Cymdeithas Lenyddiaeth LHDTC+ Cymraeg

Wel, mond meddwl oeddwn i neithiwr, “Pam nad oes fwy o, – neu unryw fath o lenyddiaeth Cymraeg yn son am fywydau pobl LHDTC+? Oes ganddo chi unryw nofelau’n olrhain hanes criw o bobl hoyw er enghraifft ar eich silffoedd llyfrau? Heblaw am y bennill gan E. Prosser Rhys o ddechrau’r ganrif ddweuthaf fedra i ddim meddwl am ddim a allai gael ei alw’n lenyddiaeth LHDTC+ penodol Cymraeg ei iaith. Mae ambell son am gymeriad LHDTC+ mewn nofelau modern penigamp ond fel arall…..dwi’n crafu ‘mhen i feddwl am unryw un!

Wrth ymchilio’n fanwl i’r pwnc (h.y., picio fewn i Watersone’s ar Ffordd Tottenham Court ac yna i Foyle’s ar Ffordd Charing Cross yng nghanol Llundain y bore ‘ma), mi ddois ar draws niferoedd o lyfrau’n olrhain hanes brwydro dros hawliau LHDTC+, yn enwedig gan fod eleni’n ddathliad penblwydd Brwydr Stonewall yn Efrog Newydd yn 50 oed, ac eraill yn ein haddysgu am ddyfodiad hawliau Traws, ac astudiaethau cwiar aballu. Ond, fel arall doedd dim nofelau na barddoniaeth amlwg i’w weld. Doedd dim llyfr y gallech ei brynu i’w fwynhau ei ddarllen allan yn eich gardd neu ar drên neu fws a sonia’i am hynt a helyntion bywydau cymeriadau ffug debyg i ‘Tales of the City’ gan Armistead Maupin, i’ch cludo i fyd arall am ychydig o oriau. Hynny yw, i mi’n bersonol mae ‘mwynhad’ iw gael o ddarllen a dysgu am ddyfodiad ein hawliau ac i ddeall y ‘sbectrwm’ anhygoel o rywioldeb ond, mae hefyd ‘mwynhad’ mewn darllen nofel er mwyn medru cael ychydig o ‘escapism’ yn does? Cymraeg am ‘escapism’ – ‘dennygrwydd/diancrwydd’ tybed??

Wrh gwrs, mae gennym y ‘Nirfana’ ein hunain mewn siop lyfrau Gay’s The Word ar 66 Stryd Marchmont, Llundain (WC1N 1AB), sy’n cynnig y dewis mwyaf eang o lyfrau ar themâu LHDTC+, mi fedrwn wario oriau yno’n pori tros wahanol lyfrau, ac mae’r staff bob tro’n mor gyfeillgar a chymorthwyol. Yn wir, mae hanes ddiddorol i’r siop yma bu hefyd yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth eleni. Bu’r siop yma’n ganolfan bwysig yn yr ymdrech i godi pres i gynorthwyo’r glowyr yn ystod eu streic yn 1984-5 yn Nyffryn Dulais, de Cymru. Roedd y siop yma’n Llundain yn ganolbwynt i grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (Lesbians and Gays support the Miners, LGSM) ac fe wnaed ffilm o’u hanes yn 2014 o’r enw ‘Pride’ gyda chast sy’n cynnwys Imelda Staunton, Andrew Scott, Bill Nighy a Dominic West ymysg eraill, plîs gwyliwch os nad ydych wedi’n barod!

Ia, iawn, fel y tybiwch mae cymaint mwy o lenyddiaeth ar gael i ac am bobl LHDTC+ yn Saesneg nag yn y Gymraeg, – ond o ddifrif, does yna ddim byd yn ein hiaith ni??????? Mae gennym wrth gwrs seremoni a gŵyl i ddathlu ffilmiau byr LHDTC+ yr Iris Prize yng Nghaerdydd yn flynyddol pob Hydref, sy’n beth mor wych, a hoffwn yn fawr fynd yno ryw flwyddyn. Hefyd eleni am yr ail flwyddyn yn olynol bydd yr anhygoel Stifyn Parri’n cynnal ‘Gorsedd y Gays’ ym Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, eto – ac os fydd Mr. Parri’n bwriadu cynnal yr un peth y flwyddyn nesaf, lle bynnag fydd yr Eisteddfod, mi hoffwn yn fawr fod yno (priti plîs Mr. Parri!!)

Mae’n dyst i Gymru fel cenedl gymaint yr ydym wedi symud ymlaen yn gymdeithasol lle mae digwyddiad hynod lwyddiannus a boblogaidd ‘tafod-mewn-boch’ fel Gorsedd y Gays sydd yn gwneud hwyl ar y Brifwyl ei hun, yn cael ei chynnal o gwbl, heb son ei bod yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac, sydd wedi cael ei gwahodd ganddynt am ‘encore’ eleni ar ôl yr un gyntaf yn 2018 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Ydy hyn yn golygu ein bod ni fel cenedl Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt wedi wir symud ymlaen o fod yn bobl capel parchus i fod yn bobl cynhwysol barchus? Ac os (gobeithio) mai hyn yw’r gwirionedd newydd, ydy’i phobl LHDTC+ yn barod i fynegi eu doniau llenyddol mewn print?

Felly, dyma fi’n meddwl, – beth am drio creu cymdeithas o bobl sy’n hoffi, neu o leiaf fyddai’n hoffi trio ysgrifennu llenyddiaeth am bobl LHDTC+ yn yr iaith Gymraeg? Ymddiheuriadau mawr os oes ffasiwn gymdeithas yn bodoli’n barod, ac os mai hynny yw’r gwirionnedd, – plîs fyswn i’n cael ymaelodi?? Ond os nad oes ffasiwn gymdeithas eisoes ym modolaeth, beth am un?

Rhywun hefo fi?

Y Sgwrs

Edrychodd Mari i fyw llygid Cai – mewn un ffordd i chwilio am ateb i’w chwestiwn cyn i’w chymer orfod yngan gair. Roedd hi wedi amau fod rhywbeth mawr ar y gweill ers peth wythnosau, a rŵan, prin wythnos cyn iddi hi orfod hel ei phac a gadael Porthyfelin am ddechrau newydd yn y brifysgol oedd yr amser i fynd ar afael ar beth oedd yn poenydio Cai.

Eisteddai Cai yno fe delw. Roedd ei geg yn hollol sych fel nyth cath ac er fod ganddo baned o de o’i flaen yn ei ddwylo, ni allai feddwl gymeryd llymaid rhag ofn iddo gyfogi. Gwyddai fod raid i’r sgwrs yma ddigwydd, ac y dylai fod wedi cymeryd lle cyn heddiw. Roedd o wedi gohirio’r sefyllfa yma cyn hired ag y gallai. Roedd o wedi osgoi Mari ar brydiau, gan ddod i fyny hefo esgusion simsan i beidio’i chyfarfod am frechdan ar y traeth, neu fynd i’r sinema i weld y ffilm oeddynt wedi disgwyl oes i’w gweld hefo’u gilydd. Roedd pethau wedi mynd mor ddrwg a phan oeddynt yn cael rhyw, doedd o ddim yn medru mwynhau – ac fe fu Cai’n un i fwynhau rhyw bob tro, yn enwedig hefo Mari, ond rŵan teimla’i fod dyletswydd arno i wneud yn siŵr fod Mari’n cyrraedd orgasm a’r holl y gallai o wneud oedd canolbwyntio ar gadw’i godiad wrth iddynt ffwcio – rhywbeth na arferai orfod canolbwyntio ar erioed o’r blaen. Teimla’i emosiynau cymysg, yn rwystredig am na allai siarad am y ffordd a deimla’i hefo Mari, – ei bartner a’i ffrind gorau, arferant rannu popeth ers iddynt fod mewn perthynas, doedd dim yn arfer bod yn tabŵ.

Teimla’i ddagrau’n powlio’n ei lygid, a doedd y geiriau ddim am ddŵad allan yn iawn, beth bynnag oeddynt am fod. Roedd o’n casáu ei hun.

“Cai, be’ bynnag sy’ gin ti i ddeud wrtha’i, paid a phoeni, dwi’n siŵr fydd o ddim mor ddrwg a hynna!” Ceisiodd Mari ei gysuro drwy ymestyn ei breichiau ar draws y bwrdd rhyngddynt a roi ei dwylo yn rhai yntau. Er ei bod yn ceisio cysuro’i phartner a’i ffrind gorau, gwyddai fod beth bynnag oedd i’w ddod am ei brifo’n un ffordd neu arall a theimlodd ei chalon yn curo’n galed yn ei brest.

Er fod y radio’n y cefndir yn lleddfu rhywfaint ar y distawrwydd lletchwith yn y caffi, roedd Mrs.Evans wedi hen ddarfod ei phanini gogoneddus, a, fel yr unig gwsmer arall yn y caffi ar y funud teimlai’n braidd yn anghyfforddus. Gallai glywed sgwrs y ddau gariad y tu ôl iddi a gwyddai na fyddai’r sgwrs yn diweddu gyda diweddglo “hapus am byth”. Penderfynnodd nad oedd hyn yn fusnes iddi a gwell fyddai gadael i’r ddau gael eu sgwrs gyda chyn gymaint o breifatrwydd a phosib. Gadawodd y caffi, gyda sŵn cloch y drws yn tincian ei “ding-a-ling-a-ling” y tu ol iddi yn sbardun i Cai gymeryd anadl drom ac yngan y geiriau,

“Mari, mi dwi MOR sori, mi dwi YN dy garu di….ond….” a dyna stop ar yr agoriad…

“Ond, ond be Cai, dwi’n dy garu di hefyd, ti’n gwybod hynny’n dwyt? Mae na fwy’n does. Be’ sy? Dwyt ti ddim wedi cyfarfod rhywun arall.” Dim cwestiwn oedd y frawddeg olaf honno gan Mari, mi fydda’i wedi sylweddoli os fyddai Cai’n ei thwyllo hefo merch arall. Ceisiodd ysu Cai i ymddiried ynddi a gollwng y geiriau oedd ar dan ond methu dŵad allan o’i geg.

“Mi dwi yn dy garu di…..” Meddai Cai eto wrth geisio ail-ymdrech ar ei ddatganiad,

“….ond. Ond yn ddiweddar mi dwi wedi dechrau cael teimladau gwahanol…na, dim gwahanol., mi dwi wedi bod yn cael y teimladau yma ers, ers erioed am ‘wn i ond dwi wedi medru ‘hanwybyddu nhw…”

Torrodd Mari ar ei draws wrth iddi sylweddoli beth oedd o’n fethu ei ddweud yn iawn “O mai god, ti’n hoyw ‘dwyt! O ni’n gwybod, – o ni’n amau. Pam na fyswn ni wedi sylwi’n gynt? Ffycin hel, dwi mor sdiwpid, dwi’n teimlo’n sal..” Gollyngodd afael ar ddwylo Cai, cochodd ei bochau a llenwodd ei llygid a dagrau, rhedasant lawr ei bochau’n llif poeth. Llifodd ei thrwyn yn un sneipen ludiog, doedd ganddi ddim hances sych ar ôl ei ddefnyddio i sychu ei wyneb yn y ty bach yn gynharach ar ôl y glaw felly defnyddiodd ei llawes i’w sychu i ffwrdd. Ferdai ddim edrych ar Cai felly syllodd allan o’r ffenestr a chymerodd anadl drom i sadio’i theimladau. Sylwodd ar y glaw yn dechrau eto ac yn taro’r ffenestr, dechreuodd felltio allan yn y mor a cheisiodd ddechrau cyfrif yr eiliadau rhwng y mellt a’r tarannau a’u dilynant, – rhywbeth fyddai hi a’i chwaer wedi ei wneud erioed mewn adeg storm. Ond doedd dim eiliadau i’w cyfrif yn ystod y storm oedd rŵan yn ei phen, roedd y storm hon yn yr eiliad, rownd y bwrdd hon yn y caffi bach yma rhyngtha hi a Cai. Ceisiodd fachu am ddarnau o jig-so eu perthynas yn ei phen. “Pa bryd nesdi sylwi, nesdi benderfynu? Pwy arall sy’n gwybod? Ydy Rich yn gwybod?” trodd ei phen i wynebu’r cownter i edrych os oedd ei ffrind yno’n sefyll ac yn gwrando ar y sgwrs, ond doedd Richard ddim yno, roedd o wedi mynd i gefn y caffi o’r golwg, efallai ei fod yntau, fel Mrs. Evans wedi mynd i geulo o’r storm tu fewn i’r caffi.

“Nacdi, tydy Richard ddim yn gwybod dim, dwi ddim yn ei ‘nabod o eniwe, dy ffrind di ydy o. Dim ond Mam ac Ana sy’n gwybod, neshi ddeud wrtha nhw ddechrau’r wsnos. Dwi ‘im yn hoyw Mari….dwi’n ddeu-rywiol, dwi’n lecio dynion a merched.”

Dyna fo, roedd o wedi medru datgelu i’w gymer beth oedd o wedi methu ei ddweud am beth deimlai fel am oes. Teimlodd ryddhad y funud honno, ‘na fo, roedd i’n gwybod rŵan, doedd dim mwy o gyfrinachau’n bwyta’i enaid.

“Dwi’n gwybod be mae ‘deu-rywiol’ yn feddwl y lembo.” Atebodd Mari drwy’i dagrau. Doedd y storm yn y mor ddim yn agosáu at Porthyfelin, ac roedd mymryn o Haul yn trïo’i orau i ddŵad trwy’r cymylau uwchben y pentref. Ystwythodd y clymau’n ei stumog ac arafodd y dagrau. Gwyddai fod rhywbeth mawr wedi bod yn poeni’i chariad ers pythefnos go lew, roedd hi ei hun yn teimlo rhyddhad ei fod yntau wedi medru ymddiried rhywbeth mor dyngedfennol iddi. Roedd hi’n ddynes ifanc gall, wedi ei magu ar aelwyd digon ryddfrydol, roedd hi a’i chwaer wedi siarad am rywioldeb yn aml gan fod ffrind agos i Ana’n y pentref cyfagos wedi ymddiried yndda hithau’n ddiweddar ei bod yn lesbian ac roedd Mari wedi son yn aml wrthi hithau am Richard a’r hanesion am ei fywyd personol y byddai yntau’n ei rhannu hefo hithau wrth iddynt gyd-weithio’n y caffi. Ond roedd y newydd yma’n dipyn o ergyd iddi ac roedd hi’n cael trafferth i brosesu beth fyddai hyn yn ei olygu iddi hi hefo bobdim arall oedd yn digwydd iddi hi ar y funud megis gadael Porthyfelin am y brifysgol.

“So, be mae yn ei olygu i ni ‘ta? Dwi wedi sylwi dy fod yn byhafio’n wahanol tuag ata’i, mae rhyw rhyngtha ni o hyd wedi bod yn wych ti’n gwybod hynny, – ond y tro dweutha i ni gael rhyw oedda chdi’n wahanol, fel doedda chdi ddim yn mwynhau bod hefo mi, a i fod yn onest Cai, mi fuo raid i mi gogio dŵad, – dwi ddim wedi gorfod gwneud hynna byth o’r blaen hefo chdi, doeddwn i ddim am ddeud wrtha chdi ond….A mi wti’n edrych yn wahanol yn ddiweddar, ti wedi stopio shafio dy gorff yn un peth, mae gin ti flewiach yn tyfu’n bob man!”

A stopiodd i sbïo ‘myw llygid Cai am y tro cyntaf ers iddo ddatgan ei newydd iddi. Doedd y ffaith ei fod wedi newid ei batrwm eillio ac yn bellach yn flewog ddim yn poeni Mari, oedd hi erioed wedi meddwl mai dewis Cai oedd o i eillio bob man. Roedd yntau rŵan yn crio, crio cymysgedd o ryddhad a thristwch. “Dwi mor sori Mari, chdi ydy’r person dweutha dwi isho’i brifo, ti’n gwybod hynny’n dwyt?” Doedd o ddim am ddweud wrthi ei fod o hefyd wedi gorfod cogio dŵad y tro dweuthaf iddyn nhw gael rhyw am ei fod yn teimlo mor ofnadwy o euog am ei deimladau. “Dwi’n dal i dy garu di Mari, ‘sdim raid i ddim byd newid nagoes?” Gobeithiodd y byddai Mari’n cytuno ac y gallent gario ‘mlaen fel cwpwl, er pan fydda hitha’n gadael am y brifysgol yr wythnos nesaf.”

“Cai…Cai, ti’n gwybod fydd hynna ddim yn bosib, does dim byd yr un fath rŵan rhyngtho ni, sut fedar o fod? Dwi ‘mynd i ffwrdd ‘wsnos nesa a fyddai ddim yn medru dŵad adra pob pen wsnos beth bynnag. Mi dwi’n dal yn dy garu ditha hefyd ond, ella fod hyn yn gyfle i ni ail-feddwl ein perthynas. Ti’n mynd drwy rhywbeth anferth ar y funud a dim ond y chdi all neud hyn Cai, mae gin ti ffrindia a theulu yma i fod yn gefn i chdi ond, am ddipyn, fyddai ddim yn medru bod yno i chdi, ti’n medru dalld hynny dwyt? Wyt ti wedi bod hefo…hefo dyn arall? Pam bo chdi’n meddwl dy fod yn lecio dynion eniwe?”

Mari, fel arfer oedd yr hanner mwy pragmatig o’r cwpwl, erioed wedi bod, a rŵan hyd yn oed pan wyneba’r perthynas ei her fwyaf, y hi oedd yr un i arwain y ffordd.

“Y, naddo, dwi heb fod hefo neb arall. Dwi mond yn gwybod fod gynnai’r teimlada ‘ma. Dwi ddim yn ffansio dyn arall, dwi im yn hyd yn oed siŵr os fyddwn i’n medru cael, – ti’n gwybod, fel rhew hefo dyn, dwi im yn siŵr os ydy hynna’n rhywbeth dwi isho neud eniwe ond, mae ‘na rywbeth.” Doedd Cai ddim yn siŵr os mai hon oedd yr amser i esbonio i’w gariad sut deimlad oedd o’n ei gael wrth syllu ar gyrff cyhyrog dynion chwyslyd yn y gampfa, a sut hyd yn oed yn ddiweddar oedd o wedi ar brydiau cael haliad slei yng nghawodydd y gampfa wrth feddwl am sut deimlad fyddai i deimlo llaw dyn yn halio neu dyn i sugno’i goc. Yn bendant dim rŵan fyddai’r amser i rannu’i brofiad o wylio Marc a Tom yn ffwcio ar Ben Foel y diwrnod poeth hwnnw y gadawodd hi o yno ac fel y cafodd yr orgasm mwyaf anhygoel wrth eu gwylio.

Daeth distawrwydd dros y ddau, yfent eu te o’r diwedd, oedd bellach wedi dechrau oeri ond doedd yr un o’r dau’n malio gormod am hynny.

“Ti’n siŵr mai dim hoyw wyt ti a dim deu-rywiol. Ti’n gwybod be’ mae nhw’n eu ddweud ‘Bi now, gay later..'” Gwyddai Mari’r funud y daeth y geiriau allan o’i cheg mai lol plentynaidd oedd y dywediad yna a byddai hynny’n brifo Cai, dyfarai’r eiliad honno ond oedd hi wrth gwrs yn rhy hwyr.

” Dwi ddim yn gwybod yn iawn Mari, dwi mond yn gwybod fy mod i’n dal yn dy garu di ar ddiwedd y dydd, felly…., ti’n gwybod be’, dwi am fynd iawn, sori am bob dim, plîs ga’i dy weld di cyn i chdi fynd i ffwrdd?” Meddai Cai wrth godi oddi ar ei gadair heb orffen ei baned. Oedd, mi oedd ‘jibe’ Mari wedi taro nerf, er, ar ôl popeth heddiw, mae’n siŵr mai hyn oedd y lleiafswm oedd o’n ei haeddu ond oedd, brifo’r un fath ddaru’r geiriau di-ofal. Gadawodd y caffi a cherdded tua’r traeth heb edrych yn ei ôl o gwbl. Roedd y tywydd wedi gwella gyda Haul ar dywod gwlyb y traeth yn sgleinio i’w lygid a’r gwylanod swnllyd yn dychwelyd ar ôl cysgodi rhag y glaw. Roedd gwynt ffres y mor yn fendith ar ei wyneb ar ôl ffasiwn sgwrs emosiynol yn y caffi.

Daeth Richard i’r olwg, gan gogio heb glywed unryw ran o’r sgwrs rhwng ei ffrind a’i chariad. “Duwcs, ar dy ben dy hun wyt ti Mars?” Holodd yn ddiniwed gan ddefnyddio’r enw y galwai ei ffrind. “Ia, mae’n beryg fy mod i bellach.” Atebodd hithau gan gymeryd fewn anadl drom a hwylio i adael y caffi. “Mars, tyrd draw heno os ti isho siarad, mae gynna’i botel o win neis yn y ffrij.” Cynigiodd Richard i Mari wrth iddi agor drws y caffi i adael.

“Gawn ni weld ia Rich, diolch i ti eniwe, ti’n fet da.” Meddai ac off a hi i ddyfodol newydd heb Cai’n gariad ffyddlon.

Eithin

“Sy’ isho mi roi eli Haul ar dy gefn di?” Gofynnodd Marc i Tom, wrth wasgu peth o’r eli o’r botel ar ei law’n barod beth bynnag oedd yr ateb am fod.

Roedd hi’n b’nawn Sul poeth o Fai  ac roedd yr hogiau wedi penderfynnu  mynd i Ben Foel i dorheulo ac ymlacio. Daethant a photel o ddŵr ac afal yr un fel bwyd a diod, doedda’ nhw ddim wedi bwriadu aros uno’n rhy hir.

Doedda’ nhw ddim yno ar ben eu hunain gan fod Pen Foel yn le poblogaidd i bobl ddod am bicnic, i weld y gromlech hynafol â’r olygfa tuag at y pentref a’r môr tu draw o uchder y bryn. Cafodd Marc a Tom le yn llygaid yr Haul ar ddarn o laswellt  wedi ei amgylchynu bron a thwmpathau trwchus o eithin yn eu llawn blodau. Roedd oglau blodau’r eithin yn dew yn yr aer o’u cwmpas a gwres yr Haul yn llethol yng ngorlan y llwyni pigog.

Roedd y ddau eisioes wedi tynnu eu crysau-T ac wedi bod yn gorwedd ochr yn ochr  yn eu tronsiau i gael y gorau o’r Haul. Gorweddai Tom ar ei stumog yn hanner darllen nofel oedd o wedi trio’i ddarllen o’r blaen. Cymerodd Marc ar ei hun i godi ac eistedd ar gluniau Tom a dechrau gwasgu’r eli Haul oer o’i botel a’i rwbio tros ysgwyddau poeth ei bartner. “O mae hynna’n braf” meddai Tom wrth deimlo oerni hudolus yr eli ar ei groen. Gollyngodd y llyfr o’i ddwylo a gorffwysodd ei wyneb ar y gwellt glas ac ymlaciodd ei ysgwyddau’n gyfan gwbl i fysedd ei bartner. Bu raid ail-gydio’n y llyfr rhyw dro arall a thrio eto. Rhwbiodd Marc fwy o’r eli tros ysgwyddau’i bartner, ac wrth weithio’r eli i fewn i’w groen, sylweddolodd cyamaint mwy cyhyrog oedd ysgwyddau Tom wedi datblygu ers iddo ddechrau mynychu’r gampfa’n y dre ddiwedd y flwyddyn dweuthaf. Tywalltodd ychwanneg o’r eli lawr hyd at waelod cefn Tom a gwingodd hwnnw gyda oerni’r hylif hudol. Rhwbiodd yr eli’n ofalus lawr yr asgwrn cefn, mwythonnodd yr hylif gwyn oer i’r cyhyrau, i lawr hyd at gyhyrau gwaelod y cefn, yna’n ei ôl fyny a rownd ei asennau a phrin gyffwrdd yn nipyls Tom.

Arhosodd Tom yn llonnydd gan ddweud dim gair. Teimlodd ei anadl yn cyflymu a teimlodd ei goc yn styrian yn ei drôns. Symudodd dwylo Marc nôl at waelod cefn Tom a rhwbiodd y cyhyrau naill ochr i gynffon ei gefn.

Y funud nesaf tynnwyd sylw’r ddau gan sŵn cwpwl yn cerdded heibio – wrthi’n chwilio am le delfrydol am bicnic, – os bu i’r cwpwl sylwi ar Marc a Tom yna ddaru nhw ddim cymeryd arnynt, ac aethant yn eu blaen  ymhellach ychydig i lawr y bryn.

Dychwelodd Marc i ganolbwyntio ar ei bartner eto, gan fynd a’i law lawr heibio lastig trôns Tom a chael hyd i’w dwll poeth. Cododd Tom ei belfis yn awgrymus, doedd Marc angen dim perswâd, – gwthiodd ei fys canol heibio’r sffincter tynn a theimlodd y poethni tu fewn. Ochneidiodd Tom a chaledodd ei goc ar unwaith. Edrychodd Marc o’i gwmpas tros yr eithin, doedd neb i’w weld yn agos o’u cwmpas er fod lleisiau yw clywed rhywle o gwmpas y gromlech y tu ôl iddyn nhw.

Tynnodd Marc ei drôns a’i law rhydd, roedd ei goc yntau’n galed eisioes hefyd gyda pre-cum wedi llifo i ddefnydd ei drôns cotwm. Tynnodd ei law arall yn rhydd o drôns Tom am eiliad a phoerodd ar ei fysedd cyn ei ddychwelyd at dîn ei bartner a theimlo am ei dwll tîn. Pwysodd ei fys canol i fewn heibio’r sffincter unwaith eto i fawr fwynhád amlwg ei bartner. Tynnodd Marc drôns Tom mewn un symudiad, cododd hwnnw ei belfis fyny’n awydd i gael beth oedd yn dwad nesaf. Tynnodd Marc ei flaengroen lawr heibio’i nob fawr wlyb cyn anelu’i goc at dîn eiddgar ei bartner. Edrychodd o’i gwmpas unwaith eto’n frysiog cyn cael gafael ar gluniau Tom a phlannu ei goc i fewn yn ddwfn ac ymhell i dîn Tom. Collodd Tom ei anadl am funud wrth i Marc wthio’i hun mewn un symudiad cyflym i gyd i fewn “…OOO ffwc, ia, ffwcia fi Marc, ffwcia fi hefo dy goc fawr galed!” mynnodd Tom wrth deimlo coc ei bartner yn ddwfn yn ei grombil .

Ac mi roedd hi’n goc reit fawr hefyd, wyth modfedd mwy neu lai, ac yn galed fel hearn Sbaen. Fe ffwciodd Marc ei bartner yno’n yr eithin, llifodd chwys lawr ei gefn, teimlodd wres yr Haul ar ei war, clywodd gwpwl arall a’u ci’n pasio, gwelodd lanc ifanc lleol yn sbïo arnyn nhw o ochr draw i’r eithin, gwyddai fod y llanc yma’n chwarae hefo’i goc yn ei shorts yr un pryd, yn cael haliad wrth wylio’r sioe. Roedd Marc wrth ei fodd hefo hyn a daliodd i ffwcio’i bartner yn fwy brwdfrydig nag erioed, a gwyddai nad oedd Tom yn gwybod fod ganddyn nhw gynulleidfa.

Dechreuodd ochneidio a bustachu wrth iddo ddod yn nes at ddwad, brathodd ei wefus isaf i drio peidio  bustachu mor uchel. Tynnodd ei goc allan o Tom, a thrôdd hwnnw rownd i’w wynebu ac i disgwyl yn eiddgar am ei anrheg…

Haliodd Marc ei goc am fater o eiliadau a chyn pen dim gydag un ochenaid anifeilaidd fe rhyddháodd gwerth pedwar diwrnod o sbync, mi ddôth,  tasgodd yr hylif gwyn poeth tros stumog, brest flewog a gwddw Tom. Digwyddodd i edrych i fyny a gweld – a chlywed y llanc yn dwad tros flodau’r eithin, gwelodd ei goc dew, tua chwe modfedd, a gweddill ei sbync yn llifo’n ddioglyd tros ei law. Arhosodd y llanc yno’n trio cael ei wynt yn ôl, a’i goc yn ei law, i weld beth ddigwyddai nesaf yr ochr arall i’r eithin, safai yno, gystal a dweud “..dwi’n gwybod na ddylswn i fod wedi bod yn sbïo arno chi ond, ffwc o beryg mod i’n mynd i adael rwan.”

Dychwelodd sylw Marc yn ôl i’r dyn horni noeth oedd yn gorwedd o’i flaen, gwennodd arno a chasglodd y sbync oddi ar gyhyrau ei stumog a’i ddefnyddio fel liwb i halio coc ei bartner, a gafaelodd yn ei gŵd a’i law arall, – rhoddodd ei holl sylw ar wneud i Tom ddwad. Roedd coc Tom yn llai na choc Marc, tua chwech a hanner modfedd ond oedd yn dewach o ddipyn. Haliodd ar hyd bôn y goc dew, gwyrodd lawr i sugno’i blaen yr un pryd gan wneud sŵn slyrpian gwlyb. Gyda’i law arall gollyngodd â cŵd Tom a dechreuodd yn hytrach chwarae gyda’i frest flewog, a teimlodd am ei nipyls, gwyddai na hoffai Tom i neb wasgu’n ormodol ar ei nipyls felly fe gyfforddodd a nhw’n dendar, gwyddai wrth wneud hyn na fyddai’n cymeryd llawer eto i’w bartner ddwad. Yn wir, o fewn dim o amser fe ddechreuodd Tom ochneidio a bustachu’n go uchel. Cariodd Marc ymlaen i sugno a halio coc Tom ond symudodd ei law sbynclyd i’w roi tros geg Tom i’w ddistewi tipyn, – ond yn ofer.

Tynnodd Marc ei wefusau oddi ar goc Tom jest mewn pryd. Sbynciodd Tom ag un ochenaid o ryddhad uchel, tasgodd y sbync o’i goc gyda grym gan daro Marc ar ei frest tra neidiodd mwy i’r eithin. Daliodd Marc i halio coc ei bartner, hoffodd wasgu’r goc i wneud dwy wythien las oedd arni sefyll allan yn fwy fwy wrth atal y gwaed lifo oddi wrthi.

“O ffwc Marc, mi oeddwn i angen hynna” oedd yr oll allai Tom ei ddweud nes i’w anadl ddychwelyd. Cododd ar ei eistedd a chusanu Marc yn dendar ar ei wefysau, ac ar yr un pryd gafaelodd yng nghoc ei bartner a oedd dal yn hanner caled ac yn dal i lifo ychydig o sbync. Tynnodd ei hyn yn rhydd o wefysau ei bartner, edrychodd i fyw ei lygaid cyn mynd ati i lyfu’r sbync oedd wedi glanio ar gyhyrau brest Marc.

Safai’r llanc yn ei unfan am ychydig, a chan weld fod y sioe drosodd, aeth yn ei flaen tuag at adref, wedi gwneud penderfynniad a fyddai’n newid ei fywyd…

Gorweddai’r ddau’n chwysllyd yn nôl ar y gwellt a’u hanadl dal heb arafu. Roedd oglau melys yr eithin rwan yn gymysg ag oglau sbync y ddau. Ar ôl rhai munudau o ddistawrwydd straffagliodd Marc a Tom i roi eu tronsiau’n nôl amdanynt, clywsant deulu’n agosau o gyfeiriad y Gromlech yn trio dal ‘fyny hefo glöyn byw a oedd yn eu tywys tuag at gyfeiriad yr hogia.

…………………………………………………………………………………………………

Ychydig funudau ynghynt,

“Na Cai, paid, plis stopia, ‘sgynai ddim amser i hyn, maraid i mi fynd i ‘ngwaith derbyn pedwar!”

Gafaelodd Mari yng ngarddwrn ei chariad o chwe mis a’i stopio rhag daffodd ei bra. Wedi cael deuawr o sgwrsio a drôdd yn gusanu ac ychydig mwy yng ngwres yr Haul ar lethr Ben Foel roedd raid i Mari ei throi hi’n fuan a mynd ar ei shifft prynhawn yng Ngwesty’r Angor yn y pentref. Doedd fyw iddi fod yn hwyr eto ar ôl y tro dweuthaf, – a oedd eto’n ddiolch i Cai. Roedd hi angen y pres i helpu tuag at dalu am ei chwrs archeoleg yn y brifysgol a ddechreuai mewn ychydigo wythnosau.

“O plîs Mari, ti mor secsi a mi fysa’n grêt gwneud allan hefo chid’n fama, – does ‘na neb arall o gwmpas.” Plediodd Cai gan orwedd ar ei gefn er mwyn iddi weld y codiad amlwg yn ei shorts.

Gwyddai Mari mai ffordd Cai o drio bod yn ‘rhamantus’ oedd dweud ‘gwneud allan’ pan olygai ‘gael rhyw’ – a mi fysa hi wedi hoffi cario ‘mlaen, doeddan nhw heb gael rhyw ers bron i fythefnos rhwng ei shifftiau hi a gwaith Cai, ond yn anffodus roedd raid iddi fynd. Roedd rhyw hefo Cai’n grêt, ei hail chariad go iawn, roedd o’n dyner a chariadus ac o hyd yn trio gwneud yn siwr y bydda hi’n dwad cyn y fo, er fod hyn ar brydiau’n amlwg wedi bod yn anodd!

Meddai hithau i leihau’r boendod o gael ei wrthod, “Sw ni wrth fy modd yn cael jump hefo chdi yma’n ganol y rhedyn a’r eithin – dwi’n ysu i dy gael di, wir yr!” meddai wrth hel ei phac, a chydio yng nghodiad amlwg yn shorts ei chariad.

“O come on Mari, plîs, – mi weli di gymaint dwi’n ‘ysu’ hefyd!’ Protestiodd Cai ond roedd Mari’n barod ar ei thraed ac yn cychwyn cerdded yn ôl lawr am y pentref.

“Welai di fory Cai, lyf iw!” meddai wrth  dynnu darnau bach o redyn sych o’i gwallt a chodi ei llaw heb tro’i phen yn ôl i sbîo arno.

Arhosodd Cai lle’r oedd o, beth oedd o am ei wneud rwan hefo’r codiad yn ei shorts? Cododd ar ei draed gan fwriadu anwybyddu ei goc galed a dechhreuodd gerdded i fyny tuag at y Gromlech, – sylwodd ar ôl ychydig o gamau nad oedd ei godiad am gael ei anwybyddu mor hawdd a hynny. Ceisiodd ei wneud yn llai amlwg gan gerdded a’i ddwy law’n ei boced, ceisiodd ail-drefu pethau fel nad oedd ei goc iw weld mor amlwg ond wrth gyffwrdd ynddi fe galedodd yn fwy.

Yna’n sydyn, prin ddau fedr wrth ei ymyl fe glywodd leisiau dau ddyn yn dod o gyfeiriad twmpath mawr o eithin, “….o ffwc Marc, ffwcia fi, ffwcia fi hefo dy goc fawr..”

Gwyddai Cai pwy oedd Marc a’i bartner gan fod pawb yn ‘nabod eu gilydd yn y pentref, er nad oedd eiroed wedi siarad a’r un o’r ddau’n gymdeithasol. Er cysidrai Cai ei hun yn strêt, roedd o’n medru edmygu’r ffurff gwrywaidd dynol, ac ambell waith wedi dal ei hun yn stydio cyhyrau breichaiu, coesau, ac ysgwyddau dynion yn ei gampfa. Teimodd ei godiad rwan yn boenus o galed yn ei drôns. Penderfynnod sbecian drwy’r eithin i weld be oedd yn digwydd, gwelodd, na, clywodd tuchan un dyn ac yna’r llall cyn gweld Marc yn noeth lymyn yn ffwcio’i bartner Tom. Roedd y ddau gorff mewn un rhyddm chwyslyd, y dau’n tuchan tros sŵn eu ffwcio.

Edrychodd Cai o’i gympas, doedd neb arall i’w gweld yn agos, cyn tynnu ei grys-T tros ei ben, a thynnu ei goc eiddgar allan o’i shorts. Roedd pre-cum eisioes yn llifo o’i goc, doedd dim angen poer fel liwb. Dechreuodd halio’i goc a sbîo eto ar beth oedd yn digwydd o’i flaen drwy’r eithin.

Petrusodd am eiliad pan fu i’w lygaid gyfarfod â llygaid Marc. Safodd yno a’i goc galed yn ei law, – sylwodd Marc ar y llanc ifanc am y tro cyntaf, yn amlwg yn cael haliad wrth ei wylio’n ffwcio’i bartner. Rhoddodd hyn fwy o ysfa i Marc ffwcio Tom yn galetach gan wybod eu bod yn cael eu gwylio fel hyn. Y mwy y stydiodd Cai’r ddau’n ffwcio o’i flaen, mwy horni y teimlodd yntau. Gyda’i law rydd, mwythonnodd gyhyrau ei frest  – teimlodd lle roedd wedi shafio’r blew llai na bythefnos ynghynt, roedd wedi dechrau ail-dyfu, – coeliai nad oedd merched yn or-hoff o ddynion blewog am rhyw reswm. Aeth yn ei flaen i deimlo’i fôls, eto, roedd o wedi shafio’i gŵd am yr un rheswm, er nad oedd Mari erioed wedi datgan ei barn ar flewiach dynion iddo ers iddynt fod gyda’u gilydd.

Sylwodd nad oedd yr un o’r ddau ddyn o’i flaen yn shafio, – wel nunlle, roedd y ddau’n flewog o’u corryn yw traed.

Sylwodd ar Marc yn tynnu ei goc fawr o Tom a’i halio. Roedd y sŵn halio a’r tuchan yn ddigon i Cai. Syllodd ar Marc pan ollyngodd ei sbync tros ei bartner, roedd yr hylif poeth gwyn ymhobman. Anghofiodd Cai lle’r oedd o a hyd yn oed pwy oedd o pan cyrrhaeddodd at ei orgasm “….o, o, o ffwc, ffycin-el” meddai’n braidd yn rhy uchel. Tasgodd llif dew o sbync poeth o’i goc mewn llif nerthol gan lanio ar flodau’r eithin cyfagos. Roedd yn rhaid iddo sadio’i hun rhag baglu tros ei shorts wrth i’w orgasm gilio a gweddillion y sbync lifo’n ddioglyd o’i goc ar hyd ei law ac yna’n un llif sgleiniog ar ei shorts, – doedd o heb gael orgasm fel yna ers tipyn, hyd yn oed hefo Mari.

Safodd yno am rai eiliadau a’i goc yn ei law, gwrthododd i ollwng ar ei chaledni, rhaid oedd i Cai ei gwthio’n ei hôl i’w drôns yn weddol boenus, sylwodd ar hoel ei sbync gwlyb ar ei shorts, doedd dim y gallai wneud am hynny rwan, gobeithia’i y byddai wedi sychu’n ngwres yr Haul cyn cyrraedd y pentref. Dychwelodd ei anadl a churiad ei galon yn ôl yw rhyddm arferol. Gwelodd löyn byw’n hedfan tuag at ei sbync ar y blodyn eithin cyfagos cyn iddo fynd ymalen ar ei antur bach ei hun.

Tynnwyd ei sylw ar Tom a oedd dal yn gorwedd ar y gwellt tu draw i’r blodyn eithin gludiog. Sylwodd ar Marc yn rhoi ei law tros geg Tom i ddistewi ei duchan wrth iddo yntau agosau tuag at ei orgasm. Sylwodd fod coc Tom yn fyrrach ond yn dewach na un Marc, ond pan ddechreuodd ddwad, gwelodd fod mwy o sbync yn tasgu oddi wrtho, – doedd Cai erioed wedi gweld cymaint o sbync! Tynnodd Cai ei grys-T yn ôl tros ei ben gan anelu i’w chychwyn hi nôl adref ond ar ôl sylwi ar y ffasiwn sbync o goc y Tom, dechreuodd ddyfalu syt deimlad fyddai o gael dyn i ddwad trosto fo, ac unwaith eto, gwrthododd ei goc ei hun ufuddhau i’w orchymyn i fynd yn llipa!

Wrth adael Pen Foel a chychwyn cerdded y filltir yn ôl i’r pentref, methodd Cai a chael y darlun o’r ddau ddyn golygus yn ffwcio a dwad tros eu gilydd allan o’i feddwl. Nid yn unig hynny, ond, mewn dychryndod, sylwodd Cai pa mor horni oedd yr holl sefyllfa wedi ei wneud, – a’r ffaith ei fod wedi bod mor horni wrth wylio’r sioe nes iddo halio’i hun o’u blaen, mewn ffordd yn rhannu’r profiad hefo nhw, ac iddo gael un o’r orgasmau mwyaf dwys ei fywyd!!

Beth oedd yn i gyd yn ei olygu?

Gwyddai Cai’n iawn beth olygai hyn wrth gwrs. Golygai hyn ei fod wedi cychwyn ar siwrnai a oedd ar y gweill ers peth amser. Roedd Cai wedi bod yn gwadu’n gwir ers misoedd, blynyddoedd efallai. Cerddodd lawr y cae tuag at yr adwy a ddilynai i lôn y pentref. Gwrandawodd ar y gwenynnod a’r adar bach o’i gwmpas yn brysur wrth eu gwaith. Cofiodd sylwi ar y glöyn byw gynna wrth iddo ddod tros y blodyn eithin. Cofiodd am Mari, a meddyliodd am y sgwrs fydd raid ei wynebu â hi’n fuan, sut fydda’r ffordd orau i ddweud wrthi “Mari, dwi’n ddeu-rywiol”?

Croeso i Cwïar Cymraeg.

Ia, croeso annwyl ddarllennwr, Cwïar Cymraeg ydy beth ydw i wedi galw fy hun am mai, wel, dyna ydw i. Pam y gair ‘cwïar’ gofynnwch? Wel, dwi’n meddwl bo hi’n hen bryd i ni fel pobl LHDTC+ hawlio meddiant y gair yn ôl  – ac, am reswm hollol wahanol, mi dwi’n hoffi medru defnyddio geiriau sy’n cynnwys didolnodau (umlaut) yn y Gymraeg, rhywsut  i mi mae’r rhain yn gwneud ein hiaith yn fwy Ewropeaidd, be da chi’n feddwl?

A sôn am Gymraeg, maddeuwch i mi am y cam-sillafu sydd i ddod, – ac yn sâff i chi, mi fydd yma lawer iawn o’r rheiny. Mi fydd yma ambell i air efallai  bob hyn a hyn yn Saesneg neu wedi ei fenthyg o’r iaith honno o leiaf, mi gawn ni weld sut yr eith hi ia?

Mwy am y blog rwan ta. Wel, fy mwriad ydy ysgrifennu storïau byrr erotig am fywydau pobl mewn ardal wledig ffug yng Nghymru. Mae’r mwyafrif o’r cymeriadau yma’n Gymraeg eu hiaith ac wedi eu magu, neu o leiaf wedi byw rhan fwyaf o’u bywydau’n yr un ardal. Mae’r rhan helaeth o’r cymeriadau’n rhywle ar yr ochr LHDTC+ o’r sbectrwm rhywioldeb gydag ambell eithriad bob hyn a hyn. Pam erotig medda chitha? Wel, am fy mod i fel dyn hoyw Cymraeg  heb ddod ar draws fawr ddim llenyddiaeth o’r fath yn fy iaith gyntaf. Tydw i ddim yn gwybod pam, efallai mod i heb wedi chwilio’n y lle iawn, efallai nad oes y Cymry Cymraeg, hoyw neu ddim, ddim eisiau darllen ffasiwn beth? Efallai fod ein agweddau ni fel cenedl yn dal i fod yn rhwym i agweddau crefyddol amser grym y capeli’r ganrif ddweuthaf? Efallai ein bod ni’n darllen llenyddiaeth erotig mewn iaith arall, ac yn sgîl hyn yn gwadu ein bod ni angen rhywbeth tebyg yn Gymraeg?  – Neu hwyrach bod ein bywydau rhywiol ni fel Cymry mor amryliw fel nad oes gofyn am ffasiwn lenyddiaeth! Os mai hynny yw’r gwir, mam bach, mae’n raid mod i’n colli allan ta!

Felly, dyma ni, mi ddechreuwn ni. Hwn yw’ch unig rybydd, fel y clywch chi ar y teledu;

 “….mae’r rhaglen hon yn cynnwys iaith grêf a golygfeydd o natur rywiol o’r cychwyn!”  

….dim gymaint o’r ‘golygfeydd’ yma’n amlwg, mi fydd raid i chi ddefnyddio’ch dychymyg i gyfleu’r sefyllfaoedd yn y storïau hyn i’ch pennau chi.

Diolch eto, a mwynhewch!

Annwyl ddarllennydd, diolch am ddod o hyd i mi, rydw i’n gwerthfawrogi’ch amser i ddod yma! Hwn yw fy nghynnig cyntaf ar flogio gyda WordPress. Mi fyddaf yn ‘sgwennu storïau byrrion yma, yn seiliedig ar gymeriadau mewn pentref wledig ffug yng nghefn gwlad Cymru. Storïau ffantasi fydd y rhain o natur erotig hoyw ran amlaf. O erdych o nghwmpas tydw i heb ddod ar draws llawer o waith ffug ysgrifennedig yn y Gymraeg yn ymwneud â ac yn seiliedig ar ddynion hoyw a’u bywyd rhywiol felly dyma fy ymdrech i i ddod a deunydd i Gymry hoyw sydd efallai eisiau darllen rhywbeth sydd yn wahanol, ac yn Gymraeg!