
Roedd hi wedi bod yn wythnos gron ers i Richard gael dydd Sadwrn yn rhydd o orfod gweithio. Ei dro o oedd hi heddiw i weithio’r shifft cynnar yng Nghaffi Torri Syched, caffi bach annibynnol yng nghanol y pentref. Caffi a gai redeg gan ei ewythr oedd Torri Syched, – doedd o ddim yn cogio bod yn un o’r caffis swanc ‘ma’n cynnig cant-a-mil o wahanol goffis soffistigedig fel ‘chai latte’ na choffi llefrith cnau almon, – dim hyd yn hyn beth bynnag, ond roedd y staff yn fwy na digon parod i drio gwneud unryw de neu goffi gwahanol os oedd y galw yno! Ond fel arall, roedd digon o fynd ar lattes a chappuccinos, – ac wrth gwrs te, neu’n benodol, ‘te-tramp’!
Roedd partneriaeth dda rhwng y sefydliad bach yma a chwmnïau a ffermydd, a garddwyr lleol wrth iddynt gyd-ddibynnu ar eu gilydd i oroesi mewn marchnad brysur a chystadleuol. Doedd Torri Syched, ar ôl dweud hynny, fyth yn beth gallwch alw’n ‘or-lawn’ y ran fwyaf o’r amser – oedd roedd tipyn o fynd ben bore ar gwsmeriaid yn galw heibio am eu ffics foreuol o gaffein a mymryn o dost efallai, ac ambell i frechdan i fynd hefo nhw am ginio. A hefyd byddai selogion yn ymlwybro’n rheolaidd yn eu hamser penodol bob dydd i gyfarfod am sgwrs dros baned a sgon, grempog neu banini. Daw’r ffyddloniaid hyn i fewn ac eistedd ar yr un seddi bob tro – rhai wrth y ffenestr i edrych ar y mor gyferbyn neu’r bobl a gerddai heibio ac eraill i eistedd yn agosach at y cowntar i gael sgwrs a’r staff ac i ddarllen y papurau newydd a gaent eu gyrru i’r caffi’n foraeol. Yn ystod tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf deuai mwy o gwsmeriaid i mewn i ymofyn am frechdanau a phastis ar gyfer picnics i fynd i’r glan mor neu i fyny at y gromlech, ac y ddiweddar deuai mwy o gwsmeriaid i fewn diolch i boblogrwydd y Llwybr Arfordir Cenedlaethol. Ond, doedd dim gobaith cystadlu gyda’r caffis mwy llwyddiannus yn y pentrefi glan mor mwy poblog a phoblogaidd y naill ochr i Borthyfelin , – ac roedd hyn yn siwtio Richard i’r dim, roedd ganddo waith parhaol drwy’r flwyddyn a digon o gyflog i dalu am ei rent am y fflat bach uwchben y Stryd Fawr, ei fwyd a dillad ac, os fyddai’n ddigon lwcus, am wyliau bach bob blwyddyn i un o’r Costas yn Sbaen neu un o’r ynysoedd Groegaidd.
A dyna oedd yn digwydd mynd trwy feddwl Richard wrth iddo ddisgwyl am banini ham a chaws Mrs. Evans Tan y Foel grasu’n y popty bach wrth y cowntar. O fewn hanner munud arall cannodd sŵn ‘tinc’ o gloch y popty i ddatgan fod yr amser o ddisgwyl drosodd. Tynnodd Richard y panini allan yn ofalus a’i osod ar hamfwrdd. Estynnodd am y gyllell fara finiog a thorri’r panini’n ei hanner cyn rhoi’r cwbl ar blât gyda chyllell a fforc a serviette coch.
“Dyna chi Mrs. Evans, mwynhewch hwnna rŵan, a gwyliwch mae’r canol yn chwilboeth fel arfer.” Rhybuddiodd wrth fynd a gosod y blât ar fwrdd y ffermwraig a eisteddai wrth y ffenestr yn gwylio’r mor. “O diolch Richard, dwi wedi bod yn edrych ymlaen am fy mhanini ers ben bora ‘ma, – sa’r gwr ddim yn bwyta ffasiwn beth! Ew, sbïwch ar y cymylau duon ‘na, ma’i am ryw law trwm sw’n i’n ddeud.” Meddai Mrs. Evans wrth ymestyn am y panini boeth gan wybod yn iawn y byddai’n siŵr o losgi’w gwefys!
Wrth ddychwelyd nol at y cowntar, sylwodd Richard fod y glaw trwm a rhagwelodd Mrs Evans wedi cyrraedd Porthyfelin yn gynt na rhagdybiai neb, aeth yr awyr yn dywyll mwyaf sydyn a dechreuodd dresio bwrw. Roedd hi wedi bod yn dywydd sych grimp trwy’r wythnos heb ddiferyn o law. Roedd ‘na fynd wedi bod ar hufen ia, lemonêd a hyd yn oed dwr tap yn ystod y dyddiau dweuthaf, – dim dyna fydda’r drefn heddiw, roedd hynna’n amlwg! O leiaf fydd y ffermwyr yn hapus o gael y glaw ‘ma meddyliodd Richard, cyn cwestiynu ei ddatgan ei hun, – a fydda nhw’n hapus i gael y glaw, anodd oedd deall meddyliau’r amaethwyr lleol pan ddaeth hi at y testun cymhleth o dywydd. Trodd ei feddwl tuag at un ffermwr yn benodol, – Carwyn. Doedd o heb ei weld o o gwmpas cyn gymaint yn ddiweddar – rhy brysur hefo’i dractors yn ‘big-belio’ neu’n ‘di-hornio’ ryw fuwch neu rywbeth tebyg mae’n raid, – doedd gan Richard fawr o glem beth oedd calendr y ffermwyr yn edrych fel a deud y gwir, dim mab fferm oedd o medda fo, er iddo gael ei fagu ar un ac i’w frawd ddigwydd bod yn un o’r ffermwyr mwyaf llwyddiannus y fro!
Crwydrodd meddwl Richard ymhellach, heibio’r ffaith ei fod mor ddi-glem am amaethyddiaeth ac yn hytrach yn ôl tuag at Carwyn a’i ddwylo mawr, nid yn dreifio un o’r tractors pwerus ond yn hytrach am Carwyn a’i ddwylo mawr yn mwythoni a chrwydro’i gorff y noson honno ar ôl gadael y Ship wythnos yn ol. Meddyliodd os, a phryd y cai’r cyfle eto i weld wyneb Carwyn wrth i’r ffermwr cyhyrog gyrraedd ei orgasm a dŵad trosdo eto, – a’r tro nesaf hoffai Richard gael coc fawr y ffermwr yn ei geg eto, hoffai deimlo’r frest gyhyrog, flewog ‘na eto hefo’i ddwylo, hoffai……..
“Ding-a-ling-aling-a-linggggggggggg” Torrwyd ar draws ei ffantasi gan dincial ymyriadol y gloch uwchben ddrws y caffi wrth i ddau gwsmer gamu i fewn – a sathru dros ei feddyliau melys. Cymerodd rai eiliadau i Richard ddod nol i’r presennol, sylwodd fod ei goc wedi dechrau caledu a brysiodd i roi ei ffedog amdano i guddio’r ffurf amlwg yn ei shorts.
“Duwcs, be sy’ wedi dy gynhyrfu di gymaint Rich, mae dy fochau di’n goch ofnadwy?” Holodd Mari a gwenu’n ddireidus ar ei hwyneb. Roedd y ddau’n adnabod eu gilydd yn weddol dda, – yn ffrindiau hyd yn oed, bu i Mari weithio’n y caffi am ychydig yn ystod yr Haf y flwyddyn gynt a daethant i adnabod eu gilydd yn eithaf.
Symudodd y gwallt gwlyb o’i hwyneb, roedd hithau a’i chariad, Cai wedi eu dal yn y glaw a dywalltodd lawr yn y gawod nes i’r ddau fod yn socian, a phenderfynodd y ddau chwilio am loches yn y caffi bach cyfagos. “Dau de plîs Richard, – neith hwn dalu, dwi am fynd i’r ty bach i weld os fedra’i sychu tipyn ar y mop ‘ma!” Meddai gan bwytio ar Cai ynglŷn a’r te, ac yna i’w gwallt ynglŷn a’r ‘mop’. Safodd Cai yno wrth y cowntar yn fud, chwiliodd yn ei boced am geiniogau i dalu am y te. Trodd Richard rownd a’i gefn at y caffi er mwyn llenwi’r teciall a pharatoi’r te. Syllodd Cai ar goesau a phen-ôl siapus Richard a safai o’i flaen yn ei shorts cotwm a’i gefn ato’n paratoi’r te y tu ôl i’r cowntar.
Ni wyddai Cai lawer am Richard, roedd Ricard yn ychydig hyn na fo, gwyddai ei fod yn byw ar ben ei hun ac, ynghyd a Marc a Tom, gwyddai mai Richard oedd y trydydd dyn hoyw a wyddai am i fyw’n y pentref bach yma. Fe’i atgoffwyd am y p’nawn Sul poeth hwnnw ar Ben Foel pythefnos yn ôl pan gafodd yr haliad mwyaf horni ‘na wrth wylio Marc a Tom yn ffwcio’n chwyslyd ymysg yr eithin.
Cofiodd hefyd sut, wrth gerdded lawr nol i’r pentref ar ei ben ei hun y p’nawn honno fel y cyrrhaeddodd at y penderfyniad ei fod yn ddeu-rywiol. Roedd ei fywyd wedi cychwyn ar drywydd go wahanol ers y p’nawn poeth hwnnw. Yn ystod yr wythnos ganlynol mi fu iddo eistedd lawr tros swper hefo’i fam a’i chwaer hyn – roedd ei dad wedi gadael flynyddoedd ynghynt am ryw jadan goman yn dre ac wedi dechrau teulu newydd. Dywedodd wrth ei fam a’i chwaer ei fod yn coelio’i fod yn ffansio merched a dynion, bu’r gallu i ynganu’r term ‘deu-rywiol’ am ryw reswm yn rhy annodd. Roedd y newydd wedi syfrdanu ei fam a’i chawer ar y pryd ond, ar ôl amser digon lletchwith o ddistaw’n ystod y pwdin o hufen ia, ei chwaer fu’n gyntaf i roi hyg mawr iddo a datgannodd ei fam ei bod yn ei garu beth bynnag oedd o, – cyn belled ei fod yn ‘ofalus’, ac ei fod yn barod i gael y sgwrs hefo Mari’n fuan. Mari, ia, roedd y sgwrs honno’i fod nesaf, cyn iddi sylwi fod unryw beth o’i le, doedd o ddim iddi gael ei brifo, roedd o’n dal i feddwl y byd ohoni.
Trodd Richard rownd hefo dwy banned o de poeth yn ei ddwylo. “Da chi isho rwbath arall i fynd hefo’ch te, – cacen neu frechdan neu rwbath?” Awgrymodd Richard wrth osod y paneidiau i lawr ar y cowntar. Ar ôl tendio fod y paneidiau’n saff ar y cowntar gwydr, cododd Richard ei olwg i edrych ar Cai, a chyn iw lygid gyrraedd sylw llygid ei gwsmer, sylwodd ar y corff cyhyrog o’i flaen. Doedd Richard heb gymeryd fawr o sylw ar yr dyn ifanc o’r blaen, gwyddai fod Cai’n ychydig yn iau na fo’i hun a’i fod yn byw’n y rhes o dai cyngor wrth yr hen felin gyda’i fam ac Ana’i chawer. Roedd wedi sylwi ar Cai a Mari’n cerdded heibio’r caffi’n selog yn law yn llaw’n aml. Ond beth roedd Richard heb sylwi arno o’r blaen oedd corff y dyn ifanc – cyhyrog ond heb fod yn rhy amlwg, yn enwedig mewn crys-T sych. ond ar ôl cawod drom o law, fe lynnai’r cotwm tenau i’w groen gan ddatgelu cyhyrau ei frest dynn ac amlygu’r nipyls bach. Doedd gan Cai ddim ‘six-pack’ amlwg i’w weld ond, doedd hynny ddim yn poeni Richard, yn ei feddwl o, gallai dyn hefo ‘six-pack’ olygu ei fod yn or-hoff o’i hun neu’n gyndyn i fwynhau ei hun mewn cwmni eraill.
Cododd Richard ei olwg, wrth lyncu ei boer ac edrychodd i fyw lygid ei gwsmer. Yn yr eiliad honno, daliodd Cai lygid y barista. Syllodd y ddau i fyw llygid eu gilydd a dalwyd y syllu wrth i Richard roi’r newid am yr archeb i Cai. Am yr ychydig eiliadau hynny gwyddai Richard fod tipyn mwy i’r stori hon gan Cai.
“…Diolch..” Oedd yr unig air allai Cai ynganu wrth dderbyn yr arian man yng nghledar ei law a’u stwffio i boced wlyb ei jîns heb allu tynnu ei olwg oddi wrth lygid y dyn o’i flaen.
Torrwyd ar y foment ddistaw gan sŵn drws y ty bach yn agor a chau a Mari’n cerdded drwyddo wrth drio sythu’ gwallt “..Mi neshi drio ‘ngorau i sychu’r mwng ‘ma hefo’r peiriant sychu dwylo ond dwi’n edrych fel fod gynna’i nyth bran ar fy mhen!” Meddai wrth hanner chwerthin a rhoi’r gorau i drio twtio’r mop o wallt brown, doedd hi erioed wedi bod yn rhy ffyslyd am ei gwallt, “….lle gawn ni eistedd dwad, wrth y ffenestr ‘na ia?” awgrymodd wrth gerdded fyny at ei chariad a rhoi winc chwareus i Richard a chymryd y ddwy baned oddiar y cowntar.
Aeth y ddau i eistedd at fwrdd yng ngongl y caffi. Roedd y glaw wedi cilio o’r diwedd ac mi roedd yr Haul yn trïo’i orau i sbecian drwy’r cymylau duon. Lle roedd golau’r Haul wedi mynnu torri ei ffordd trwy’r cymylau roedd o’n taro’r pafin tu allan i’r caffi gan wneud iddo sgleinio’n llachar i lygid Mari. Symudodd hithau ei sedd gyferbyn a Cai, allan o sglein y pafin, roedd yn bwysig iddi fedru gweld wyneb ei chymer. Cymerodd sipiad o’i phaned o’r mwg boeth cyn ei roi’n ei ôl ar y bwrdd. Cymerodd anad drom a sbïodd i fyw llygid mawr brown ei chariad cyn gofyn iddo “..Cai, sgin ti rwbath i ddeud wrtha’i ta?”