Edrychodd Mari i fyw llygid Cai – mewn un ffordd i chwilio am ateb i’w chwestiwn cyn i’w chymer orfod yngan gair. Roedd hi wedi amau fod rhywbeth mawr ar y gweill ers peth wythnosau, a rŵan, prin wythnos cyn iddi hi orfod hel ei phac a gadael Porthyfelin am ddechrau newydd yn y brifysgol oedd yr amser i fynd ar afael ar beth oedd yn poenydio Cai.
Eisteddai Cai yno fe delw. Roedd ei geg yn hollol sych fel nyth cath ac er fod ganddo baned o de o’i flaen yn ei ddwylo, ni allai feddwl gymeryd llymaid rhag ofn iddo gyfogi. Gwyddai fod raid i’r sgwrs yma ddigwydd, ac y dylai fod wedi cymeryd lle cyn heddiw. Roedd o wedi gohirio’r sefyllfa yma cyn hired ag y gallai. Roedd o wedi osgoi Mari ar brydiau, gan ddod i fyny hefo esgusion simsan i beidio’i chyfarfod am frechdan ar y traeth, neu fynd i’r sinema i weld y ffilm oeddynt wedi disgwyl oes i’w gweld hefo’u gilydd. Roedd pethau wedi mynd mor ddrwg a phan oeddynt yn cael rhyw, doedd o ddim yn medru mwynhau – ac fe fu Cai’n un i fwynhau rhyw bob tro, yn enwedig hefo Mari, ond rŵan teimla’i fod dyletswydd arno i wneud yn siŵr fod Mari’n cyrraedd orgasm a’r holl y gallai o wneud oedd canolbwyntio ar gadw’i godiad wrth iddynt ffwcio – rhywbeth na arferai orfod canolbwyntio ar erioed o’r blaen. Teimla’i emosiynau cymysg, yn rwystredig am na allai siarad am y ffordd a deimla’i hefo Mari, – ei bartner a’i ffrind gorau, arferant rannu popeth ers iddynt fod mewn perthynas, doedd dim yn arfer bod yn tabŵ.
Teimla’i ddagrau’n powlio’n ei lygid, a doedd y geiriau ddim am ddŵad allan yn iawn, beth bynnag oeddynt am fod. Roedd o’n casáu ei hun.
“Cai, be’ bynnag sy’ gin ti i ddeud wrtha’i, paid a phoeni, dwi’n siŵr fydd o ddim mor ddrwg a hynna!” Ceisiodd Mari ei gysuro drwy ymestyn ei breichiau ar draws y bwrdd rhyngddynt a roi ei dwylo yn rhai yntau. Er ei bod yn ceisio cysuro’i phartner a’i ffrind gorau, gwyddai fod beth bynnag oedd i’w ddod am ei brifo’n un ffordd neu arall a theimlodd ei chalon yn curo’n galed yn ei brest.
Er fod y radio’n y cefndir yn lleddfu rhywfaint ar y distawrwydd lletchwith yn y caffi, roedd Mrs.Evans wedi hen ddarfod ei phanini gogoneddus, a, fel yr unig gwsmer arall yn y caffi ar y funud teimlai’n braidd yn anghyfforddus. Gallai glywed sgwrs y ddau gariad y tu ôl iddi a gwyddai na fyddai’r sgwrs yn diweddu gyda diweddglo “hapus am byth”. Penderfynnodd nad oedd hyn yn fusnes iddi a gwell fyddai gadael i’r ddau gael eu sgwrs gyda chyn gymaint o breifatrwydd a phosib. Gadawodd y caffi, gyda sŵn cloch y drws yn tincian ei “ding-a-ling-a-ling” y tu ol iddi yn sbardun i Cai gymeryd anadl drom ac yngan y geiriau,
“Mari, mi dwi MOR sori, mi dwi YN dy garu di….ond….” a dyna stop ar yr agoriad…
“Ond, ond be Cai, dwi’n dy garu di hefyd, ti’n gwybod hynny’n dwyt? Mae na fwy’n does. Be’ sy? Dwyt ti ddim wedi cyfarfod rhywun arall.” Dim cwestiwn oedd y frawddeg olaf honno gan Mari, mi fydda’i wedi sylweddoli os fyddai Cai’n ei thwyllo hefo merch arall. Ceisiodd ysu Cai i ymddiried ynddi a gollwng y geiriau oedd ar dan ond methu dŵad allan o’i geg.
“Mi dwi yn dy garu di…..” Meddai Cai eto wrth geisio ail-ymdrech ar ei ddatganiad,
“….ond. Ond yn ddiweddar mi dwi wedi dechrau cael teimladau gwahanol…na, dim gwahanol., mi dwi wedi bod yn cael y teimladau yma ers, ers erioed am ‘wn i ond dwi wedi medru ‘hanwybyddu nhw…”
Torrodd Mari ar ei draws wrth iddi sylweddoli beth oedd o’n fethu ei ddweud yn iawn “O mai god, ti’n hoyw ‘dwyt! O ni’n gwybod, – o ni’n amau. Pam na fyswn ni wedi sylwi’n gynt? Ffycin hel, dwi mor sdiwpid, dwi’n teimlo’n sal..” Gollyngodd afael ar ddwylo Cai, cochodd ei bochau a llenwodd ei llygid a dagrau, rhedasant lawr ei bochau’n llif poeth. Llifodd ei thrwyn yn un sneipen ludiog, doedd ganddi ddim hances sych ar ôl ei ddefnyddio i sychu ei wyneb yn y ty bach yn gynharach ar ôl y glaw felly defnyddiodd ei llawes i’w sychu i ffwrdd. Ferdai ddim edrych ar Cai felly syllodd allan o’r ffenestr a chymerodd anadl drom i sadio’i theimladau. Sylwodd ar y glaw yn dechrau eto ac yn taro’r ffenestr, dechreuodd felltio allan yn y mor a cheisiodd ddechrau cyfrif yr eiliadau rhwng y mellt a’r tarannau a’u dilynant, – rhywbeth fyddai hi a’i chwaer wedi ei wneud erioed mewn adeg storm. Ond doedd dim eiliadau i’w cyfrif yn ystod y storm oedd rŵan yn ei phen, roedd y storm hon yn yr eiliad, rownd y bwrdd hon yn y caffi bach yma rhyngtha hi a Cai. Ceisiodd fachu am ddarnau o jig-so eu perthynas yn ei phen. “Pa bryd nesdi sylwi, nesdi benderfynu? Pwy arall sy’n gwybod? Ydy Rich yn gwybod?” trodd ei phen i wynebu’r cownter i edrych os oedd ei ffrind yno’n sefyll ac yn gwrando ar y sgwrs, ond doedd Richard ddim yno, roedd o wedi mynd i gefn y caffi o’r golwg, efallai ei fod yntau, fel Mrs. Evans wedi mynd i geulo o’r storm tu fewn i’r caffi.
“Nacdi, tydy Richard ddim yn gwybod dim, dwi ddim yn ei ‘nabod o eniwe, dy ffrind di ydy o. Dim ond Mam ac Ana sy’n gwybod, neshi ddeud wrtha nhw ddechrau’r wsnos. Dwi ‘im yn hoyw Mari….dwi’n ddeu-rywiol, dwi’n lecio dynion a merched.”
Dyna fo, roedd o wedi medru datgelu i’w gymer beth oedd o wedi methu ei ddweud am beth deimlai fel am oes. Teimlodd ryddhad y funud honno, ‘na fo, roedd i’n gwybod rŵan, doedd dim mwy o gyfrinachau’n bwyta’i enaid.
“Dwi’n gwybod be mae ‘deu-rywiol’ yn feddwl y lembo.” Atebodd Mari drwy’i dagrau. Doedd y storm yn y mor ddim yn agosáu at Porthyfelin, ac roedd mymryn o Haul yn trïo’i orau i ddŵad trwy’r cymylau uwchben y pentref. Ystwythodd y clymau’n ei stumog ac arafodd y dagrau. Gwyddai fod rhywbeth mawr wedi bod yn poeni’i chariad ers pythefnos go lew, roedd hi ei hun yn teimlo rhyddhad ei fod yntau wedi medru ymddiried rhywbeth mor dyngedfennol iddi. Roedd hi’n ddynes ifanc gall, wedi ei magu ar aelwyd digon ryddfrydol, roedd hi a’i chwaer wedi siarad am rywioldeb yn aml gan fod ffrind agos i Ana’n y pentref cyfagos wedi ymddiried yndda hithau’n ddiweddar ei bod yn lesbian ac roedd Mari wedi son yn aml wrthi hithau am Richard a’r hanesion am ei fywyd personol y byddai yntau’n ei rhannu hefo hithau wrth iddynt gyd-weithio’n y caffi. Ond roedd y newydd yma’n dipyn o ergyd iddi ac roedd hi’n cael trafferth i brosesu beth fyddai hyn yn ei olygu iddi hi hefo bobdim arall oedd yn digwydd iddi hi ar y funud megis gadael Porthyfelin am y brifysgol.
“So, be mae yn ei olygu i ni ‘ta? Dwi wedi sylwi dy fod yn byhafio’n wahanol tuag ata’i, mae rhyw rhyngtha ni o hyd wedi bod yn wych ti’n gwybod hynny, – ond y tro dweutha i ni gael rhyw oedda chdi’n wahanol, fel doedda chdi ddim yn mwynhau bod hefo mi, a i fod yn onest Cai, mi fuo raid i mi gogio dŵad, – dwi ddim wedi gorfod gwneud hynna byth o’r blaen hefo chdi, doeddwn i ddim am ddeud wrtha chdi ond….A mi wti’n edrych yn wahanol yn ddiweddar, ti wedi stopio shafio dy gorff yn un peth, mae gin ti flewiach yn tyfu’n bob man!”
A stopiodd i sbïo ‘myw llygid Cai am y tro cyntaf ers iddo ddatgan ei newydd iddi. Doedd y ffaith ei fod wedi newid ei batrwm eillio ac yn bellach yn flewog ddim yn poeni Mari, oedd hi erioed wedi meddwl mai dewis Cai oedd o i eillio bob man. Roedd yntau rŵan yn crio, crio cymysgedd o ryddhad a thristwch. “Dwi mor sori Mari, chdi ydy’r person dweutha dwi isho’i brifo, ti’n gwybod hynny’n dwyt?” Doedd o ddim am ddweud wrthi ei fod o hefyd wedi gorfod cogio dŵad y tro dweuthaf iddyn nhw gael rhyw am ei fod yn teimlo mor ofnadwy o euog am ei deimladau. “Dwi’n dal i dy garu di Mari, ‘sdim raid i ddim byd newid nagoes?” Gobeithiodd y byddai Mari’n cytuno ac y gallent gario ‘mlaen fel cwpwl, er pan fydda hitha’n gadael am y brifysgol yr wythnos nesaf.”
“Cai…Cai, ti’n gwybod fydd hynna ddim yn bosib, does dim byd yr un fath rŵan rhyngtho ni, sut fedar o fod? Dwi ‘mynd i ffwrdd ‘wsnos nesa a fyddai ddim yn medru dŵad adra pob pen wsnos beth bynnag. Mi dwi’n dal yn dy garu ditha hefyd ond, ella fod hyn yn gyfle i ni ail-feddwl ein perthynas. Ti’n mynd drwy rhywbeth anferth ar y funud a dim ond y chdi all neud hyn Cai, mae gin ti ffrindia a theulu yma i fod yn gefn i chdi ond, am ddipyn, fyddai ddim yn medru bod yno i chdi, ti’n medru dalld hynny dwyt? Wyt ti wedi bod hefo…hefo dyn arall? Pam bo chdi’n meddwl dy fod yn lecio dynion eniwe?”
Mari, fel arfer oedd yr hanner mwy pragmatig o’r cwpwl, erioed wedi bod, a rŵan hyd yn oed pan wyneba’r perthynas ei her fwyaf, y hi oedd yr un i arwain y ffordd.
“Y, naddo, dwi heb fod hefo neb arall. Dwi mond yn gwybod fod gynnai’r teimlada ‘ma. Dwi ddim yn ffansio dyn arall, dwi im yn hyd yn oed siŵr os fyddwn i’n medru cael, – ti’n gwybod, fel rhew hefo dyn, dwi im yn siŵr os ydy hynna’n rhywbeth dwi isho neud eniwe ond, mae ‘na rywbeth.” Doedd Cai ddim yn siŵr os mai hon oedd yr amser i esbonio i’w gariad sut deimlad oedd o’n ei gael wrth syllu ar gyrff cyhyrog dynion chwyslyd yn y gampfa, a sut hyd yn oed yn ddiweddar oedd o wedi ar brydiau cael haliad slei yng nghawodydd y gampfa wrth feddwl am sut deimlad fyddai i deimlo llaw dyn yn halio neu dyn i sugno’i goc. Yn bendant dim rŵan fyddai’r amser i rannu’i brofiad o wylio Marc a Tom yn ffwcio ar Ben Foel y diwrnod poeth hwnnw y gadawodd hi o yno ac fel y cafodd yr orgasm mwyaf anhygoel wrth eu gwylio.
Daeth distawrwydd dros y ddau, yfent eu te o’r diwedd, oedd bellach wedi dechrau oeri ond doedd yr un o’r dau’n malio gormod am hynny.
“Ti’n siŵr mai dim hoyw wyt ti a dim deu-rywiol. Ti’n gwybod be’ mae nhw’n eu ddweud ‘Bi now, gay later..'” Gwyddai Mari’r funud y daeth y geiriau allan o’i cheg mai lol plentynaidd oedd y dywediad yna a byddai hynny’n brifo Cai, dyfarai’r eiliad honno ond oedd hi wrth gwrs yn rhy hwyr.
” Dwi ddim yn gwybod yn iawn Mari, dwi mond yn gwybod fy mod i’n dal yn dy garu di ar ddiwedd y dydd, felly…., ti’n gwybod be’, dwi am fynd iawn, sori am bob dim, plîs ga’i dy weld di cyn i chdi fynd i ffwrdd?” Meddai Cai wrth godi oddi ar ei gadair heb orffen ei baned. Oedd, mi oedd ‘jibe’ Mari wedi taro nerf, er, ar ôl popeth heddiw, mae’n siŵr mai hyn oedd y lleiafswm oedd o’n ei haeddu ond oedd, brifo’r un fath ddaru’r geiriau di-ofal. Gadawodd y caffi a cherdded tua’r traeth heb edrych yn ei ôl o gwbl. Roedd y tywydd wedi gwella gyda Haul ar dywod gwlyb y traeth yn sgleinio i’w lygid a’r gwylanod swnllyd yn dychwelyd ar ôl cysgodi rhag y glaw. Roedd gwynt ffres y mor yn fendith ar ei wyneb ar ôl ffasiwn sgwrs emosiynol yn y caffi.
Daeth Richard i’r olwg, gan gogio heb glywed unryw ran o’r sgwrs rhwng ei ffrind a’i chariad. “Duwcs, ar dy ben dy hun wyt ti Mars?” Holodd yn ddiniwed gan ddefnyddio’r enw y galwai ei ffrind. “Ia, mae’n beryg fy mod i bellach.” Atebodd hithau gan gymeryd fewn anadl drom a hwylio i adael y caffi. “Mars, tyrd draw heno os ti isho siarad, mae gynna’i botel o win neis yn y ffrij.” Cynigiodd Richard i Mari wrth iddi agor drws y caffi i adael.
“Gawn ni weld ia Rich, diolch i ti eniwe, ti’n fet da.” Meddai ac off a hi i ddyfodol newydd heb Cai’n gariad ffyddlon.