Wel, mond meddwl oeddwn i neithiwr, “Pam nad oes fwy o, – neu unryw fath o lenyddiaeth Cymraeg yn son am fywydau pobl LHDTC+? Oes ganddo chi unryw nofelau’n olrhain hanes criw o bobl hoyw er enghraifft ar eich silffoedd llyfrau? Heblaw am y bennill gan E. Prosser Rhys o ddechrau’r ganrif ddweuthaf fedra i ddim meddwl am ddim a allai gael ei alw’n lenyddiaeth LHDTC+ penodol Cymraeg ei iaith. Mae ambell son am gymeriad LHDTC+ mewn nofelau modern penigamp ond fel arall…..dwi’n crafu ‘mhen i feddwl am unryw un!

Wrth ymchilio’n fanwl i’r pwnc (h.y., picio fewn i Watersone’s ar Ffordd Tottenham Court ac yna i Foyle’s ar Ffordd Charing Cross yng nghanol Llundain y bore ‘ma), mi ddois ar draws niferoedd o lyfrau’n olrhain hanes brwydro dros hawliau LHDTC+, yn enwedig gan fod eleni’n ddathliad penblwydd Brwydr Stonewall yn Efrog Newydd yn 50 oed, ac eraill yn ein haddysgu am ddyfodiad hawliau Traws, ac astudiaethau cwiar aballu. Ond, fel arall doedd dim nofelau na barddoniaeth amlwg i’w weld. Doedd dim llyfr y gallech ei brynu i’w fwynhau ei ddarllen allan yn eich gardd neu ar drên neu fws a sonia’i am hynt a helyntion bywydau cymeriadau ffug debyg i ‘Tales of the City’ gan Armistead Maupin, i’ch cludo i fyd arall am ychydig o oriau. Hynny yw, i mi’n bersonol mae ‘mwynhad’ iw gael o ddarllen a dysgu am ddyfodiad ein hawliau ac i ddeall y ‘sbectrwm’ anhygoel o rywioldeb ond, mae hefyd ‘mwynhad’ mewn darllen nofel er mwyn medru cael ychydig o ‘escapism’ yn does? Cymraeg am ‘escapism’ – ‘dennygrwydd/diancrwydd’ tybed??

Wrh gwrs, mae gennym y ‘Nirfana’ ein hunain mewn siop lyfrau Gay’s The Word ar 66 Stryd Marchmont, Llundain (WC1N 1AB), sy’n cynnig y dewis mwyaf eang o lyfrau ar themâu LHDTC+, mi fedrwn wario oriau yno’n pori tros wahanol lyfrau, ac mae’r staff bob tro’n mor gyfeillgar a chymorthwyol. Yn wir, mae hanes ddiddorol i’r siop yma bu hefyd yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth eleni. Bu’r siop yma’n ganolfan bwysig yn yr ymdrech i godi pres i gynorthwyo’r glowyr yn ystod eu streic yn 1984-5 yn Nyffryn Dulais, de Cymru. Roedd y siop yma’n Llundain yn ganolbwynt i grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (Lesbians and Gays support the Miners, LGSM) ac fe wnaed ffilm o’u hanes yn 2014 o’r enw ‘Pride’ gyda chast sy’n cynnwys Imelda Staunton, Andrew Scott, Bill Nighy a Dominic West ymysg eraill, plîs gwyliwch os nad ydych wedi’n barod!

Ia, iawn, fel y tybiwch mae cymaint mwy o lenyddiaeth ar gael i ac am bobl LHDTC+ yn Saesneg nag yn y Gymraeg, – ond o ddifrif, does yna ddim byd yn ein hiaith ni??????? Mae gennym wrth gwrs seremoni a gŵyl i ddathlu ffilmiau byr LHDTC+ yr Iris Prize yng Nghaerdydd yn flynyddol pob Hydref, sy’n beth mor wych, a hoffwn yn fawr fynd yno ryw flwyddyn. Hefyd eleni am yr ail flwyddyn yn olynol bydd yr anhygoel Stifyn Parri’n cynnal ‘Gorsedd y Gays’ ym Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, eto – ac os fydd Mr. Parri’n bwriadu cynnal yr un peth y flwyddyn nesaf, lle bynnag fydd yr Eisteddfod, mi hoffwn yn fawr fod yno (priti plîs Mr. Parri!!)

Mae’n dyst i Gymru fel cenedl gymaint yr ydym wedi symud ymlaen yn gymdeithasol lle mae digwyddiad hynod lwyddiannus a boblogaidd ‘tafod-mewn-boch’ fel Gorsedd y Gays sydd yn gwneud hwyl ar y Brifwyl ei hun, yn cael ei chynnal o gwbl, heb son ei bod yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac, sydd wedi cael ei gwahodd ganddynt am ‘encore’ eleni ar ôl yr un gyntaf yn 2018 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Ydy hyn yn golygu ein bod ni fel cenedl Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt wedi wir symud ymlaen o fod yn bobl capel parchus i fod yn bobl cynhwysol barchus? Ac os (gobeithio) mai hyn yw’r gwirionedd newydd, ydy’i phobl LHDTC+ yn barod i fynegi eu doniau llenyddol mewn print?

Felly, dyma fi’n meddwl, – beth am drio creu cymdeithas o bobl sy’n hoffi, neu o leiaf fyddai’n hoffi trio ysgrifennu llenyddiaeth am bobl LHDTC+ yn yr iaith Gymraeg? Ymddiheuriadau mawr os oes ffasiwn gymdeithas yn bodoli’n barod, ac os mai hynny yw’r gwirionnedd, – plîs fyswn i’n cael ymaelodi?? Ond os nad oes ffasiwn gymdeithas eisoes ym modolaeth, beth am un?

Rhywun hefo fi?

Gadael sylw