish i neb yn cyrraedd” Holodd Richard wrth lowcio’i drydydd dafell o dost a menyn.

“Duwcs dwn im, – o ni adra cyn y cwbl lot ohona chi, mae Leila wedi mynd at ei ffrind newydd, Mari am y pen wsnos, cyrhaeddodd Deiniol, fy ngwash del adra tua tri a daeth Mathew’r dirty stop-out ddim adra o gwbl, – jest gweitia di, mi ddaw o adra nes mlaen yn gwneud y ‘walk of shame’, mashwr, er does ganddi hi ddim cywilydd o gwbwl, – jest fatha chdi ers talwm yn de cyw, ti’n cofio’r dyddia hynny?”

“Taw a son, mae’r dyddia hynny well and truly drosodd Trefor mae gynna’i ofn, pwy fydda isho…” Ond cyn i Richard gael gorffen ei frawddeg hunan-dosturiol fe dorrodd Trefor ar ei draws, yn gwybod yn iawn lle roedd Richard yn mynd hefo’i frawddeg.

“Paid ti a meiddio mynd i fana Mary-Lou, ydy, mae’n anodd pan ti’n cymharu dy hun hefo’r dynion ffit a horni ifanc yma’n dangos eu hunain i bawb a phopeth. Ond ti’n gwybod be? Mor hawdd fysa deud wrth chdi dy hun yn ‘de bod hi’n amser cau’r siop, mynd i Marks and Sparks a phrynu par o slipas neis a chardigan frown gyfforddus, mynd adra a chloi dy ddrws ar y byd ond, Mr. Lewis,” pan alwodd Trefor rhywun yn ôl eu cyfenw, golygai ei fod o ddifrif! “Let me tell you de, dwyt ti ddim yn barod am hynny eto, o na, no way. Jest sbïa ar dy hun for God’s sakes’ ddyn, ti’n be, drideg tri neu rhywbeth, ti’n iach, gweithio a byw mewn lle lyfli hefo pobl sy’n dy garu di, a….a dyma be sy’n brillaint, ti’n shagio blydi josgin ffit! Be’ tisho well Rich?”

Gwnaeth hyn i Richard chwerthin yn ei de, gallai ddibynnu ar Mami Trefor i’w godi o unryw le du a gweld y byd yn gymaint goleuach!

“Ia, ti’n iawn Trefor, fel arfar.”

“Dwi’n gwybod fy mod i’n iawn, tydw i’n iawn drwy’r adag ‘dwch?” Meddai Trefor gan wenu ar ei ffrind cyn dweud “Rŵan, gorffenna’r tost ‘na i mi gael golchi’r llestri ‘ma, a dos allan am awyr iach, neith awel y mor the world of good i chdi bore ‘ma!”

Ychydig oriau’n ddiweddarach, teimlodd Richard yn barod am goffi a chacen. Roedd wedi cymeryd cyngor Trefor ac wedi mynd allan a cherdded ar hyd y traeth, a cherdded ymlaen wedyn heibio’r teuluoedd a oedd wedi dechrau meddiannu’r tywod melyn am ddiwrnod arall o dorheulo a throchi’n y tonnau a’r rhedwyr brwd a’r cerddwyr a’u cwn, a gwelodd ei hun allan o’r dref ei hun hyd yn oed ac ar Lwybr yr Arfordir yn anelu am gyfeiriad adref. Roedd hi’n ddydd clir o ran tywydd a gallai weld yn y pellter y bae cysgodol lle safai Porthyfelin. Taerai wrtho’ hun nad oedd erioed wedi cerdded mor bell ar hyd y Llwybr a rhyfeddodd at brydferthwch a distawrwydd natur y rhan yma o’r arfordir. Teimlai cymaint gwell ac anghofiodd am y cur yn ei ben a’r siomedigaeth ar ôl neithiwr.

Ar ei ddychweliant yn ôl i’r dref daeth o hŷd i gaffi bach nad oedd yn bodoli pan oedd o’n byw’n y dref. Roedd yn le braf yr olwg o fewn cyrraedd y traeth ond wedi ei guddio braidd o olwg llawer o bobl. Gan ddweud hynny mae’n raid ei fod yn digon poblogaidd oherwydd ei fod yn brysur iawn o ran cwsmeriaid ac yn bron yn llawn. Pobl yn darllen eu papurau Sul, pobl yn dal i fyny hefo’u gilydd ac yn rhannu storïau am y noson gynt, ambell i gwpwl yn mwynhau cinio yng nghwmni eu gilydd, – anaml iawn y gwelai Torri Syched gymaint o fwrlwm meddai!

Prynodd goffi llefrith a chacen bach a chafodd o hyd i le i eistedd wrth fwrdd hir wrth y ffenestr a wynebai’r lon tu allan. Rhaid oedd gwasgu ei hun i eistedd ar y stôl uchel rhwng dau gwsmer naill ochr iddo, doedd dim llefydd i’w cael ar y byrddau eraill, roedd hi mor llawn a hynny’n y caffi yma!

Tynnodd ei siwmper am ei fod yn gynnes yno’n y ffenestr yng ngwres Haul y prynhawn, ac roedd yn falch fod ganddo grys-t glan i’w wisgo, gan nad oedd wedi dod a chymaint a hynny o ddillad hefo fo ar y trip yma i’r dref. “Sori.” meddai wrth sylweddoli fod tynnu’i siwmper yn dasg anoddach mewn cyfyng-le fel hwn, ac roedd yn wybodol fod ei gyd-gwsmeriaid brin gentimedrau oddiwrtho! Ac i wneud pethau’n waeth, wrth iddo godi’r siwmper dros ei ben fe godwyd ei grys-t hefyd, i fyny hyd at ei ysgwyddau! Teimlodd ffasiwn gywilydd, ac wrth drio guddio’i hun a thwtio’i grys-t’n ei ôl mi fu bron iddo daro’i goffi. Dyfarodd ei enaid ei fod wedi trio stwffio’i hun i eistedd ar y stôl uchel yma rhwng ddau arall.

“Hei, dim problem siŵr!” Meddai’r cwsmer ar yr ochr chwith iddo. Symudodd hwnnw ei gylchgrawn – un am emau cyfrifiadurol, i wneud mwy o le i Richard gael mwynhau ei goffi a’i gacen.

“O diolch i chdi, neshi ddim meddwl hyn drwodd yn iawn naddo!” Atebodd Richard yn flin hefo’i hun am wneud cymaint o stŵr. Ar ôl sortio’i hun allan, edrychodd ar y cwsmer wrth ei ochr a bu bron iddo syrthio oddi ar ei stôl y tro yma. Y dyn a eisteddai yno oedd y cochyn a welodd yn yr orsaf ddoe…

“Dim problem, mae’n reit brysur yma p’nawn ‘ma’n tydy.” Atebodd y Cochyn wrth roi ei gylchrawn i lawr am funud a chymeryd llowciad o’i smwddi gwyrdd.

Teimlodd Richard fel ryw nain hen ffasiwn hefo’i gacen a choffi, yr unig beth oedd ar goll oedd doili i’w roi ar y blat hefo’r gacen, ac iddo yntau ddechrau gweu, meddyliodd wrth ei hun. “Tydw i heb fod yn y caffi yma o’r blaen, – mi o ni’n arfer byw’n y dre yma am ddipyn ond, ddim ers sbel rŵan,,” Sylwodd Richard fod ei sgwrs mor ddiddorol a rhaglen ddogfen ar hanes cling ffilm a waeth iddo fo adael y caffi rŵan ddim a chofrestru i symud i fyw i’r cartref hen bobl agosaf ar unwaith.

“Wyt ti’n iawn?” holodd y Cochyn gan synhwyro fod ei gyd-gwsmer yn anesmwyth ei fyd am ryw reswm. “Ydw, ydw, dwi’n champion diolch i ti,” atebodd Richard gan sylwi ei fod yn rhoi’r argraff hollol anghywir i’r Cochyn del ‘ma wrth ei ochr, “…yn barod am y banad ‘ma. Richard ydw i..”

“Trystan dwi, o Bentref Helyg, ond, dybiwn i dy fod yn gwybod hynny’n barod?” Rhoddodd Trystan ei smwddi nol ar y bwrdd ar ôl tynnu ar y gwelltyn i gael yfed ychydig o’r hylif gwyrdd gwelltiog-yr-olwg ac edrych at Richard. Cochodd yntau wrth sylweddoli fod y Cochyn, rŵan gydag enw rhywiol i fynd a’r wyneb a’r locsyn coch golau, hefyd wedi sylwi arno’n syllu arno o’r trên ddoe.

“Sori, doeddwn i ddim wedi bwriadu syllu arnot fel yna ddoe.” Meddai wth deimlo’i hun yn cochi fel plentyn drwg yn cyfaddef dwyn y dropyn olaf o lefrith o’r ffrij.

“Oeddat tad, a ti mond yn sori y ces di dy ddal!” Meddai Trystan gan wenu’n bryfoclyd, i ychwanegu at godi cywilydd Richard.

“Yli, dwi ddim yn desbret nag yn byrf na dim byd felly, jest digwydd dal fy sylw i nesdi ddoe, dyna’i gyd” Ceisiodd Richard osgoi sefyllfa anodd gan nad oedd yn siŵr os oedd y Trystan yma o ddifrif hefo’i gyhuddiadau, nac, os rhywbeth os oedd o’n hyd yn oed yn hoyw. Sylwodd ar ddynes ar y bwrdd agosaf atnyt yn troi ei phen i wneud yn siŵr nad oedd ‘sefyllfa’n digwydd y tu ôl iddi.

“Paid a chynhyrfu, mond tynnu dy goes di ydw i,” meddai Trystan gan osod ei law ar ben glin Richard, “..mi neshina dy glocio di ddoe hefyd ar y trên, a mi hoffais be welais i’n syth. Mi ‘sdeddish i’n y cerbyd nesaf am nad oeddwn eisiau codi cywilydd arno chdi’n y fan a’r lle.”

“Codi cywilydd, pam ti’n meddwl ‘sa hynny wedi digwydd?” Holodd Richard gan deimlo effaith y law ddieithr ar ei ben glin a’i galon yn dechrau curo’n galetach yn ei frest, yn wybodus nad oedd hyn yn effaith y caffin am nad oedd wedi yfed ei latte eto.

“Achos o ni bron a torri bol eisiau gwneud hyn i chdi.” A gyda hynny, gwyrodd drosodd a phlanu cusan ar ei wefys. Trodd y ddynes ei phen yn ôl gan wenu iddi hi hun, yn hapus ddigon gyda diweddglo’r stŵr y tu ôl iddi. Gwyddai Richard ddim beth i’w wneud, doedd o ddim wedi disgwyl hynna i ddigwydd, dim o bell ffordd. Syllodd i lygid gwyrdd Trystan ac fe’i gusanodd yn ei ôl, yno o flaen pawb yn y caffi bach. Dywedodd yr un yr un gair arall am eiliad, cyn i Richard ddweud y geiriau cyntaf a ddaeth i’w ben, “Tisho dwad nol hefo fi?”

Llowciodd y coffi mewn un, doedd ganddo’r un awydd i fwyta’r gacen, roedd adrenalin wedi cymeryd drosodd ei gorff. Heb feddwl, a heb drafferth rhoi’r siwmper yn ôl amdano, gafaelodd yn law Trystan wrth ei heglu hi allan o’r caffi, fel ‘sa fo methu cael Trystan allan o’r caffi’n ddigon cyflym.

Mewn ystafell wely’n rhif 44 Teras Glandon safai’r ddau ddyn yn wynebu eu gilydd yn fud, eu calonau’n curo mor galed nes creu poen. Edrycha’r ddau i lygid eu gilydd, eu anadl yn cyflymu a’r chwant yn annioddefol. I barahau’r chwant yn hirach, penderfynont dynnu dillad eu gilydd yn araf araf, fesul dilledyn. Tynnodd Trystan grys-t Richard a syllu arno. Hoffai be y gwelai, corff siapus, heb fod yn rhy gyhyrog, blew trwchus yn gorchuddio o’r frest ac i lawr y stumog ac hyd yn oed i lawr wedyn heibio’r gwregys a’r jîns denim. Edrychodd i fyny ar wyneb Richard, a gwennodd gystal a deud iddo am beidio a phoeni ac i fwynhau’r hyn a oedd i ddod. Hoffodd y locsyn brown tywyll, y llygid brown dyfn a edrychai arno o dan aeliau trwchus ond siapus, y gwefysau a oedd yn ysu i grwydro a darganfod..

Yna oedd tro Richard, aeth ati i dynnu crys-t du Trystan dros ei ben, a sylwodd yntau ar y blew cochaidd yn ei geseiliau, ac oglau chwys dynol, roedd raid iddo frathu ei wefys i beidio mynd at i’w snwyro a’i llyfu’n y fan a’r lle cyn i Trystan gael gorffen tynnu ei grys-t.

Roedd beth welodd wedyn yn ddipyn o sioc a dwed y gwir. Un o’r pethau mwyaf rhywiol i Richard oedd blewiach y frest, iddo fo, dyma beth fydd o’n chwilio am mewn dyn delfrydol, – petai ffasiwn beth y bod! Ond, wrth syllu at Trystan gwelodd ei fod yn hollol ddi-flew ar ei frest a’i stumog. Roedd y ffaith ei fod yn gwisgo locsyn mor flewog yn gwrth-gyferbyniad llwyr i’r moelni a welodd o’i flaen rŵan. Blynyddoedd yn ôl bysai wedi hyd yn oed rhoi’r gorau i bennod horni petai wedi dod ar draws ffasiwn sefyllfa ond, y funud honno, efallai yn union am fod corff Trystan yn hollol groes i’w arfer, roedd Richard yn hyd yn oed fwy horni. Heb flew, gallai weld cyhyrau cryf brest Trystan, a’r ddwy nipyl fach binc yn disgwyl am ei sylw. Roedd ganddo’r mymryn lleiaf o flewiach bach coch o’i fotwm bol i lawr heibio’i drowsys rhedeg cotwm. Ysai i gael gweld mwy…

Gafaleodd Trystan ym mwcl gwregys Richard a’i ddaffod wrth edrych i’w lygid. Agorodd fotymau balog y jîns ag un llaw a gyda’r llaw arall, tynodd y jîns lawr mewn un symudiad. Diolchodd Richard i’r nefoedd ei fod wedi gwisgo trôns ‘call’ bore ‘ma ar ôl ei gawod. Camodd allan o’i jîns a gafaelodd yntau yn elastic trowsys rhedeg Trystan. Tynnodd nhw i lawr a chamodd Trystan allan ohonynt. Safodd y ddau yno’n edrych ar eu gilydd. Roedd codiad amlwg Trystan yn ei drôns byr, steil blaen-Y hen ffasiwn ond yn amlwg yn newydd yn ôl eu lliw glas a gwyn siarp. Roedd ei goc wedi gogwyddo i un ochr yng nghyfunle’r cotwm, gwelodd Richard ei bod yn caledu hyd yn oed wrth iddo edrych arni. Estynnodd ei law dde a chwpanodd fols Trystan, ac edrychodd i fyw ei lygid.

Gafaelodd Trystan yn syth yng nghoc ei gymer. Gwisgai Richard bar o focsyrs cotwm a adawodd ddigon o le i godiad gael gwneud argraff. Tuchannodd Richard ychydig wrth deimlo llaw dyn arall yn gafael yn ei goc. Ni allai ddisgwyl funud mwy a thynnodd ei focsyrs a’u taflu o’r neilltu. Cymerodd Drystan hyn yn arwydd syth o’i gyfle i gael coc Richard yn ei geg ond stopiodd Richard o cyn iddo orffen gwyro ar ei ben gliniau, gafaelodd ynddo a’i dywys ar y gwely mewn un symudiad. Tynnodd Trystan yntau ei drôns gan ryddhau ei goc a’i gwd ond cyn iddo gael cyfle i’w taflu i’r llawr, cymerodd Richard hwy o’i afael a’i snwyro’n ddofn. Gyrrodd hyn Richard yn wallgof o horni, daliodd Trystan i lawr ar y gwely, gorfeddodd drosto a’i gusanu’n wyllt. Agorodd Trystan ei geg i dderbyn tafod Richard yn eiddgar. Cusanodd y ddau eu gilydd yn wyllt gan duchan. Doedd dim rhan o gorff eu gilydd nad oedd Trystan a Richard ddim am gusanu na llyfu, snwyro a chosi. Llyfodd Richard geseiliau chwyslyd y Cochyn gan orfoleddu ym mlas ac oglau’r chwys. Ni allai Trystan ddod tros pa mor horni oedd y teimlad o flew brest Richard, yn enwedig pan caiff ei rwbio ar ei frest moel o ei hun. Doedd o ddim yn medru disgwyl ddim eiliad yn fwy, roedd raid iddo gael coc Richard yn ei geg! Datgysylltodd ei hun o afael ei gymer a gorweddodd hwnnw ar y gwely i ddal ei wynt a llyncu ei boer a chymerodd lowciad o’r gwydryn o ddŵr a oedd wrth ei wely ers y bore.

Gafaelodd Trystan ym mon coc Richard a syllu arni am eiliad cyn llowcio ar ben y goc wlyb. Bu tuchan Richard yn ddigon uchel i Trefor ei glywed, i lawr yn y gegin! Cychwynodd i sugno’n ddofn a chyflym, chwaraeodd a bols Richard ag un llaw a mwythoni ei frest flewog a’r llall. Roedd Richard ar goll mewn nefoedd o synhwyrau rhywiol nad oedd wedi ers, neu hyd y oed gyda Carwyn na neb arall heb eu teimlo o’r blaen. Doedd o ddim mewn rheolaeth o’i gorff, roedd y Cochyn di-flew hyderus yma mewn rheolaeth rŵan, a diolch byth am hynny, meddyliodd. Ildiodd i’r cyfan heb strach. Gwirionnodd Trystan ar flas y goc oedd yn ddwfn yn ei geg a’i gorn gwddf, roedd ei gwlybaniaeth glugiog yn gymysg a’i boer a llyncodd yr hynny y medrai rhwng pob sugniad. Hoffai deimlad y bols yn y cwd yn ei law chwith, hoffai’r ffordd yr oedd y ddwy folsan yn ymateb i’w gyffwrdd tendar. Buasai wedi medru cario ‘mlaen yn hapus hyd nes y daethai Richard yn ei geg ac ar ei wyneb ond tynnodd ei geg oddiar goc Richard a gollyngodd ei afael ar ei gwd. Dringodd dros Richard a rhodliniodd ei frest gan deimlo blew brest Richard yn cosi ei gwd ei hun. Sythodd ei gefn ac edrychodd i lawr ar Richard a oedd yn edrych yn syth ar ei goc. Roedd gan Trystan goc dew, tua chwe modfedd o hyd. Agorodd Richard ei geg, yn awyddus i’w blasu. Symudodd Trystan ychydig ymlaen er mwyn i Richard gael ei sugno. Crynnodd Trystan wrth i’r teimlad o Richard yn sugno’i goc yrru sioc drydanol trwy’i gorff. Edrychodd lawr ar y dyn blewog yma a oedd yn amlwg yn wrth ei fodd yn ei sugno’n ddi-gwestiwn a gwyddai nad oedd llawer hyd nes y byddai’n agosáu i ddod.

Tynnodd ei hun allan o geg Richard a dywedodd wrtho “Rich, nei di’n ffwcio fi?”

Doedd dim angen gofyn dwy waith, er, fel arfer, Richard oedd yn arfer cael ei ffwcio gan ddynion mawr fel Carwyn, ymhyfrydodd yn y cyfle i ffwico dyn am unwaith. Cododd Richard am eiliad i nol condom a phaced bychan o liwb o’i fag cyn dychwelyd ar y gwely. Gorweddai Trystan ar ei gefn yn eiddgar ond trodd Richard o drosodd fel ei fod yn gorwedd ar ei gefn ac yn edrych i fyw ei lygid. Agorodd paced y condom a’i gynnig i Trystan. Cymerodd hwnnw’r condom yn ei law rholiodd y condom lawr hyd coc galed ei gyfaill, gan gymryd sylw arbennig i flaen ei goc sensitif, ochneidodd Richard gyda’r teimlad o’r latecs ar ei goc, ac yna agorodd y pecyn bach o liwb a rhoi’r hylif oer ar dwll tin Trystan, ochneidiodd hwnnw am eiliad gan oerfel yr hylif glugiog.

Edrychodd y ddau i fyw llygid eu gilydd a phan yn barod, nesaodd Richard at Trystan a chododd hwnnw ei gluniau i fynny ychydig i gyfarfod coc Richard. Cododd Richard goesau Trystan tros ei ysgwyddau ei hun ac anelodd blaen ei goc at din eiddgar Trystan. Dechreuodd i ffwcio Trystan, y araf ac ofalus ar y dechrau er mwyn i Trystan arfer a’r goc a oedd yn ei dreiddio. Yna, ar ôl ychydig o funudau, dywedodd Trystan wrtho am gyflymu a pheidio bod ofn bod yn fwy garw’n ei ffwcio. Gyda hynny cyflymodd Richard ei wib a’i rym gan adael ei hyn i fynd yn gyfan gwbl, cydiodd yng nghoc galed Trystan a’i halio mewn rhyddm ei ffwcio – y tuchan, y chwysu, y bustachu, y naill ddyn yn cyffwrdd eu gilydd, yn teimlo cyhyrau eu gilydd, yn blasu eu gilydd, yn rhannu poer, chwys a semen.

“O god, dwi am ddŵad, tisho mi ddŵad ynddo chdi?” Gofynnodd Richard gan gysidro am eiliad efallai nad oedd Trystan eisiau iddo ddŵad ynddo fo, ond beth bynnag oedd penderfyniad Trystan roedd gofyn iddo ddweud yn go handi am y gallai deimlo’i orgasm yn cychwyn.

“Dwi’n dŵad hefyd……ffycin tyrd ynddo fi, dwi’n dŵad Rich, dwi’n ffycin dŵad OOOOOOOOO!!!” Ochneidiodd Trystan wrth iddo gyrraedd ei orgasm bwerus. Haliodd Richard ei goc wrth i Drystan dasgu ei had tros ei stumog ac ar ei frest, daliodd i’w halio a thasgodd ‘chwaneg o’r hylif gwyn poeth ar stumog blewog Richard cyn iddo yntau ollwng gafael ar goc Trystan am ei fod wedi cyrraedd y lle nad oedd dychwelyd ohonno. Daeth yn galed o fewn Trystan, teimlodd ei hun yn gwagio’i gwd yn dwfn yn Nhrystan ac ar ôl i’w orgasm orffen, gorweddodd ar ei ffrind tra oedd o dal y tu fewn iddo.

Gorweddodd y ddau yno am beth amser, yng nghlwm yn eu gilydd, yn gymysg yn eu chwys, eu poer a’u had poeth. Gwrandawodd y ddau ar guriad calon y naill a’r llall yn araf ddychwelyd i’w rhyddmau arferol. Doedd yr un o’r ddau mewn brys i dad-glymu na symud oddiar y gwely. Arhosant yno hyd nes iddi dywyllu y tu allan. Codosant o’r gwely’n y diwedd, wedi eu gyrru i godi oherwydd chwant bwyd a diod yn fwy na dim. Aethant am gawod gyda’u gilydd. Mwynhânt folchi’r naill a’r llall, yn falch o gael cyfle arall i archwilio’u cyrff. Doedd dim byd rhywiol i’r broses hon, cymerodd y ddau eu hamser i folchi’r naill mewn ffordd tendar ac ofalus. Ar ôl y gawod ac iddynt sychu eu hunain, aethant i lawr y grisiau i’r gegin i gael ychydig o’r lasania’n y ffrij. Sgwrsiodd y ddau am bopeth a dim byd, tan ddaeth hi’n amser i ddod i sgwrsio am y peth pwysig, – beth nesaf iddynt.

Richard #2

Yn dilyn noson hwyliog, os nad braidd yn feddwol erbyn y diwedd, yng nghwmni ei ffrindiau Tom a Marc, penderfynodd Richard byddai amser o Porthyfelin yn gwneud lles mawr iddo, ond mynd i ble, dyna oedd y peth?

“Mi oedd hyn yn syniad da, – jest be o ni ‘angen.” Meddai Richard wrtho’i hun wrth edrych allan o’r ffenestr ar y wlad yn brysur wibio heibio. Doedd o ddim yn siŵr os mai trio perswadio’i hun oedd o wrth yngan y ffasiwn ddatgan ynteu oedd o’n wirioneddol gredadwy yn ei eiriau ei hun.

Eisteddodd yn ei ôl yn ei sedd, teimlodd ei hun yn ymlacio drwyddo, teimlodd y clymau’n ei stumog i gyd yn daffodd. Cymerodd lwnc o’r te oedd o newydd ei brynu bum munud yng nghynt gan y dyn ddaeth lawr hyd y cerbyd hefo’i droli de. Chwarae teg i’r boi roedd wedi rhoi chwaneg o lefrith ym mhaned Richard fel oedd o wedi ofyn am, te gwan llaethog oedd o’n ei hoffi, ‘te piso cath’ fel fyddai ei ffrind Tom yn ei ddweud.

Edrychodd o’i gwmpas a doedd fawr o neb arall yn yr un cerbyd, – un o drenau bach y wlad oedd hon yn gwasanaethu gorsafoedd bychan lleol ran amlaf, a’r drên yma oedd yr un rhwng yr awr frys a’r gwasanaeth hwyrach pan fyddai pobl ifanc yn hwylio i fynd allan am y nos yn llawn colur, seidr a gobeithion. Roedd y gwasanaeth distawach yma’n siwtio Richard i’r dim, cai lonnydd a distawrwydd i feddwl a rhoi’r byd yn ei le, neu hyd yn oed i droi i ffwrdd yn gyfan gwbl a cael ei hudo gan sŵn y drên yn symud tros y cledrau a gan y byd natur y tu allan. Gwyddai, er ei fod yn edrych am lonnydd, mai mynd i’r dref am ychydig o ddyddiau fyddai ddim dewis pawb!

“O pam Rich? Pam bo chdi’n mynd ar ben dy hun i’r lle swnllyd ‘na? Fedra i ‘im meddwl am ddim byd gwaeth cofia. ‘Sa well gin ti ddŵad allan hefo ni, – gawn ni farbeciw a ‘chydig o gania ar y traeth cyn mynd am sesh yn y Ship! Gawn ni laff, c’mon!!” Chwarae teg i Mari, rhwng bob dim oedd wedi digwydd iddi tros yr Haf, – colli ei chariad, a symud i’r brifysgol yn y ddinas, roedd hi dal wedi aros mewn cyswllt a Richard a pharhânt i fod yn ffrindiau agos. Roedd Mari wedi dod adref o’r brifysgol am benwythnos penblwydd ei chwaer a’r parti i ddathlu a oedd yn y Ship ar y nos Sadwrn.

Ond na, gwrthod yn glen ddaru’r hen Rich, er mi fyddai dal i fyny hefo Mari wedi bod yn ddelfrydol ar unryw adeg gwahanol ond ar y funud, roedd Richard angen brêc o’r pentref. Er ei fod yn caru byw’n nghanol bwrlwm cymdeithas glos a chyfeillgar Porthyfelin, weithiau gallai hynny deimlo’n glostroffobig a theimlodd Richard yr ysfa i ddennyg o’r swigen gefn gwlad am noson neu ddwy.

Felly, ar ddiwedd ei shifft brynhawn yng Ngahffi Torri Syched nos Sadwrn, penderfynodd ei fod wedi cael digon, roedd gan Richard weddill y penwythnos rhydd o’i flaen ag oedd rai iddo fynd i rhywle. Cododd y ffon a galwodd ei ffrind a chyn dim roedd popeth wedi ei sortio – noson neu ddwy’n y dre’n dal i fyny hefo’i ffrind annwyl Trefor.

Roedd Porthyfelin gryn saith stop o dref Abersarnan, un o brif drefydd y sir wledig hon, ac wrth i’r drên nesáu at y dref fe lenwai’n raddol fesul gorsaf. Cadwai Richard at ei fusnes ei hun am y ran helaeth o’r siwrnai, ei feddyliau wedi datod i ddim mwy cythryblus na chyffrous na sylwi ar yr arfordir o’i ffenestr. Hynny yw tan i’w drên ddod i stop yn yr orsaf olaf ond un cyn Abersarnan. Wrth i’r drên dynnu mewn at blatfform yr orsaf, fe ddaeth lle oedd Richard yn eistedd i stop gyferbyn dyn a dynnodd ei sylw. Yn yr eiliad gyntaf honno mae rywun yn ei gael i feirniadu rhywbeth neu rywun newydd fe gochodd bochau Richard.

“Ew mae hwn yn bishyn.” Meddyliodd, – tua’i oed o’i hun, a thua’r un taldra, cap baseball yn cuddio gwalld coch golau byr, a locsyn bach taclus tros ei en a’i fochau, a llygid gwyrdd a ddigwyddai i edrych i fyw llygid Richard ar union yr u pryd!

“O na, plîs, no way, mae hyn yn embarysing.” Meddai Richard wrth sylwi ei fod wedi ei ddal allan yn syllu ar y Cochyn del yr ochr arall i wydr ei ffenestr. Edrychodd i ffwrdd mewn swildod plentynaidd, yn llawn cywilydd. Cododd ei ffon symudol a oedd ar y bwrdd bach o’i flaen a chogiodd ateb galwad ffug gan ei fam.

“Bip-bip-bip-bip-bip-bip..” – Datganodd y trên fod ei drysau awtomatig am agor i adael trafeilwyr i lawr – ac eraill i fyny ar ei bwrdd. Pan fentrodd Richard i orffen ei alwad ffon ffug a’i fam ac edrych i fyny o’i gwmpas doedd dim golwg o’r Cochyn. Caeodd ddrysau’r drên gyda ychwaneg o bibs bach sydyn. Lle oedd y boi coch dirgelus yma? Doedd dim golwg ohono, roedd tipyn o bobl wedi dod ar y drên yn yr orsaf olaf. Meddyliodd Richard ei fod efallai wedi penderfynu peidio camu ar y drên hon am ei fod wedi gweld dyn amheus – y fo’i hun, yn syllu arno fel rhywun ddim yn gall drwy’r ffenestr.

“Ia mwn, jest fy blydi lwc i” Meddai Richard gan ddigaloni ychydig cyn penderfynu mai na, dim heno oedd y noson i ddigaloni, ac edrychodd ymlaen i weld Trefor unwaith eto.

“Duwcs, Rich bach, do come in dear, gesdi siwrna go lew?” holodd Trefor wrth agor drws ffrynt mawr gwyrdd 44 Teras Glandon a chroesawu Richard i fewn.

“Do, lyfli diolch i ti, sud wyt ti?” Atebodd y crwydryn wrth gusanu Trefor ar ei foch wrth ei basio drwy’r drws.

“O dwi jest yn champion, excuse the mess yn de, dwi’n trio cael hyd i ‘chydig o bres i ail-beintio’r palas ‘ma, – sbïa arnai, dwi ar ganol gwneud fy hyn yn hanner presentable i’r Gogs ‘ma sy am ddŵad lawr ato ni heno. Tyrd drwodd i’r gegin am banad o win… isda’n fana ngwashi” Roedd Trefor wrth ei fodd yn gweini ar bobl ddiarth, er, doedd Richard ddim yn ddiarth o gwbl iddo fo, gan ei fod o wedi bod yn byw yma’n 44 Teras Glandon oes yn ôl.

“Diolch Tref, ‘sa gwin yn lyfli rŵan, pwy sgin ti’n byw yma hefo chdi ar y funud ta? ‘Dy nw’n neis?” Holodd Richard wrth gymryd swig o win gwyn allan o fwg te.

“O ydy’n chwarae teg iddyn nhw, criw lyfli, er, mae nhw’n mynd yn ‘fengach bob tro tydyn. Wel mae ganddo ni Leila sy ar y llawr cyntaf, ma’ gin ti Mathew wedyn ar y second floor yn de, – lyfli o foi – o’r Sowth yn rwla, a Deiniol, Gog ar y top floor. A sut wyt ti my lovely, sawl cariad gorjys on the go mashwr? Dyna oedda chdi fel eniwe..”

“Na neb siriys ar y funud Tref, wel, dwi wedi copïo off hefo’r ffarmwr ma…” Dechreuodd Richard son am Carwyn…

“Oh stop right there matey, – ffarwmr ddeudis di, OMG, dyna pam ti wedi gwisgo fel josgin ia?” Pwyntiodd Trefor at grys Richard cyn cymeryd llowciad o win. Am eiliad mi gymerodd Richard hynny i’w galon. Roedd wedi gwisgo’r crys yma’n aml yn ddiweddar, roedd yn un reit smart a chyfforddus a…..a reit josginaidd.

“O blydi hel Tref, be dwi am neud? Dwi wedi syrthio i’r habit yma o jesd gwisgo dillad saff, boring yn do!”

“Yli, gawn ni sgwrs am y ffarmwr ffabiwlys ‘ma nes mlaen heno oce? Dwi’n gorfod sgidadlio hi am y dafarn ‘na, dos di i fyny i sdafell Deiniol ar y top floor, – o, dy hen sdafell di’n de, a dewisa grys-t neis at heno, neith Deiniol ddim meindio dwi’n siŵr, – a mae hyn yn emergency eniwe’n tydy cariad, – mi wyt ti angen shag a chei di ddim un yn gwisgo’r crys erchyll yna’n y dref yma cyw, that’s a cert…!” Ac i ffwrdd aeth Trefor gan roi cusan ar wefys Richard wrth ei basio.

“Charming!” meddai Richard wrtho’i hun, ond, gwyddai fod Trefor yn iawn, a doedd o ddim yn golygu unryw falais yn ei eiriau.

Cyrrhaeddodd y llawr uchaf, – roedd yna deimlad o gyfarwydd i’r ty hyd yn oed rŵan, ag yntau wedi symud allan ers blynyddoedd, a chododd ei ysbryd wrth i atgofion o’r amser hynny dychwelyd. Camodd at ddrws ei hen ystafell ac oedodd am eiliad wrth sylwi fod yr hen nobyn drws haearn dal heb ei drwsio’n iawn ers iddo gael ei daro gan gwpwrdd drom a ddisgynnodd arno tra oeddynt yn straffaglio i drïo’i symud o ‘sdafell i ‘sdafell pan oedd o’n byw yno. Gwenodd i’w hun wrth gofio’r digwyddiad a chamodd fewn i’w hen ‘sdafell.

“O, dwi mor sori, yyyyy, ddeudodd Trefor sŵn i’n cael yyyyymmmm…” Methodd Richard siarad mwy, gollyngodd ei fag ar y llawr.

“Yyyyyyyy, dim problem, ‘sgiwsha fi, dwi newu ddod o’r gawod ag o ni’n jest yn trio pigo pa drôns i’w wisgo..” Yna safai Deiniol yn noeth lymyn, yn bell o gyrraedd unryw ddewis o drôns ond yn hytrach y sefyll o flaen ei ddrych – yr un drych a oedd yno’n amser Richard digwydd bod, yn cymharu’i biceps. Gafaelodd yn y trôns glan cyntaf o fewn ei afael, trôns briffs tyn hefo patrymau’r Crwbanod Ninja drostynt. Oedd raid i Deiniol roi ei law lawr ei drôns i ail-osod ei goc gan ei fod dal yn hanner caled.

“Sori, stori hir” Meddai wrth weld Richard yn sefyll yno’n geg agored ac yn amlwg yn sbïo arno’n ail-osod ei dacl. Camodd yn lletchwith tuag at Richard i gynnig ysgwyd ei law. “Deiniol dwi..” gan ddechrau cynnig ei law dde ond stopiodd a’i newid i’r chwith ar ôl cofio lle roedd ei law dde newydd fod eiliad yngynt.

“Haia, Richard dwi a dwi mor sori am gerdded i mewn i dy ‘sdafell di fel yna, ddeudodd Trefor ‘sŵn i’n cael benthyg un o dy dopia di at heno, gan fod o wedi rhoi ‘veto’ anferth ar fy nghrys ‘josgin’ i fel ddeudodd o.” Atebodd Richard wrth ysgwyd llaw chwith Deiniol hefo’i law dde, a sylweddolodd y ddau jest pa mor lletchwith oedd gwneud hyn.

“O chdi ydy Richard, waw, ‘da ni wedi clywed cymaint amdano chdi, neis cyfarfod chdi o’r diwedd, yn y ‘flesh’ fel petai, hon oedd dy ‘sdafell di yn de?” Roedd Deiniol wedi dod tros ei swildod y barod wrth sylwi pwy oedd y dieithryn yma’n ei ystafell, – roedd o’n un ohonyn nhw!

“Wel Deiniol, dim byd drwg gobeithio, – a dwi meddwl mai chdi sy yn y ‘flesh’ ia dŵad?” Mentrodd Richard gyda jôc. Chwerthodd y ddau gan dorri’r ia fel petai. Cofiai Richard fel fu yntau’n mor gyfforddus gyda’i gorff a’i edrychiad pan oedd yn byw yma o’i gymharu a rŵan.

“Ia, cei siŵr, gei di wisgo be’ bynnag ti’n ffansio, jest trïa rwbath. Ti’n dod i’r Castell heno dwyt? Mae na ddigon o grysa-t tynn yma. Ti isho cawod cyn mynd, mae ‘na ddigon o dyweli sbar yn…..y rwla.” Cynigiodd Deiniol, ond wrth gynnig, mi gofiodd na chafodd yntau hyd i dywel call gynna, a go brin byddai mwy yw cael.

“Yyyy, na dim diolch, mi geshi folchi jest cyn gadel Porthyfelin.”Atebodd Richard wrth feddwl na fyddai’n cin ar rywun yn cerdded fewn arno’n noeth ar ôl arfer cael ei fflat bach iddo fo’i hun am mor hir, – doedd o ddim wedi arfer rhannu ty ers oes!

“Dim probs met, gwranda, dwi’n garo fflio, dwi’n hwyr am fy shifft yn barod, – dwi’n gweithio tu ôl ‘r bar yn y Castell, mi welai di yno nes ‘mlaen ia? – Mi roi ddiod am ddim ar slei i chdi oce? Neis cyfarfod chdi, a sori oedd raid i chdi weld fy nghoc i fel ‘na!” Meddai Deiniol wedi gwisgo amdano mewn chwinciad mewn crys-t a jîns du, sanau lliw gwahanol o bar gwahanol a threnyrs gwyn ac off a fo drwy’r drws gan adael Richard yn sefyll yno’n ei feddyliau ei hun.

“Be’ nath jest digwydd?” Oedd Richard yn trio dygymod hefo beth oedd o newydd ei weld. Trodd rownd ac edrychodd ar ei hun yn y drych, – y drych oedd yntau wedi astudio’i gyhyrau ynddo bymtheg ‘mlynedd yn gynharach, – cymaint oedd wedi digwydd a newid ers y dyddiau hynny, meddyliodd. Yn feddyliol, cymharodd ei hun i Deiniol, – cyn penderfynu na na, doedd dim pwynt dechrau hynny, felly dechreuodd gyda tynnu’r crys, – y crys ‘josgin’ fel yr alwai Trefor o, a’i osod ar y gwely. Edrychodd arno’i hun yn y drych eto, – na, doedd o ddim mor gyhyrog a ffit a Deiniol, ond a bod yn onest, doedd o ddim yn rhy ddrwg ‘chwaith. Aeth at y cwpwrdd i chwilio am grysau-t a allai ei ffitio heb wneud iddo edrych a theimlo’n rhy ddiawledig o hen. Triodd ambell un a wyddai y byddent yn edrych yn hollol hyrt, ac yna, ar y pedwaredd cynnig, dyma fo’n cael hyd i’r crys-t perffaith, glas tywyll nefi, oedd yn dynn am ei frest a hefyd a ddangosai allan gyhyrau ei ysgwyddau. Y rhan orau oedd y ffaith iddo beidio a fod yn rhy dynn am ei stumog, ac a adawai le iddo gael mwynhau ychydig o beintiau hefyd! Perffaith. Roedd o’n barod yn gwisgo’i par o jîns gorau a wna iddo deimlo’n filiwn o ddoleri, eisteddodd ar y gwely gan deimlo’n hapus ac yn edrych ymlaen i’r noson o’i flaen. Sylwodd ar olion staen ar y wal wrth ei ochr gan feddwl nad oedd y staen yno pan oedd o’n cysgu’n y gwely yma!

Aeth allan o ‘sdafell Deiniol ac i’w ‘sdafell ei hun i ddad-bacio cyn ‘llnau ei ddannedd ac allan i’r stryd a thuag at y Castell.

Cyfrinachau.

“OOOO, mae’n iawn arno chi’ch dau, da chi’n sorted. Mae pawb arall yn sorted hefyd, pawb wedi ffendio’u partner-for-life, happy families bla bla bla…” Oedd, mi roedd gan Richard ddigon i’w ddweud. Yn amlwg roedd byw ar ei ben ei hun yn rhoi llawer o amser rhydd iddo fo feddwl am bethau a llawer o amser iddo fo siarad hefo’i hun am bethau, ond, dim llawer o amser i siarad a neb arall a chlywed ochr arall i unryw geiniog, roedd hynna’n amlwg! Oedd, mi oedd yn cael siarad a sgwrsio hefo’i gwsmeriaid yn Torri Syched ond doedd hynny ddim yr un peth o gwbl, – gwaith oedd hynny.

Ar ôl cau’r caffi am y dydd, roedd Richard wedi derbyn cynnig gan ei ffrindiau i ddod draw i’w cartref nhw am ddiod bach a swper.

Eistedd ar un pen o’r soffa ddwy-sedd oedd Richard ar y pryd ac yn ail-drefnu clustog bach y tu ôl iddo a oedd yn peri cryn dipyn o anghyfforddusrwydd i waelod ei gefn, gan gysidro mai mond clustog oedd hi pan ddaeth allan gyda’r datganiad am bawb arall.

“Ia, ti’n hollol iawn Rich, chdi sy’n ffric, mae pawb arall yn y BYD wedi paru a setloi’i lawr, a chdi ydy’r unig berson sengl sydd ar ôl, – llongyfarchiadau!” Atebodd Tom yn chwareus wrth gynnig gwydriad arall o win coch i’w ffrind gorau.

“O piss off y diawl sbeitlyd, go wir ‘wan Tom, sbïa o dy gwmpas, pam mod i dal yn sengl o hyd? – Mi da chi’ch dau fel y blydi Waltons, hefo bob dim yn berffaith. A mae phawb arall yn un a’i’n cynllunio’u priodasau perffaith neu’n fflio i ffwrdd i’r llefydd rhamantaidd ymesing ‘ma. A lle dwi? Gweithio bob diwrnod yng nghaffi fy yncl, dim partner, dim holides, a byw mewn fflat bach poci un-lloft.” Gwyddai Richard ar ôl gorffen dweud ei ddweud ei fod braidd wedi mynd dros ben llestri, a’i fod braidd yn swnio fel Bridget Jones Porthyfelin. Doedd o ddim o ddifrif yn coelio bod ei fywyd yn digwydd bod cyn waelaed a’i rant olaf, a bod yn onest, roedd o’n ddigon hapus a’i fywyd rhan helaeth o’r amser. Cymerodd jochiad o’i win coch cyn sbio ar ei ffrind, “Sori, tydy hynna ddim yn cweit yn wir nag’di.” A chwerthodd y ddau fel plant ysgol direidus.

“Drama drama drama de Rich, tydy’r gwelld ddim yn lasach ar yr ochr arall o hyd cofia” meddai Tom.

“O diolch, pwy wyt ti mwyaf sydyn, – Gandalf neu rywbeth?” Meddai Richard gan bwnio penglin Tom yn ysgafn.

“”Beth neu phwy sy’ wedi dy gorddi di met? Deud wrthai, ti’n gwybod cei di ddweud unryw beth i mi, ‘da ni’n ‘nabod ein gilydd ers fflipin Babanod!” Annogodd Tom i’w ffrind agor fyny a rhannu ei ofidion, gwyddai na fyddai Richard yn un da i rannu emosiynau na theimladau, hyd yn oed i’w ffrind gorau. Symudodd i eistedd y nes wrth ei ochr ar y soffa, ac yn syth bin tynnodd glustog bach o’r tu ôl iddo a’i daflu ar y soffa gyferbyn “..blydi hel , mae’r glustog yna’n hegar ar gefn rywun, heblaw na phresant Dolig gan Mam Marc ydy hi, mi fysa wedi cael ffling fisoedd yn ôl i ti!”

Tros swper o dapas cartref a macarŵns a baratowyd gan Marc, ynghyd a mwy (a mwy) o win coch, mi aeth y noson yn ei blaen yn ddigon hwylus, a theimlodd Richard bwysau’r byd yn codi oddi ar ei ysgwyddau. Oedd, mi roedd hi’n braf medru gwario amser gyda’i ffrindiau a chael dal i fyny’n iawn. Roedd gan Marc a Tom waith a dalai’n dda’n y dref, un yn dwrna a’r llall yn gweithio gyda elusen ar gyfer pobl ag anhawsterau meddwl, ac oherwydd hyn, mi fyddant fel arfer yn gweithio’n hwyr pob noson. Er eu bod yn gwpwl ers chwe mlynedd, dim ond ers blwyddyn a hanner yr oeddynt wedi priodi. Roedd y ddau’n meddwl y byd o Richard ac yn mwynhau bod yn ei gwmni a chael gwrando ar ei storïau diweddaraf o chwarae o gwmpas hefo’r Carwyn ‘ma. Doeddynt heb gyfarfod Carwyn, ac ar brydiau roeddynt hyd yn oed wedi dechrau meddwl mai rhan o ffantasi Richard oedd y cwbl ond, roeddynt wedi penderfynu fod gan y ffarmwr yma, go iawn a’i peidio, le pwysig yng nghalon Richard.

Rhywbryd yn ystod y drydydd potelad o win rhyngthynt, datgelodd Richard y newyddion am ei ffrind Mari a’i chariad Cai , a’r sgwrs yn y caffi ychydig ddyddiau’n ôl.

“O hogia, dwi’n deud wrtha chi, pan oedd o’n sefyll o ‘mlaen i wrth y cowntar ‘na de, – o ni’n gobsmacked. Doeddwn i erioed wedi sylwi arno fo o’r blaen a bod yn onest – da chi’n gwybod? Ond y ffordd oedd o’n jest yn sefyll yno’n socian o’r glaw, – ei grys-t fo’n glynu i’w gorff o, – oeddwn i’n gallu gweld fod gannddo fo’r pecs bach neis ‘ma, a’i fod o heb siafio, da chi’n gwybod pan mae gan ddyn stybl ar ei frest a phan mae hwnnw’n eich pigo chi wrth……, wwww, lyfli.” Oedodd i gymeryd llowciad arall o’r gwin.

“A wedyn ar ôl iddo fo dalu am y te, mi roish i’r newid iddo fo ac mi sbïodd i fyw fy llygid i, ac mi geshi gws-pimpls! O ni’n amau bod ‘na fwy i’r boi ‘ma.”

“Rich, ti’n dychmygu’r petha ‘ma sdi. Mae o mor amlwg ei fod o’n stret, – ac yn mynd allan hefo Mari, – dy ffrind, ti’n cofio honna?” Meddai Marc, yn siwr fod Richard wedi symud i fyw i’w fyd ffantasi bellach.

“Na Marc, gweitchia funud bach, tydy’r stori heb orffan eto! Pan aeth o hefo’r te i eistedd hefo Mari, mi aeth pethau’n chwâl rhyngthyn nhw. Neshim clywed yn iawn achos o ni’n trio peidio gwrando ac oedd hi’n ocwyrd uffernol ond o ni methu peidio. O ni’n gorfod cogio twtio, a llnau rownd peiriant coffi. Wel, yn y diwadd, mi orffennodd Mari hefo Cai, – dyna ydy enw fo, am ei fod o wedi deud wrthi ei fod yn ddeu-rywiol! O, o ni’n gweld bechod dros Mari de, ond oedd hi’n ymesing, y ffordd ddaru hi ddelio hefo’r holl beth chwarae teg iddi. Ac eto, o ni’n gweld bechod dros y fo hefyd achos dim ei fai o ydy o mewn ffordd yn naci? Does ganddo fo ddim mor help dros ei deimladau nagoes?”

Teimlodd Richard fymryn o euogrwydd am rannu’r hanes hefo’i ffrindiau ac eto ar y llaw arall roedd y rhyddhad o gael son hefo rhywun am y peth yn grêt!

“‘Sgiwshich fi am funud hogs, mae’n raid i mi fenthyg eich ty bach chi.” Ac off aeth Richard i’r lle chwech gan adael y cwpwl yn gwynebu eu gilydd ar y naill soffa.”Waw, mae hynna’n stori a hanner, – dwi ddim yn meddwl mod i’n nabod neb sy’n ddeu-rywiol yn y pentref ‘ma, wel, heblaw am ti’n-gwybod-pwy yn de.” Meddai Tom wrth sibrwd a wincio wth beidio dweud enw’r person ddeu-rywiol arall o’r pentref.

“Mae’n raid fod ‘na lawer o bobl yn ddeu-rywiol o gwmpas yn does, ella tydy nhw ddim yn meddwl eu bod nhw, neu ella’u bod nhw’n gwadu’r ffaith bo nhw’n ffansio rhywun o ryw arall, – neu fel arall os ydy nhw’n hoyw am ‘wn i.” Ceisiodd Marc dangos ei fod yn deall mwy am y pwnc nag yr oedd mewn difrif. – Roedd y gwin coch yn amlwg wedi cael y gorau ohono, a phawb arall erbyn hyn, ac roedd ceisio gwneud synnwyr o unryw rywioldeb yn gwis i’r ymennydd.

“Marc, dwi meddwl bo chdi wedi meddwi rom bach” Awgrymodd Tom wrth dywallt y dropyn olaf o’r potelad olaf i wydryn Richard cyn iddo ddod nol o’r ty bach. “…Ydan ni am ddeud wrtha fo am ein ‘sdafell…….” ond cyn i Tom gael gorffen ei gwestiwn roedd Richard ar ei ffordd yn ôl, ac aeth ddim pellach gyda’i gwestiwn. Eisteddodd yn ôl ar y soffa a gafaelodd yn ei wydriad eto., cymerodd jochiad cyn dechrau’r sgwrs neasf…

“Neshi son wrtha chi mod i wedi gweld Carwyn eto’n do, – yn y Ship ychydig yn ôl? Ddaeth o adra hefo fi a…….”

Cai #1

Eisteddodd Cai’n nol yn ei gadair ag edrychodd allan o’r ffenestr. Gwyliodd breswylwyr Porthyfelin yn mynd o gwmpas eu busnes arferol. Edrychodd ymhellach allan tua’r mor a gweld llong gargo anferth yn hwylio heibio ar y gorwel ar ei ffordd o un o borthladdoedd anferth Ewrop i Ddulyn neu Lerpwl, ac yn nes ato o lawer sylwodd ar wylanod ar y traeth yn pigo ar dywod gwlyb y trai. Oedd, roedd bywyd yn mynd yn ei flaen. Roedd Cai wedi eistedd ar yr un gadair wrth yr un bwrdd ag oedd o wedi wneud brin tair diwrnod ynghynt lle y cafodd y sgwrs honno hefo Mari, a bu newid byd ar ei fywyd ers hynny.

Teimlai’n drist uffernol. Roedd o’n gweld ei cholli hi’n ofnadwy ac hefyd ar yr un pryd, teimlai mai ei fai o oedd hyn i gyd ond doedd dim dewis ganddo mond i ddweud wrthi ei deimladau. Roedd o’n gwybod ym mer ei esgyrn ei fod wedi gwneud y peth iawn yn y diwedd, roedd y gath allan o’r cwd bellach, – ac mi roedd yntau allan o’r ‘closet’ fel y dywedant yn Saesneg. Ac wrth feddwl am y dywediad hynny daeth how-wen ar ei wyneb. Hon oedd y wen gyntaf ers dyddiau, gwen fregus iawn, ond, ia, gwen o leiaf, a theilodd ‘rom bach gwell.

“Dyna chdi washi, dau dost – heb grasu gormod fel y gofynnist di, a marmaled, a te. Mwynha.” Gosododd Richard y brecwast ar y bwrdd o flaen Cai gyda gwen, yna, yn lle gadael i Cai ddechrau mwynhau ei fwyd, eisteddodd yn y sedd gyferbyn, – yn union lle eisteddodd Mari’r diwrnod honno pan gafo nhw’r sgwrs. “Yli, Cai, tydy o ddim o ‘musnes i ond, fel y gwyddost ti mae Mari’n ffrind da i mi a mae hi wedi deud wrtha’i beth ddigwyddodd rhyngtho chi…”

Teimlodd Cai’r wen a oedd wedi mentro ar ei wyneb cryn funud ynghynt yn diflannu, a meddyliodd ella’i bod hi wedi bod y rhy gynnar i feddwl trio bod yn hapus eto, a pha hawl oedd ganddo i fod y hapus eniwe? Ond doedd dim raid i Cai boeni, cymeryd eiliad i feddwl sut i strwythuro’i feddyliau oedd Richard..

“….a dwi mond isho deud wrtha ti mod i’n dalld oce? ‘Da ni gyd wedi bod yn y sefyllfa yma, – tydy ‘dŵad allan’ – yn hoyw, ddeu-rywiol neu beth bynnag ddim yn beth hawdd i neb, mae’n cymeryd gyts, a mae o’n bownd o frifo pobl ti’n garu am ychydig. Ond ti’n gwybod be? Os ydy’r bobl yna’n dy garu di fel person, mi ddown nhw rownd, jest dyro amser iddyn nhw. Ond tydy’r ffaith dy fod ti wedi dŵad allan i Mari a dy deulu ddim yn golygu mai dyma fydd ei diwadd hi cofia, -mi fydd gofyn i ti ‘ddŵad allan’ ugeiniau os nad cannoedd o weithiau yn ystod dy oes, ond, mae o yn mynd yn haws coelia di fi. Ella mai chdi ydy ‘stori fawr’ y pentra ‘ma heddiw ond buan iawn fydd pennau bach y lle ‘ma wedi symud ymlaen at y ‘sgandal’ nesa. Jest meddylia – ti ‘di gwneud y rhan anoddaf rŵan do. Rŵan gei di ddechrau meddwl am weddill dy fywyd, meddylai ecseiting fydd hynna’n de! Jest cofia, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun, – hyd yn oed yn y pentra bach ‘ma. ‘Wan, mwynha dy dost cyn iddo fo fynd yn oer.” Meddai Richard wrth roi winc i Cai a gadael y bwrdd a mynd nol at y cowntar at gwsmer a oedd newydd gyrraedd cafi Torri Syched.

Cymerodd Cai damaid o’i dost i guddio’r ffaith ei fod jest a chrio, ag roedd hi’n joban anodd llyncu’r bara cras wrth geulo’r teimladau. Doedd o ddim yn adnabod Richard gymaint a hynny ond gwyddai ei fod yn hoyw. Roedd cyfeillgarwch dieithriaid wedi dangos ei hun i fod yn werthfawr iawn meddyliodd wrth ei hun a gyda hynna cymerodd lowciad o’r te o’i flaen. Trechwyd y dagrau a fygythiodd i ddod i’r wyneb wrth i Cai werthfawrogi geiriau cynnes Richard, a theimlodd y wen yn dychwelyd, – oedd mi oedd o’n iawn, – mi gaiff ddechrau meddwl am weddill ei fywyd rŵan, a mwynhaodd y tost, cyn iddo fynd yn rhy oer.

“Ding-a-ling-a-ling-a-ling” Cyhoeddodd cloch y drws ddyfodiad mwy o gwsmeriaid i’r caffi. “Iawn ‘ogia, be gymerwch chi?” Clywodd Cai Richard yn eu cyfarch wrth y cowntar. Trodd yntau rownd i weld pwy oedd yno, rag ofn ei fod yn ei adnabod. Roedd Cai’n foi cymdeithasol ac yn adnabod ag yn ffrindiau gyda bron i bawb yn y pentref. Tri llanc oedd yno, yn fengach na fo’i hun, mwyaf tebyg, o ran eu hedrychiad eu bod yn y chweched dosbarth yn yr ysgol uwchradd, ond doedd o ddim yn eu hadnabod, felly dychwelodd i yfed ei baned a dilyn y long gargo ar hyd y gorwel.

“Sbïwch pwy sy ‘fama hogia, Cai myn uffar i…” Meddai ‘r talaf o’r tri llanc wrth y cowntar. Trodd Cai ôl rownd i edrych arno, – efallai ei fod o yn ei hadnabod wedi’r cyfan? Oedd y llanc yn ei adnabod o beth bynnag, – ond na, methodd feddwl pwy oedd yr un o’r tri a oedd bellach yn cerdded tuag at ei fwrdd. “Pansan Porthyfelin, ein cwiar mwyaf newydd ni ‘ogia. Hwn ddaru dympio’r slasan ‘na am ei fod o’n lecio cael ei bymio. Yr homo uffar!” Poerodd y llanc ei eiriau cas allan wrth sefyll dros Cai. Edrychodd i fyw llygid Cai gyda casineb pur a malais nad oedd Cai wedi cael eiliad i baratoi at, a na wyddai sut i ymteb i.

“Sglyfath budur, mae ‘na ddigon o homos yn y pentra ‘ma’n barod, – da ni im isho mwy.” Ategodd cyn i un o’i fets gael hyder i ychwanegu “Tisho coc efo dy dost? Ffansio ‘chydig o hyn wyt?” meddai gan gymeryd gafael o’i goc a’i gwd yn ei law yn ei shorts cotwm reit yng ngwyneb Cai. Piffian chwerthin ddaru’r tri llanc dros y caffi gan greu awyrgylch annifyr.

“Iawn hogia, dwi ‘im isho trwbwl iawn, jest gadwch lonnydd i mi plîs, iawn?” Plediodd Cai heb wybod sut i ymateb i’r bwlio. Doedd o erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen a hon oedd y tro cyntaf iddo fod mewn sefyllfa lle roedd yn cae ei fwlio. Os mai hyn oedd Richard wedi ei olygu hefo’i ‘meddwl am weddill dy fywyd’, doedd Cai ddim yn hoffi’r dechrau newydd ‘ecseiting’ yma o leiaf. Dodd o erioed wedi cael ei wrywdod ei gwestiynu na’i fygwth’r blaen, roedd hyn yn rywbeth hollol newydd iddo.

“‘Dwim isho trwbwl’? Pam, be’ ti am neud y cwiar bach, – ti am repio ni? Dyna be tisho neud de, ti isho rhoi dy goc fach homo di’n ein tina’ ni does? Da’ ni’n gwbod be ma homos fel chi’n ei neud. Shyrt-lifftyr. Ffycin afiach!”

“Andi, stopia rwan, ti’n mynd rhy bell sdi.” Meddai’r trydydd llanc, y distawaf o’r tri a oedd yn sylweddoli y gallai hyn fynd tros ben llestri unryw funud a throi’n eu herbyn, ac wrth sylwi fod ei fet yn mwynhau hyn ormod, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud dim arall daeth Richard heibio.

” Ffwcia’i o ma’r bastad bach, ‘da ni im isho bwlis fatha chdi a dy griw’n fama. Does na ddim croeso i homoffôbs fel chi’n y caffi ‘ma, na nunlla’n Porthyfelin, na nunlla o gwbwl, DALLD! Go-on, ffyc off!” Gafaelodd Richard yng ngholer yr Andi yma a’i daflu allan o’r caffi, brasgamodd yr ail lanc allan ar ei ôl fel ryw gi bach ufudd, ond wrth i’r trydydd a’r distawa adael, trodd rownd yn sydyn a sibrydodd wrth Richard a Cai ar yr un pryd “Sori am hyna, dwn im be’ ddoth drosto fo oce?” Caeodd Richard ddrws y caffi a gadawodd ei law ar y dwrn drws nes ei fod yn fodlon fod y criw wedi diflannu lawr stryd.

Eisteddodd gyda Cai a oedd bellach yn ei ddagrau a’i wyneb yn ei ddwylo. “Dwi’n ffwcin casáu hyn, mae hyn mor crap. Be’ dwi ‘di neud i haeddu hyn? Ffor ffycsecs. Be’ o ni i fod i’neud? Dwi isho rhedag ar eu hola’ nhw a’u ffycin leinio nhw! ” Tynnodd Richard ddwylo Cai o wyneb y cradur. Roedd dagrau o dristwch a gwylltineb yn llifo lawr y bochau coch ac i’w locsyn byr. “Gwranda, mi nes di’n iawn i beidio ag ymateb iddyn nhw hefo dy ddyrnau. Dwi’n gwybod dy fod yn foi cryf a mi fysa ti wedi medru’i malu nhw’n rhacs, ond ti’n gwybod be, tydy nhw ddim ei werth o, a chdi fydda’n cael dy arestio, am GBH neu rwbath wedyn yn de. Yli, jest idiots oedda’ nhw, down nhw ddim yn ôl i fama, coelia di fi iawn?” Ceisiodd Richard ei gysuro hefo’i eiriau a rhoddodd ei freichau amdano.

“Y ffycin wancar bach ‘na, pwy mae o’n feddwl ydy o?” Meddai Cai wrth dderbyn hyg Richard yn ddiolchgar. “Hidia befo fo na’i blydi seid-cics pathetig, yn anffodus Cai mi ddoi di ar draws pobol felly, a ti’n gwybod fod ganddo nhw ddim hawl i ddeud pethau felly’n dwyt? Mae gin ti hawl i’w riportio nhw i’r heddlu.”

“Oes, dwi’n dalld hynny ond, bysa hynny’n golygu ‘dŵad allan’ eto a chreu mwy o helynt. Dwi jest isho llonydd ti’n gwybod?” Gallai Cai ddim wynebu mwy o stŵr am rŵan.

“Iawn, fydda ddim raid i chdi neud rŵan hyn, mond cofia bicio’i fewn at yr heddlu pan ti’n barod ia? A gofyn am PC Roberts, y fo di’r boi sy’n delo hefo petha’ fel’ma” Awgrymodd Richard wrth edrych i fyw llygid Cai i wneud yn siŵr fod y neges wedi’i chofrestru.

“Diolch Rich….ga’i alw chdi’n Rich….?” Gofynodd Cai i’w ffrind newydd, roedd o’n falch fod ganddo rhywun oedd yn barod i sefyll i fyny drosto rŵan fod ei fywyd ‘stret’ a’r holl bendantrwydd a ddaeth hefo’r bywyd hynna ar ben. Roedd bod yn ‘normal’ a ‘stret’ wedi golygu parch ddi-gwestiwn gan bawb, hogan ar ei fraich yn cerdded lawr y stryd, gem o ddarts hefo’r hogia ar b’nawniau Sadwrn diog yn y dafarn leol, joban handi yn y garej yng nghanol y pentref. A rŵan, rŵan oedd raid ail-ddechrau gyda ‘label’ arall. Roedd raid dechrau eto’n gwybod fod pawb arall yn gwybod ei fusnes a’i hanes. Beth fyddai ymateb ei ffrindiau gwaith, ei fêts yn y gampfa rŵan – a be’ ddigwyddith pan fydd o’n cymeryd cawod ar ôl gweithio allan? Fydda nhw’n byhafio’n wahanol am ei fod yn ddeu-rywiol? Sut oedd o am ffendio cariad rŵan? – A’i ‘cariad’ oedd y term newydd, ynteu ‘partner’? A phwy fydda’n ymddiried eu calon iddo fo rŵan eniwe? A dyn neu ddynes fydd y person yna? Fydda fo’n teimlo’n unig a byth………?

” Cei siŵr, galwa fi’n be’ bynnag tisho met, iawn? Fydda’i yma i chdi oce, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun iawn…a mae Marc a Tom ar Stryd y Llan no i wrando arna chdi hefyd unryw dro, – do, sori, mi neshi son wrtha nhwtha, gobeithio ti ‘im yn meindio?” Sylwodd Richard efallai ei fod wedi dweud gormod wrth ddatgan ei fod wedi son i’w ffrindiau amdano’r noson o’r blaen ar ôl ychydig gormod o’u gwin coch drud.

“Na, na dwi ddim yn meindo..dwi’n gwybod pwy ydy Marc a Tom, mi welish i nhw’n ddiweddar ar Ben Foel..” Stopiodd yn sydyn wrth gofio am y sefyllfa y gwelodd o’r cwpwl yn ffwcio ar Ben Foel y p’nawn poeth honno’n yr eithin.

“Champion ta, da ni’n iawn ‘llu, da iawn chdi washi, – dwi’n prowd ohonna chdi. Ti am band arall, mae honna wedi oeri gin ti?” Holodd Richard, cododd oddi ar y gadair a chymeryd paned oer ei ffrind newydd, aeth at y cowntar i wneud paned boeth arall.

Cymerodd Cai anadl ddrom ac edrychodd allan eto. Roedd y long gargo wedi hen fynd yn ei blaen i’r Iwerddon neu Lannau Merswy, – a dyna fu raid iddo yntau ei wneud rŵan meddyliodd, – symud ymlaen.

Carwyn

Roedd hi wedi bod yn b’nawn cynnes y tu allan, ond yno, y tu fewn i’r tractor oedd hi wedi bod yn boeth. Ar ôl torri cae ugain acer heb dorriad, roedd Carwyn yn barod am hoe fach, er fod ganddo ryw ugain munud o waith ar ôl, rŵan oedd yr amser i roi’r gorau iddi am ychydig.

Roedd ganddo botelad o Coke wrth ei sedd yn y tractor, wedi ei gadw at rŵan, roedd amser cinio iw weld yn oes yn ôl bellach a doedd o heb weld na gael sgwrs hefo neb ers oriau, – roedd ffermio’n medru bod yn waith unig ar brydiau, ac er fod Carwyn yn ddyn a hoffai’i gwmni ei hun lawer o’r amser, weithiau roedd y gwaith yma o redeg y fferm gyda’i frodyr yn medru bod yn undonog. Cariodd ymlaen i yrru’r tractor i fyny’r bryncyn bach lle derfynai’r cae a goedwig fach a ddilynai wedyn i Ben Foel. Roedd y goedwig yn llawn llwybrau cyhoeddus a’i groesai’n drifflith-drafflith, rhai ar eu ffordd at y gromlech ac eraill tuag at y mor i’r cyfeiriad arall ond anaml y byddai neb yn eu defnyddio bellach ac roedd llawer wedi ‘cau i fyny gyda brwgaits. Mi gaiff roi’r injan off yno am ddipyn iddo gael mwynhau’r Coke, meddyliodd.

Wedi cyrraedd ymyl y goedwig, tros Carwyn yr injan bwerus i ffwrdd, camodd allan o’r tractor gyda’i botel o ddiod a theimlodd awel braf ar ei groen a distawrwydd y rhan yma o’r fferm. Edrychodd o’i gwmpas gan glywed, ond methu a gweld ehedydd rhywle’n agos iddo. Eisteddodd ar ran o’r clawdd a derfynai dir y fferm a thynnodd ei fest a oedd yn lwch a chwys i gyd a’i gosod ar y ffens i sychu rywfaint. Roedd Carwyn yn chwys diferyd, safodd i fyny’n yr Haul ac agorodd y botel o Coke a chymerodd swig fawr ohoni, ew, mor braf oedd teimlo’r diod yn mynd lawr ei wddf, llowciodd fwy a mwy nes doedd dim diferyn ar ôl. Doedd o ddim wedi bwriadu llowcio’r botelad gyfan mewn un go ond, “mae’n raid fy mod yn ei angen o” meddyliodd wrth sbïo ar y botel wag yn ei law. Lluchiodd y botel yn ei hol i fewn i’r tractor, doedd o ddim yn barod i ail-ddechrau gweithio eto felly arhosodd allan. Cymerodd anadl drom a llenwodd ei ysgyfaint a’r awyr iach gynnes, oedd mi roedd yr Haul yn boeth yma’n gongl y cae, roedd o wedi dechrau chwysu eto. Penderfynnodd fynd i’r goedwig am ychydig o gysgod a chamodd dros y clawdd a’r hen weiran oedd ar ei hyd, – roedd ei hail-weiro wedi bod ar yr gweill ers y llynedd, ond, doedd neb wedi cael yr amser, na’r amynedd i ddechrau hynny eto!

Roedd rhaid cymeryd naid fach i ddod lawr oddi ar y clawdd oherwydd fod afon fach yn rhedeg ar hyd waelod y clawdd ar ochr y goedwig – ymunai hon ag afon fwy ymhellach i fewn yn y goedwig, glaniodd ar ddaear sych o ddail crin a rhedyn. Yma roedd hi’n fyd go wahanol i wastadedd y caeau agored. Roedd rhywbeth reit ddirgelus am y goedwig hynafol, doedd dim sŵn o’i gwmpas, fel fod pob anifail, aderyn a thrychfil – a hyd yn oed y coed yn ei wylio’n slei bach. Yma roedd yr heulwen yn dal i gynhesu’r byd deiliog ond gyda llai o rym, ac roedd ambell i le mor gysgodol fel na allai’r Haul gyrraedd y llawr. Camodd Carwyn yn ei flaen yn ddyfnach i’r goedwig, a’r unig sŵn y glywodd oedd sŵn ei esgidiau gweithio trwm yn sathru’r brwgaits odditano wrth gamu.

Ymhen rhai munudau, clywodd sŵn dwr o’i flaen, sylwodd ar bwll o ddŵr croyw mewn afon , – hon oedd yr Afon Felin a redai drwy’r goedwig ac ar hyd gwaelod caeau’r fferm a thuag at y pentref. Doedd Carwyn heb fod yn y goedwig yma ers blynyddoedd, ac roedd wedi anghofio’r pwll yma, arferai’i alw’n y Pwll Di-waelod oherwydd pan aferai ddod yma gyda’ frodyr pan yn fach, mi roedd y pwll yma’i weld yn ddi-waelod, er, mewn gwirionnedd, doedd fawr fwy na medr o ddyfnder. Gwenodd iddo’i hun wrth gofio’r giamocs a’r hwyl diniwed yr arferai gael gyda’i frodyr wrth neidio i’r pwll o uchder torlan ar yr ochr draw, a gadael eu dillad ar ddwy garreg fawr lyfn ar y pen pellaf. Arferant alw’r ddwy garreg yn ddau forlo oherwydd eu siâp llyfn a’u golwg llywarth.

Wrth gyrraedd y pwll, arhosodd yn ei unfan am ychydig wrth i syniad ddireidus dreiddio’i ffordd drwy’i feddwl. “Be am dynnu’n ‘nillad a mynd i’r pwll unwaith eto? Pam lai, pwy sydd yma i ‘ngweld i eniwe?” Edrychodd o’i gwmpas, – a na, doedd neb yno. Er gyda’i lygid gallai ddim gweld dim syw na myw ond eto, ar ryw lefel, teimlai fod rhywun neu rhywbeth yno’n ei wylio. Gwenodd iddo’i hun, “Ffwcio hyn,” meddai gan eistedd ar un o’r ‘morloi’ i ddaffod ei griau ‘sgidia, – roedd y garreg ddipyn yn is nag oedd o’n gofio! Tynnodd ei ddwy esgid gweithio a’r sanau chwyslyd drewllyd, safodd ar ei draed eto a theimlo’r tywod graenus tamp ar ei wadnau wrth ochr y pwll, roedd hyn yn deimlad braf yn barod. Edrychodd o’i gwmpas a thynnodd ei drowsus a’i osod ar y ‘morlo’ arall. Rŵan oedd o’n sefyll yno’n ei drôns briffs tynn. Teimlodd awel ysgafn yn tynnu drwy’r coed, roedd yn deimlad braf. Teimlodd hefyd ei galon yn dechrau curo wrth iddo gysidro’r tynnu’r haen olaf o ddillad oedd yn gorchuddio’i groen. Edrychodd lawr ar ei drôns a bachu’r lastig naill ochr i’w gluniau gyda’i fodiau. Teimlodd yn ddireidus iawn, – ac mwyaf sydyn yn horni. “Ydw i am neud hyn ta be?” Gofynnodd i’w hun yn heriol cyn gydag un plwc, tynnu ei drôns i ffwrdd mewn un go. Lluchiodd y dilledyn ar ben ei drowsus ar y ‘morlo’ gyferbyn a thaerodd iddo glywed rhywun yn piffian chwerthin. Yn reddfol, gosododd ei ddwy lawr fawr dros ei rannau preifat ac edrychodd eto o’i gwmpas, cysidrodd anghofio’r syniad gwerion a mynd nol i orffen gweithio. Yna teimlodd ei galon yn curo’n ei frest, “Na, dwi yma rŵan, does gynnai ddim byd i’w guddiad, mae’n rhy ffycin poeth i wneud dim byd arall.” A rhoddodd ei ddwylo o’r neilltu a chamodd yn araf i’r pwll.

O roedd y dwr yn wirioneddol braf wrth iddo gamu’n ddyfnach i’r pwll, yn gyntaf at ei pengliniau, suddodd ei draed i mewn i’r gymysgfa o dywod a mwd meddal a theimlodd y dwr yn cosi y tu ôl i’w bengliniau wrth i’r afon lifo drwy’r pwll. Safodd lle’r oedd o am eiliad, roedd stribed o heulwen yn ei gyrraedd drwy’r coed uwchben o lle y safai’n y pwll a theimlodd ei wres ar ei wyneb, ei ysgwyddau a’i frest, a theimlodd oerni braf y dwr ar ei goesau. Caeodd ei lygid am funud ac rhoddodd ei ben yn ôl i deimlo’r gwres godidog. Wrth anghofio am bopeth a gadael iddo’i hun gael ei gymeryd yn y foment, daeth y teimlad horni’n i ôl. Gyda’i law dde teimlodd ei frest flewog, cofiodd y tro olaf i rywun arall ei gyffwrdd, – Richard, y noson honno ar ôl y Ship. Doedd dyn arall heb ei gyffwrdd fel yna ers misoedd, roedd o wedi synnu nad oedd Richard ac yntau heb ffwcio o’r blaen cyn y noson honno, er, a bod yn onest, roedd Carwyn wedi bod o’r farn na fydda’i rhywun fel Richard yn meddwl ei fod o’n ei ‘deip’ o. Yn amlwg roedd o wedi bod yn hollol allan o honni o ran barnu dynion.

Agorodd ei lygid a chamodd yn ddyfnach i’r pwll, y tro yma i fyny at ei ganol. Oedodd am eiliad wth i’r dwr gyrraedd ei goc a’i fols, ond buan iawn y penderfynodd mai’r peth callaf i wneud byddai mond mynd yr holl ffordd o dan y dwr croyw a dyna beth a wnaeth mewn un symudiad cyflym. Aeth i fyny i’r wyneb eto, gan edrych o’i gwmpas i wneud yn siŵr fod ei ddillad dal ar y ‘morlo’ a bod neb arall wedi cyrraedd y pwll ac wedi ei ddarganfod yn hollol noeth lymyn ac yn ei recordio ar eu ffon symudol. Sylwodd Carwyn, er fod y ffaith y gallai rhywun fod yno’n ei wylio ac yn ei ffilmio ar y slei, ei fod yn fwy horni fyth. Arnofiodd ar ei gefn ac edrychodd i fyny ar frigau’r coed derw ac ynn uwchben, a’r heulwen a fynnai ffendio’i ffordd drwy’r dail ac ar ei groen. Symudodd ei olwg i lawr a sylwodd fod ganddo godiad sylweddol. Edrychodd ar ei goc a meddyliodd nad oedd wedi hyd yn oed sylwi arni’n caledu a mwyaf sydyn roedd yn hollol galed, fel mast! Cydiodd yn ei goc a theimlodd ei fols, y ddwy mewn un llaw. O ornel ei lygid welodd symudiad yn y brwyn ar yrrion y pwll, – cwnhingen, yn how-gnoi ac edrych arno. Yn edrych ar y dyn yma’n gorwedd ar ei gefn yn y pwll a’i goc yn ei law. Am eiliad bu dim symudiad gan naill greadur, yr ddau’n ceisio meddwl beth i’w wneud nesaf. Collodd yr wningen ddiddordeb, gystal a dweud nad oedd dim allan o’r arfer yn digwydd yma, mond creadur mawr yn mwynhau ei gorff ei hun. Dilynodd lygid Carwyn y creadur bach blewog yn cnoi a hopian o’r golwg i’r goedwig.

Penderfynodd yntau ddod allan o’r pwll, a chamodd allan drwy’r tywod man a’r mwd meddal rhwng bysedd ei draed. Eisteddodd ar yr ail garreg ‘forlo’ yn ddiferyd. Wrth gwrs doedd ganddo ddim byd i’w sychu ei hun a doedd dim amdani ond disgwyl i wres yr Haul weithio i sychu’i groen. Felly gorweddodd yn ei ôl ar y garreg lyfn, teimlodd ei gwres ar ei gefn wrth iddo wneud ei hun yn gyfforddus arni. Rhoddodd ei fraich chwith o dan ei ben fod yn fwy cyfforddus ac arhosodd yno’i hel ei feddyliau. Ymhen dim o amser roedd gwres yr Haul yn sychu’i groen a teimlodd yn gynnes yn gorwedd yno ar y garreg. Glaniodd glöyn byw ar ei stumog ac edrychodd fel ei fod yn yfed dwr o ddiferyn a oedd heb sychu mewn blew islaw ei fotwm bol cyn hedfan i ffwrdd eto. Cofiodd fel fu i Richard lyfu’r union flew y noson honno, cofiodd Richard yn llyfu ei geseiliau chwyslyd ar ôl noson o yfed canu a dawnsio’r noson honno’n y Ship. Cofiodd fel fu Richard afael yn dynn yn ei goc a’i rhoi’n ei geg awchus. Ei geg yn sugno ac yn sugno, ei dafod yn llyfu a phryfocio blaen ei goc ar yr un pryd ag oedd o’n chwarae a chosi’i fols.

Crwydrodd llaw Carwyn i lawr tuag at goc parod. Gafaelodd ynddi’n agos at ei blaen, gydag un bys teimlodd ei blaen i weld os oedd unryw arwydd o ludyniaeth pre-cum, ac wrth sylwi fod yno eisoes yr hylif clir, cododd ei ben i edrych a dechreuodd halio’n araf deg. Doedd dim digon o pre-cum eto i fedru tynnu’i flaen-groen yr holl ffordd felly poerodd i gledar ei law a dychwelyd i halio. Roedd rhywbeth mor braf mewn cael haliad allan yn yr awyr iach, – yr awel braf yn cosi blew ei frest, a gwres yr Haul ar ei groen, – a’r ffaith y gallai gael ei weld yn halio gan unryw un neu unryw beth ar unryw funud, – mi oedd hynna’n ei wneud yn fwy horni fyth. Tybiodd os fyddai Richard yn gem am gael ffwc arall, y tro yma tu allan, hwyrach yma wrth y pwll?

Roedd y syniad am ddod a Richard yma, a’r ddau ohonynt yn mwynhau ffwcio’n chwyslyd a frwdfrydig wrth y pwll ar ddiwrnod poeth fel hyn yn gwneud yr haliad yn un ddwys a swnllyd. Tuchanodd Carwyn wrth feddwl am syt fyddai’n hoffi ffwcio’i ffrind, – ac y mha osodiad, gyda Richard ar ei bedwar? Yn sefyll yn pwyso ar goeden? Yn y pwll? Ar y garreg ‘forlo’ yma….?Tuchanodd yn uwch, rŵan roedd ei flaen-groen i lawr yr holl fordd, stopiodd halio am funud ac edrychodd ar y goc oedd yn ei law, gyda dwy wythïen dew’n codi o’r bon, doedd ei goc heb fod mor dew a llawn ers hydoedd, – ers iddi fod yn pwnnu Richard! Redd blaen ei goc yn sgleinio’n goch a balch a’r pre-cum yn llifo ohoni. Teimlodd ei anadl yn arafu ychydig, ond curiodd ei galon mor galad yn ei frest o hyd.

Chwythodd yr awel drosto ar hyd ei gorff, o’i wyneb poeth lawr ei ysgwyddau llydan a’i frest flewog a’i stumog ac at ei goc. Symudod ddwrn ei law oddi ar bon y goc ac yn dendar gyda’i fys teimlodd y rhan sensitif honno o dan blaen y goc. Roedd yn deimlad dwys, bron a bod yn boenus wrth i’w fys fwythoni’r rhan or-sensitif yma. Daliodd i wneud nes iddo bron a dŵad, ond gollyngodd ei afael am eiliad. Roedd Carwyn eisiau gohirio’i orgasm am ychydig eto. Cododd ar ei eistedd gyda’i ddwy goes dros un ochr o’r garreg yn gwynebu’r pwll. Teimlodd ei frest flewog, tynnodd ar ei nipyl dde yn y modd mwyaf sensitif cyn gafael eto’n ei goc galed a’i law dde. Gafaelodd ynddi’n y rhan reit o dan y blaen a dechreuodd halio, ac am fod y blaen-groen i lawr, roedd cledar ei law galed yn halio’r blaen sensitif ludiog hefyd. Tuchanodd yn uchel wrth i’r cyfuniad o law ar goc llawn pre-cum wneud sŵn gludiog a theimlad nefolaidd ddi-droi nol. Gydag un edrychiad lawr eto ar ei goc fe gyrhaeddodd y ffarmwr ei orgasm swnllyd, bustachodd a chrynodd wrth i lif dew o sbync gwyn dasgu o’i fols ac o’r goc fawr a chyrraedd bron iawn i’r pwll cryn fedr o’i flaen. Syrthiodd y rhan helaeth ar y brwyn a’r deiliach ryngtho a’r dwr, yn un ruban sgleiniog gwlyb. Daliodd i halio a tasgodd y llif olaf o’i sbync yn ddioglyd ar y garreg ‘forlo’ rhwng ei goesau. Ochneidiodd Carwyn yn foddhaol bod pob diferyn o’i had wedi gwagio o’i gwd am y tro.

Edrychodd ar y sbync o’i gwmpas, – roedd o’n reit jiarff o’i hun am fedru cyhyrchu gymaint! Mond bechod ella nad oedd Richard yno’i fod yn blaster ohono. Tynnodd ei flaen-groen yn ei ôl dros flaen ei goc, blasodd ychydig o’r hylif gwyn cyn sychur gweddill oddi ar ei law sbynclyd ar flew ei frest. Cododd ar ei sefyll a chamodd nol at lan y pwll i olchi ei ddwylo, ei goc a’i gwd cyn dechwelyd i wisgo amdano eto. Edrychodd o’i gwmpas, roedd symudiad yn y rhedyn tu draw i’r pwll, “Y gwnhingen eto maen’n raid” penderfynodd Carwyn wrth roi’i drôns a’i drowsys amdano. Eisteddodd lawr ar un o’r cerrig ‘forlo’ eto, sylwodd ar y sbync yn llifo lawr ei hochr. Wrth gau criau un o’i ‘sgidiau, penderfynodd un peth, – y byddai raid iddo ofyn i Richard i ddod am dro hefo fo’r tro nesaf….